Darganfyddwch beth yw Bondiau Premiwm, pryd y gallent fod yn fuddsoddiad da a sut i fynd ati i'w prynu a'u gwerthu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Bondiau Premiwm?
- Sut mae Bondiau Premiwm yn gweithio?
- A yw Bondiau Premiwm yn iawn i chi?
- A yw Bondiau Premiwm yn werth da am arian?
- Sut i brynu Bondiau Premiwm
- Sut i werthu Bondiau Premiwm
- Faint o amser mae’n ei gymryd i godi arian o’ch Bondiau Premiwm?
- Treth
- A yw Bondiau Premiwm yn ddiogel a sicr?
- Beth i’w wneud os bydd anwyliaid yn marw ac rydych chi’n gwybod bod ganddyn nhw Fondiau Premiwm
- Camau nesaf
Beth yw Bondiau Premiwm?
Mae Bondiau Premiwm yn gynnyrch buddsoddi a gyflwynir gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I). Yn wahanol i fuddsoddiadau eraill, lle enillwch log neu incwm difidend rheolaidd, cewch eich rhoi mewn raffl fisol i ennill gwobr lle gallwch ennill rhwng £25 ac £1 miliwn yn ddi-dreth.
Sut mae Bondiau Premiwm yn gweithio?
- Bydd angen i chi fuddsoddi o leiaf £25.
- Gallwch barhau i brynu bondiau nes i chi gyrraedd y lefel daliad uchaf o £50,000.
- Byddwch yn cael rhif bond unigryw ar gyfer pob £1 a gaiff ei buddsoddi. Felly os byddwch yn cynilo £100, byddwch yn cael 100 o rifau bond (a bydd gan bob un ohonynt gyfle i ennill gwobr).
- Ar ôl i chi ddal eich bondiau am fis llawn, fe’u cynhwysir mewn raffl fisol ac mae gennych gyfle i ennill gwobr arian parod.
- Gallwch eu prynu i chi'ch hun neu ar gyfer plentyn o dan 16 oed. Rhaid i chi fod yn o leiaf 16 oed i brynu Bondiau Premiwm i chi'ch hun.
A yw Bondiau Premiwm yn iawn i chi?
Gallai Bondiau Premiwm fod yn addas ar eich cyfer os:
- ydych am gael cyfle i ennill gwobrau arian parod di-dreth mewn raffl fisol
- rydych chi eisiau prynu i chi'ch hun neu i blentyn o dan 16 oed
- oes gennych £25 neu fwy i’w fuddsoddi.
Efallai na fydd bondiau premiwm yn addas i chi os:
- Rydych chi eisiau incwm rheolaidd
- Rydych chi eisiau ennillion gwarantedig
- Nid ydych am boeni am effaith chwyddiant ar eich cynilion.
A yw Bondiau Premiwm yn werth da am arian?
Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn ennill y brif wobr yn isel iawn – bydd y rhan fwyaf o bobl yn ennill gwobrau llai neu ddim byd o gwbl.
- Mae’r holl arian y byddwch yn ei fuddsoddi mewn Bondiau Premiwm yn ddiogel.
- Mae tebygolrwydd isel iawn y gallech ennill elw di-dreth uchel iawn.
- Ni fyddwch yn ennill incwm rheolaidd ar eich bondiau. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n prynu Bondiau Premiwm yn ennill swm bach yn unig fel canran o’r arian maent yn ei gyfrannu.
- Oni fyddwch yn ennill un o’r gwobrau uwch, nid yw’r elw a wnewch yn debygol o guro chwyddiant. Hynny yw, fwy na thebyg ni fydd eich arian yn tyfu’n ddigon cyflym i gadw i fyny â chostau cynyddol a chael yr un pŵer prynu dros gyfnod o amser oherwydd caiff ei leihau gan chwyddiant.
Darganfyddwch fwy am sut mae chwyddiant yn effeithio ar eich cynilion yn ein canllaw Chwyddiant – beth mae'n ei olygu i'ch cynilion
Sut i brynu Bondiau Premiwm
Gallwch brynu Bondiau Premiwm yn uniongyrchol gan NS&I ar-lein gan gofrestru ar eu gwefan neu trwy ffonio 0808 500 7007
Sut i werthu Bondiau Premiwm
Gallwch godi arian o’ch Bondiau Premiwm ar unrhyw adeg heb gosb.
Os ydych wedi cofrestru â chyfrif ar-lein, gallwch ei wneud ar unwaith.
Gallwch hefyd gyfnewid arian ar-lein heb orfod creu cyfrif. Llenwch a chyflwynwch y ffurflen ar-lein hon ar wefan NS&I
Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen Codi arian o’ch Bondiau Premiwm NS&I neu ofyn amdani dros y ffôn ar 0808 500 7007 yna ei llenwi a’i phostio i’r cyfeiriad sydd wedi’i argraffu ar y ffurflen
Faint o amser mae’n ei gymryd i godi arian o’ch Bondiau Premiwm?
Yn ôl yr NS&I, mae’n cymryd hyd at wyth diwrnod gwaith i’r arian gyrraedd eich cyfrif, oni bai eich bod wedi dewis codi’r arian parod ar ôl y raffl nesaf.
Gallwch wirio a ydych wedi ennill gwobr yn y raffl fisol Bondiau Premiwm ar wefan NS&I
Treth
Ni chodir Treth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf y DU ar unrhyw wobrau y byddwch yn eu hennill ar Fond Premiwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
A yw Bondiau Premiwm yn ddiogel a sicr?
Mae eich arian yn ddiogel, gan fod Bondiau Premiwm wedi’u cefnogi’n llawn gan y llywodraeth.
Ar gyfer banciau a chymdeithasau adeiladu eraill y DU, mae eich cynilion fel arfer yn cael eu gwarchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) Darganfyddwch fwy ar wefan FSCS
Darganfyddwch fwy yn ein callawiau:
Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn
Iawndal os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal
Beth i’w wneud os bydd anwyliaid yn marw ac rydych chi’n gwybod bod ganddyn nhw Fondiau Premiwm
Yn union fel banciau, mae gan NS&I derfyn o £5,000 cyn bod angen caniatâd cyfreithiol (profiant) i ryddhau’r arian.
Os oedd gan y person a fu farw dros £5,000 mewn Bondiau Premiwm, bydd angen grant profiant neu grant o lythyrau gweinyddu arnoch. Mae’r terfyn £5,000 hwn yn cynnwys pob cyfrif NS&I. Felly, os oedd ganddyn nhw £3,000 mewn Bondiau Premiwm a £3,000 mewn Tystysgrifau Cynilo, mae angen profiant arnoch o hyd oherwydd bod y cyfanswm yn £6,000, sy'n fwy na'r trothwy profiant.
Os ydych chi wedi colli rhywun sy’n agos atoch chi, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud gan gynnwys gwirio a oes angen i chi wneud cais am brofiant yn ein canllaw.
Mae gan NS&I fwy o wybodaeth hefyd am yr hyn y dylech ei wneud os yw cwsmer wedi marwYn agor mewn ffenestr newydd