Gyda chyfrif cynilo i blant, mae plant yn dysgu sut i reoli arian – ac mae gan rieni, perthnasau a ffrindiau le i gynilo ar gyfer plentyn maent yn gofalu amdano.
Cael eich plant i mewn i’r arfer o gynilo
Mae cael eu cyfrif cynilo eu hunain yn gwneud i blant fod yn fwy ymwybodol o arian a gall eu hannog i ddatblygu arferion cynilo da fel oedolion.
Hyd nes y bydd eich plant yn ddigon hen i neilltuo rhywfaint o arian poced neu anrhegion arian pen-blwydd eu hunain, gallwch arbed ychydig iddynt bob mis. Sefydlwch archeb sefydlog i gronni cyfandaliad ar eu cyfer dros ychydig flynyddoedd.
Sut mae cyfrifon cynilo i blant yn gweithio
Mae cyfrifon cynilo plant fwy neu lai yr un fath â rhai oedolion ac yn cael eu cynnig gan fanciau a chymdeithasau adeiladu. Mae ychydig o wahaniaethau, ond yn bennaf maent yn gyfrifon arian parod syml, diogel sydd fel arfer yn talu rhywfaint o log.
Gallwch agor cyfrif cynilo â dim ond £1 ar gyfer unrhyw blentyn hyd at 18 oed.
Gall plant dros saith oed reoli eu cyfrif cynilo eu hunain - yn dibynnu ar y cyfrif, gallant dynnu arian allan a'i dalu i mewn.
Mae hefyd gyfrifon treth-effeithlon o'r enw ISAs i bobl Iau - mwy amdanynt yn nes ymlaen.
Dewis y cyfrif cynilo cywir i blant
Mae dau brif fath o gyfrifon cynilo i blant – cyfrifon mynediad rhwydd neu dim rhybudd a chyfrifon cynilo rheolaidd.
Mynediad rhwydd a dim rhybudd at gyfrifon cynilo i blant
- Fel y mae’r enw’n ei awgrymu – gallwch chi neu eich plentyn godi neu adneuo arian unrhyw bryd.
- Fel arfer, cewch gyfradd llog is na mathau eraill o gyfrifon.
Cyfrifon cynilo’n rheolaidd
- Mae’r rhain wedi’u cynllunio i annog arferion cynilo rheolaidd – mae rhaid i chi gynilo arian yn y cyfrif bob mis, ac efallai na chewch ei dynnu allan yn hawdd.
- Fel arfer, maent yn talu cyfradd llog uwch na chyfrifon dim rhybudd.
- Gyda’r rhan fwyaf o gyfrifon, os byddwch yn colli rhai o’r taliadau misol efallai y caiff y gyfradd llog ei gostwng.
Treth ar gynilion plant
A oes angen i blant dalu treth?
Fel oedolion, mae gan blant Lwfans Personol ar gyfer treth incwm – £12,570 ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25.
Os bydd eu hincwm blynyddol (gan gynnwys llog) islaw’r swm hwn, ni fydd rhaid iddynt dalu treth arno.
Er mwyn adennill unrhyw dreth na ddylai fod wedi’i thalu, dylech gwblhau Ffurflen R40 gan Gyllid a Thollau EMYn agor mewn ffenestr newydd
Treth ar arian a roddir gan rieni, ffrindiau a theulu
Gallwch roi unrhyw swm o arian i blentyn, neu ei fuddsoddi ar ei ran, ond os ydych yn rhiant neu’n lys-riant, mae rheolau arbennig yn gymwys:
- Os ydych wedi rhoi arian i’ch plentyn sy’n ennill dros £100 y flwyddyn mewn llog, difidendau, rhent neu unrhyw incwm arall o fuddsoddiad, codir treth ar y llog fel pe bai’n perthyn i chi. Nid yw hyn yn berthnasol i ISAs i bobl Iau neu Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.
- Nid yw hyn yn gymwys i unrhyw un arall – gall neiniau a theidiau a ffrindiau roi cymaint ag y mynnant. Fodd bynnag, gallai fod goblygiadau treth y byddwch am eu hystyried. Gallai rhoi arian parod ar yr adeg anghywir neu yn y ffordd anghywir olygu y cewch eich erlid gan y dyn treth ar ddyddiad diweddarach.
Cynilion treth-effeithlon i blant
Mae ISAs i bobl Iau yn ddewis arall ar gyfer bod yn effeithlon â threth.
Gall plant gynilo hyd at £9,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25 yn eu ISA i Bobl Iau, ac ni chodir treth ar y llog.
Gallant gyrchu’r arian pan ydynt yn 18 oed yn unig, a phryd hynny, hwy biau’r arian.
Gweler ISAs i bobl iau am fwy o wybodaeth
Pa gyfrif cynilo i blant sydd orau i’ch plentyn?
Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'w hanghenion.
Gallai fod yn syniad da defnyddio mwy nag un safle gan y gallant ddangos canlyniadau gwahanol. Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.