Cynilo ar gyfer eich plant

Mae cynilo ar gyfer plentyn heddiw yn rhodd wych i’r dyfodol. Nid yn unig y gall ddechrau ei fywyd fel oedolyn â rhywfaint o gynilion, ond mae annog plant i gynilo yn gynnar hefyd yn eu helpu i ddysgu gwersi pwysig am arian. Dyma rai o’r opsiynau cynilo i blant all eich helpu i ddechrau cynilo.

Cyfrifon cynilo i blant ac opsiynau cynilo i blant

  • Gallwch drefnu cyfrif â banc neu gymdeithas adeiladu ar ran plentyn. Gall ddechrau rheoli ei gyfrif ei hun unwaith y bydd yn saith oed.
  • Gallwch agor cyfrif â chyn lleied â £1 ar gyfer unrhyw blentyn hyd at 18 oed.
  • Mae’r cynilion hyn yn cynnig ffordd wych o ddysgu sut i reoli arian ac yn helpu plant i ddod i’r arfer â chynilo. A bydd rhai darparwyr yn cynnwys rhodd â’r cyfrif, fel cadw-mi-gei.
  • Mewn rhai achosion, gall eich plentyn godi ei arian pryd bynnag y bydd yn dymuno gwneud hynny.
  • Mae dau brif fath o gyfrif cynilo i blant: mynediad dim rybudd (a elwir hefyd yn fynediad rhwydd), a chynilo rheolaidd.
  • Gyda chyfrif mynediad dim rybudd, gallwch chi neu’ch plentyn godi neu dalu arian i mewn ar unrhyw bryd. Fel arfer, cewch gyfradd llog is na mathau eraill o gyfrifon.
  • Mae cyfrifon cynilo rheolaidd wedi eu cynllunio i annog plant i gynilo swm bob mis, yn aml wedi eu cynnal am gyfnod penodol o amser - er enghraifft 12 mis. Os byddwch yn tynnu arian allan o fewn y cyfnod hwnnw, gall y cyfrif leihau’r llog a derbyniwch. Fel arfer, ac o ganlyniad, mae’r cyfrifon hyn yn talu cyfradd llog uwch na chyfrifon mynediad dim rybudd a mynediad rhwydd.

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi’i deliwra i’ch anghenion.

Mae’r gwefannau hyn yn lle dda i ddechrau wrth chwilio am gyfrif cynilo:

Ond byddwch yn ymwybodol, ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.

Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.

Cadw-mi-gei

  • Syniad da i blant ifanc iawn ble mae’r pethau allweddol sydd angen iddynt ddysgu yw nad tegan yw arian a bod angen i chi ei gadw mewn lle diogel.
  • Mae’n helpu i ddeall gwerth gwahanol ddarnau a phapurau arian, ac nad yw darnau arian mwy o reidrwydd yn fwy gwerthfawr.
  • Mae hefyd yn gyfle da i ddechrau rhoi arian poced rheolaidd i’ch plentyn, â chyfrifoldeb bychan yn atodedig fel cael rhywbeth arbennig ar y penwythnos. Bydd hyn yn ei helpu i ddysgu fod rhaid cynilo ar gyfer beth rydych ei eisiau, bod rhaid gwneud dewisiadau, a phan fydd wedi mynd bydd wedi mynd.
  • Cofiwch nad yw swm yr arian poced yn bwysig, gall fod cyn lleied â 5c – oherwydd yr arfer sy’n wir bwysig. Peidiwch â cholli cyfle o ran yr agwedd cyfrifoldeb oherwydd fel arall mae perygl y bydd eich plentyn yn gwneud dim mwy na chasglu arian, yn hytrach na datblygu dealltwriaeth o sut mae arian yn gweithio.

