Cyfrifon cynilo rheolaidd

Gyda chyfrif cynilo rheolaidd, byddwch yn ymrwymo i dalu swm penodol i mewn i’r cyfrif bob mis. Yn gyfnewid, mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn rhoi cyfradd llog uwch i chi na fuasech yn ei gael â’u cyfrif cyfredol neu gyfrif cynilo cyffredin.

A yw cyfrif cynilo rheolaidd yn addas i chi?

Cyfeirir atynt hefyd fel ‘cynilwyr misol’ neu ‘gynilwyr rheolaidd’, gallai cyfrif cynilo rheolaidd fod yn addas i chi os:

  • nad ydych am fuddsoddi lwmp swm
  • ydych am fynd i’r arfer o gynilo’n rheolaidd
  • ydych yn cynilo ar gyfer achlysur arbennig fel priodas neu wyliau
  • ydych eisiau mwy o log nag y gallwch ei gael â chyfrif cyfredol neu gyfrif cynilo cyffredin.

Sut mae cyfrifon cynilo rheolaidd yn gweithio

Defnyddiwch gyfrif cynilo rheolaidd i ariannu nod ariannol byrdymor.

Mae cyfrifon gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, ond â’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu:

  • Mae rhaid i chi dalu i mewn i’ch cyfrif cynilo rheolaidd bob mis – rhwng £10 a £500 yn arferol.
  • Mae rhaid i chi wneud nifer ofynnol o daliadau misol – yn aml 10 neu 11 – a gallai’r cyfrif fod â chyfnod sefydlog, blwyddyn dyweder.
  • Gyda chyfrifon cynilo rheolaidd banc, fel arfer bydd angen i chi agor cyfrif cyfredol cyn bod yn gymwys am gyfrif cynilo rheolaidd a symudir eich arian i’r cyfrif cyfredol unwaith y daw cyfnod cyfyngedig y cyfrif cynilo rheolaidd i ben.

Risg ac elw cyfrifon cynilo rheolaidd

Ar ddiwedd y cyfnod, byddwch yn cael yr holl arian a dalwyd gennych i mewn i’r cyfrif yn ôl ynghyd â’r llog sydd wedi cronni.

Fel arfer mae’r cyfrifon hyn yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon cyfredol neu gyfrifon dim rhybudd. Mae rhai yn cynnig cyfradd llog sefydlog. Gydag eraill, mae’r gyfradd yn amrywiol.

Gall y gyfradd llog fod yn is os na fyddwch yn cynilo bob mis neu os bydd angen i chi godi arian.

Cael gafael ar eich arian

Mae’r rheolau yn amrywio rhwng cyfrifon. Mae rhai yn caniatáu i chi dynnu arian allan, ond gallent roi cyfradd llog is i chi ar gyfer y mis hwnnw neu am weddill y cyfnod.

Nid yw cyfrifon eraill yn caniatáu tynnu arian allan yn gynnar o gwbl.

Mae’n bwysig gwirio’r rheolau yn ofalus cyn dewis cyfrif cynilo rheolaidd os byddwch yn credu y gallai fod angen i chi gael gafael ar eich arian yn ystod y tymor byr.

Pa mor ddiogel yw fy nghynilion?

Caiff arian parod a roddwch mewn banc, cymdeithas adeiladu neu undebau credyd awdurdodedig yn y DU ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.

Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig.

Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.

Sut i gael cyfrif cynilo rheolaidd

Bydd angen i chi gysylltu â banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn uniongyrchol. Mae rhai cyfrifon ond ar gael ar-lein.

Mae rhai eraill, yn enwedig rhai cyfrifon cymdeithasau adeiladu, ar gael trwy ganghennau yn unig.

Os ydych eisiau cyfrif cynilo rheolaidd â banc ac nad oes gennych gyfrif cyfredol â’r banc hwnnw, mae’n debyg y bydd angen i chi agor un.

Os nad oes gennych unrhyw gyfrifon eisoes â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu o’ch dewis, bydd angen i chi ddangos prawf hunaniaeth iddynt a thystiolaeth o’ch cyfeiriad.

Gallech orfod dangos y rhain hefyd os bu’n amser maith ers i chi agor cyfrif presennol.

Treth ar eich cynilion

Mae’r lwfans cynilo personol yn golygu:

  • Gall trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log ar eu cynilion heb dalu treth.
  • Gall trethdalwyr cyfradd uwch ennill hyd at £500 o log yn ddi-dreth.
  • Nid yw unrhyw un sy’n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn yn elwa o’r lwfans cynilion personol.
  • Mae unrhyw log sy’n uwch na’ch lwfans yn destun treth incwm.

Mae band treth sero ar y £5,000 cyntaf o log cynilion.

Mae hwn yn meddwl ni fydd unrhywun gyda chyfanswm incwm gan gynnwys cynilon o lai na £18,570 yn 2022-23 (os mai’r £12,570 safonol yw eich lwfans personol) yn talu treth ar eu cynilon. 

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Caiff banciau, cymdeithasau adeiladu an undebau credyd y DU eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r ‘Prudential Regulation Authority’ (PRA).

Dod o hyd i gyfrif cynilo rheolaidd

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.

Ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gall fod yn syniad da ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.

Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.