Cynilo arian i fynd ar wyliau

Cynilo am wyliau a thalu amdano gydag arian parod yw’r dewis gorau ar gyfer eich cyllid fel arfer. Pan na fydd rhaid i chi fenthyg arian, byddwch yn ymlacio, ac ni fyddwch yn aflonydd oherwydd pryderon ariannol. Yma y mae canllaw fesul cam ar sut y gallech gynilo ar gyfer eich gwyliau nesaf.

Dod o hyd i arian i’w gynilo hyd yn oed pan fyddwch yn teimlo nad oes gennych arian

Nid yw hi bob amser yn hawdd cynilo, ond mae’n rhywbeth y dylech anelu at ei wneud.

Mae diffyg arian sbar yn rhwystr cyffredin tuag at gynilo. Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud a fydd yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i ychydig o arian ychwanegol y gallwch ei roi tuag at eich cynilion. Maent yn cynnwys

  • adolygu eich biliau eich cartref a newid eich cyflenwyr ynni i arbed tua £300 y flwyddyn
  • gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych yr hawl i’w cael
  • cael reolaeth ar eich cyllideb trwy adolygu’ch incwm a’ch gwariant
  • lleihau gwariant yn eich meysydd mwyaf.

Gosod gyllideb

Mae’n bwysig iawn cyfrifo faint rydych eisiau ei gynilo a faint y gallwch fforddio ei roi o’r neilltu bob mis.

Dyma sut i’w wneud.

Yn gyntaf, lluniwch restr o’r holl eitemau y mae angen i chi dalu amdanynt cyn i chi fynd.

  • arian teithio
  • Yswiriant teithio
  • llety
  • eli haul a phethau ymolchi
  • teithio (hediadau a chostau tanwydd)
  • dillad gwyliau a dillad nofio
  • llogi car (ac yswiriant gormodedd car).

Yn ail, meddyliwch am dreuliau dyddiol ar wyliau megis:

  • gwibdeithiau
  • pleserau ar wyliau
  • adloniant
  • bwyd a diod.

Adiwch y costau hyn ynghyd a bydd gennych nod cynilo.

Mae’n bosibl y gallwch arbed ychydig ar gostau’r gwyliau hefyd, sy’n golygu y bydd angen i chi gynilo ychydig yn llai o arian.

Dechrau cynilo

Dylech drin cynilo’r un ffordd â thalu bil, ac ymrwymo i gynilo swm rheolaidd bob mis neu wythnos. Fel hyn bydd yn llawer yn haws i chi gyllidebu cynilion a gwariant.

Ond byddwch yn realistig – mae’n well ymrwymo i swm bach, ymarferol na cheisio’n rhy galed a rhoi’r gorau iddi.

Os yw’ch incwm yn amrywio o fis i fis neu hyd yn oed o wythnos i wythnos, neilltuwch swm rydych yn gwybod y gallwch gadw ato, waeth pa mor fach y mae’n teimlo. Gallwch bob amser ychwanegu ato yn ddiweddarach. Y nod yw peidio â chyffwrdd yr arian yr ydych wedi’i neilltuo.

Awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau cynilo

  • Dechreuwch mewn ffordd syml trwy roi newid mân mewn jar bob wythnos. Bydd cynilo £3 y dydd yn golygu y byddwch chi’n cynilo £1,095 y flwyddyn.
  • Os yw hyn yn gweithio, neilltuwch ychydig yn fwy yn rheolaidd.
  • Os yw hyn yn anodd, cynilwch yr hyn sy’n bosibl i chi mor rheolaidd ag y gallwch. Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth mawr.
  • Ceisiwch gynilo yn gymdeithasol, er enghraifft gyda ffrind, a gwiriwch gyda hwy i weld sut mae’n mynd.
  • Gwnewch y cynilo yn weledol trwy olrhain eich cynnydd gyda siart – gallwch roi rhywbeth ar yr oergell neu ar wal eich ystafell wely.
  • Defnyddiwch Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog i dynnu swm rheolaidd yn awtomatig o’ch cyflog a’i roi mewn cyfrif cynilo fel na fyddwch byth yn anghofio cynilo.
  • Rhowch enw i’ch nod – boed hynny’n daith i’r teulu i’r arfordir yn y DU neu wyliau rhamantus i Rufain, bydd rhoi enw i’ch nod yn eich cymell.

Cuddio eich cynilion

Mae’n bryd dechrau meddwl am le i gadw’ch cynilion.

Mae cyfrifon banc yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel cynilo’ch arian. Efallai y byddwch yn dechrau gyda jar arian – bydd cynilo £10 yr wythnos yn cronni £520 y flwyddyn i chi. Ond, cofiwch drosglwyddo’ch arian i gyfrif cynilo pan fydd swm taclus wedi’i gronni.

Fel hyn, gallwch ennill ychydig o log ar ei ben.

Bydd eich banc yn caniatáu i chi sefydlu cronfa ar wahân ar gyfer eich nod gwyliau ar-lein. Trefnwch un os gallwch oherwydd bydd yn eich helpu i osod targed ac olrhain eich cynnydd.

Dod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau

Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da os ydych eisiau dod o hyd i gyfrif cynilo wedi’i deilwra i’ch anghenion.

Ni fydd y gwefannau cymharu i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.

Mae hefyd yn bwysig gwneud ychydig o ymchwil i’r math o gynnyrch a nodweddion y mae eu hangen arnoch cyn prynu unrhyw beth neu newid cyflenwr.

Disgwyl yr annisgwyl

Mae bron i dri o bob 4 o bobl yn profi o leiaf un gost annisgwyl bob blwyddyn. Pethau megis y car yn methu, y ffwrn yn torri neu hyd yn oed dirwy parcio, gallai hynny fod yn ergyd fawr i’ch nod cynilo.

Y ffordd orau o beidio â chael eich dal allan yw neilltuo ychydig arian i dalu am y costau hyn, hyd yn oed os mai’ch prif nod yw cynilo ar gyfer gwyliau.

Dyma sut i sicrhau bod gennych rywbeth wrth gefn os bydd rhywbeth drud yn digwydd yn annisgwyl:

Rhestrwch dreuliau posibl

Pa dreuliau y credwch a allai godi? A yw’r car yn dangos arwyddion o dreulio, a yw’r boeler neu’r peiriant golchi yn hen iawn?

A allech leihau'r tebygrwydd y bydd cost yn codi, trwy gael gwasanaeth neu yswiriant?

A allwch newid rhywbeth yn rhatach yn y sêl yn awr cyn iddo dorri yn llwyr neu a yw rhywun yn cynnig rhywbeth y byddwch ei angen neu sgil y gallwch gael disgownt arno?

Cyfrifwch faint y byddai cronfa arferol wrth gefn ar eich cyfer.

Gall hyn eich helpu i anelu at rywbeth.  

Gwneud cynilo yn arferiad

Hyd yn oed pan fyddwch wedi gorffen cynilo am wyliau, peidiwch â rhoi’r gorau iddi – gellir defnyddio’r arian at gronfa wrth gefn, mynd tuag at wyliau newydd, neu’ch helpu i fyw yn gyfforddus yn y dyfodol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.