ISAs Stociau a chyfranddaliadau i Bobl Iau (a elwir yn JISA weithiau)

  • Os ydych am agor ISA i bobl iau i'ch plentyn a bod ganddynt Gronfa Ymddiriedolaeth Plant eisoes, gofynnwch i'r darparwr drosglwyddo'r arian o'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i'r ISA i bobl iau.
  • Gall ISAs arian parod i bobl iau fod yn opsiwn cynilo da oherwydd ni fydd eich plentyn yn talu unrhyw dreth ar y llog y mae'n ei ennill. Mae stociau a chyfranddaliadau ISA i bobl iau yn ‘effeithlon o ran treth’ oherwydd bod eu buddsoddiad yn rhydd o unrhyw atebolrwydd i Enillion Cyfalaf neu dreth incwm.
  • Er bod rhaid i riant neu warcheidwad agor y cyfrif, mae’r arian yn eiddo i’r plentyn. Ond dim ond pan fydd yn 18 oed y gallant godi’r arian.
  • Gall pob plentyn gael un ISA arian parod i bobl iau ac un ISA stociau a chyfranddaliadau i bobl iau yn ystod ei blentyndod, ond mae’n bosibl trosglwyddo pob un i ddarparwyr gwahanol.
  • Mae ISAs Arian Parod i Bobl Iau yn gweithio yn yr un ffordd â chyfrif cynilo, ar wahân i’r ffaith na thelir treth ar y llog ac y caiff yr arian ei gloi nes i’r plentyn droi’n 18 oed.
  • Mae ISAs Stociau a chyfranddaliadau i bobl iau yn caniatáu i chi brynu cyfranddaliadau, bondiau a buddsoddiadau cymwys eraill ar ran y plentyn. Gall gwerth y buddsoddiadau a’r incwm hyn ostwng yn ogystal â chynyddu.
  • Y trothwy ISA i bobl iau ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24 yw £9,000.
  • Os yw’r plentyn yn 16 neu 17 oed, gallant gymryd ISA arian parod (oedolyn) a chynilo hyd at £20,000 (2023-24) y flwyddyn, yn ogystal ag ISA i bobl Iau hyd at £9,000 y flwyddyn (2023-24).

Cynllun wedi’i eithrio rhag treth ‘Friendly Society’

  • Mae gan lawer o gymdeithasau ‘Friendly Society’ fersiynau plant o'u cynlluniau cynilo wedi'u heithrio rhag treth. Sefydliadau buddion i'r ddwy ochr yw'r rhain, sy'n golygu eu bod yn eiddo i'w haelodau i weithio er budd yr aelodau hynny.
  • Gallwch ddewis talu i mewn i’r cynllun am gyfnod o rhwng 10 a 25 mlynedd.
  • Caiff arian ei fuddsoddi mewn cronfa fuddsoddi sy’n seiliedig ar gyfranddaliadau dros y tymor a ddewiswch. Yr uchafswm y gellir ei dalu i mewn yw £270 y flwyddyn, neu £300 y flwyddyn os byddwch yn talu £25 i mewn bob mis.
  • Pan fydd y cynllun yn aeddfedu, mae rhaid i’r plentyn fod yn 16 oed o leiaf, ac mae rhaid i chi fod wedi talu i mewn i’r cynllun am o leiaf 10 mlynedd.
  • Gall gwerth y mathau hyn o fuddsoddiad ostwng yn ogystal â chynyddu. Mae taliadau polisi ‘Friendly Society’ hefyd yn gymwys.
  • Ar yr amod eich bod yn parhau i dalu i mewn i’r cynllun am isafswm o ddeg mlynedd,  ni fydd eich plentyn yn talu Treth Enillion Cyfalaf na Threth Incwm ar unrhyw enillion neu incwm.
  • Mae’r terfyn di-dreth o £270 y flwyddyn yn ychwanegol i’ch lwfans ISA blynyddol.

Cyfrifon y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gall rhieni trosglwyddo cynilion o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISAs i bobl Iau. Pan fydd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cyrraedd ‘aeddfedrwydd’ gellir ei throsglwyddo hefyd i ISA ‘oedolyn’.

Os ganed plentyn rhwng 2002 a 2011, mae’n bosib bod ganddo ef neu hi Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gellir trosglwyddo'r rhain i ISA i bobl Iau.

Os na fydd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei drosglwyddo, gall y plentyn cael mynediad i’r arian serch hynny ar ôl cyrraedd 18 oed neu gallant ddewis ei drosglwyddo i ISA oedolyn.

Bondiau Premiwm NS&I

  • Yn wahanol i gynilion neu fuddsoddiadau eraill, ble byddwch yn ennill llog ar incwm difidend rheolaidd, â Bondiau Premiwm byddwch yn cael eich rhoi mewn cystadleuaeth fisol ble gallwch ennill rhwng £25 a £1 miliwn yn ddi-dreth.
  • Ar gyfartaledd, mae un o bob tri o bobl yn ennill gwobr ariannol bob blwyddyn â buddsoddiad o £1,000.
  • Gallwch eu prynu i chi eich hun neu ar ran eich plentyn, ŵyr neu wyres neu or-ŵyr neu or-wyres.
  • Mae rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf i brynu Bondiau Premiwm.
  • Bydd angen i chi fuddsoddi o leiaf £25.
  • Gallwch barhau i brynu bondiau ar gyfer eich plentyn hyd nes y byddwch yn cyrraedd yr uchafswm lefel dal o £50,000.
  • Gallwch roi’r cyfrifoldeb i’ch plentyn o gadw manylion eu buddsoddiad yn ddiogel a chymryd rhan mewn penderfyniadau am beth i’w wneud â’r arian os bydd yn ennill.
  • Maent yn addas os ydych yn dymuno eu prynu fel rhodd i’ch plentyn neu’ch ŵyr neu wyres dan 16 oed os mai chi yw ei riant, gwarcheidwad cyfreithlon neu daid neu nain.
  • Mae ganddynt gefnogaeth Trysorlys Ei Mawrhydi, er mwyn i’r holl arian a fuddsoddir gennych fod yn 100% ddiogel.

Bondiau Plant NS&I

Nid yw Bondiau Plant ar werth mwyach.

Pensiynau plant

Efallai nad yw cynilo ar gyfer ymddeoliad eich plentyn yn y dyfodol y peth cyntaf y byddwch yn ei ystyried wrth feddwl am yr amrywiol opsiynau cynilo ar gyfer eich plentyn. Ond, mae’n golygu bydd yn gallu cael mynediad at yr arian dim ond pan fydd wedi cyrraedd oedran llawer mwy synhwyrol o 55 oed.

  • Gall unrhyw riant neu warchodwr cyfreithiol sefydlu pensiwn, a bydd yn trosglwyddo’n awtomatig i’ch plentyn pan fydd yn cyrraedd 18 oed. Gallant wedyn ddechrau cyfrannu iddo ei hun.
  • Gallech gynilo hyd at £2,880 yn effeithiol o ran trethi bob blwyddyn, gyda’r llywodraeth yn ychwanegu hyd at £720 at unrhyw gyfraniad yn awtomatig (sydd yn rhyddhad dreth ar eich cyfraniad gros (cyfan)). Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfraniad yn dod yn £3,600 yn awtomatig.
  • Mae’n dal yn bosibl cyfrannu dros £2,880 yn y flwyddyn honno, ond ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyfraniad gan y llywodraeth.
  • Mae unrhyw dwf ym mhensiwn eich plentyn fel ISA yn rhydd o dreth. Mae hyn yn golygu y gall ddechrau cynyddu yn gyflym. Ond fel unrhyw fuddsoddiad, gall fynd i lawr yn ogystal ag i fyny.
  • Er enghraifft, gan dybio eich bod yn buddsoddi’r uchafswm dros ddim ond 3 blynedd o £8,640 (£10,800 yn cynnwys ychwanegiad y llywodraeth), yn tybio twf cyfartalog o 8% dros 50 mlynedd, gallai eich pensiwn plentyn fod yn werth £582,000 ymhen 50 mlynedd. Bydd 25% o hyn yn cael ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.