ISAs i Bobl Iau

Trwy ddechrau cynilo’n gynnar, gallwch roi eich plant ar ben ffordd a sicrhau dyfodol ariannol cadarn iddynt. Mae ISAs i Bobl Iau yn eich galluogi i gynilo a buddsoddi ar ran plentyn o dan 18 oed. A heb unrhyw dreth ar yr enillion, gall yr arian y byddwch yn ei gynilo tyfu hyd yn oed yn gynt.

Pwy all gael ISA i Bobl Iau ?

Gallwch agor ISA i Bobl Iau ar gyfer eich plentyn os ydynt:

  • dan 18 oed
  • yn byw yn y DU.

Os ganed plentyn rhwng 2002 a 2011, mae’n bosib bod ganddo ef neu hi Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF). Gellir trosgwlyddo’r rhain i ISA i Bobl Iau.

Os na chaiff y CTF ei drosglwyddo, pan fydd plentyn yn cyrraedd 18 oed, bydd yn dal i allu cyrchu'r arian. Neu gallant ddewis ei drosglwyddo i ISA arian parod arferol.

Sut y mae ISAs i Bobl Iau yn gweithio?

  • Mae rhaid i riant neu warcheidwad plentyn agor y cyfrif ISA i Bobl Iau ar ei ran.
  • Mae’r arian yn y cyfrif yn eiddo i’r plentyn, ond ni all ei godi nes ei fod yn 18 oed, heblaw bod amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag, gall ddechrau rheoli ei gyfrif ei hun pan fydd yn 16 oed.
  • Trothwy’r ISA Iau yw £9,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2023-24. Os caiff mwy na hyn ei roi i mewn i ISA i Bobl Iau, caiff y gweddill ei ddal mewn cyfrif cynilo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn – ni ellir ei ddychwelyd at y rhoddwr. Gall rhieni, ffrindiau a theulu gynilo ar ran y plentyn ar yr amod bod y cyfanswm yn parhau yn llai na’r terfyn blynyddol.
  • Nid oes treth yn daladwy ar log nac enillion buddsoddiad.
  • Pan fydd eich plentyn yn troi’n 18 oed, mae ei gyfrif yn cael ei drosi’n awtomatig yn ISA oedolyn. Gallant hefyd ddewis codi’r arian a’i wario fel y mynnant – er enghraifft, ar wersi gyrru, addysg bellach neu hyfforddiant swydd.

Mathau o ISAs i Bobl Iau

ISAs Arian Parod i Bobl Iau

Mae ISA Arian Iau yn debyg i gyfrif cynilo banc neu gymdeithas adeiladu er bod yr arian wedi'i gloi i mewn ac na ellir ei dynnu'n ôl tan 18 oed.

Ond mae ISAs Arian Parod i Bobl Iau yn cynnig un fantais fawr – ni fydd rhaid i’ch plentyn dalu treth ar y llog y bydd yn ei ennill ar ei gynilion, ac ni fydd rhaid i chi wneud hynny chwaith.

ISAs Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau

Gyda chyfrif ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau, gallwch roi cynilion eich plentyn i mewn i fuddsoddiadau fel cyfranddaliadau a bondiau.

Nid oes treth yn daladwy ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud drwy fasnachu cyfranddaliadau neu fondiau.

Mae buddsoddiadau yn peri mwy o risg nag arian parod ond gallent roi mwy o elw i’ch plentyn, a gall gwerth ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau ostwng yn ogystal â chynyddu.

Pa ISA i Bobl Iau sy’n addas i’ch plentyn?

Gall eich plentyn gael ISA Arian Parod i Bobl Iau, ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau neu'r ddau.

Os oes ganddynt y ddau, mae'r uchafswm y gallant ei gynilo yn dal i fod yn destun terfyn o £9,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24.

Gall rhai 16 ac 17 oed hefyd gyfrannu at ISA Arian Parod i Bobl Iau sy’n cyfateb i’r un oedolyn (nid ISA stociau a chyfranddaliadau oedolion), hyd at y cyfyngiad £20,000 yn y flwyddyn dreth 2023-24. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw arian a dalwyd i’w ISA i Bobl Iau.

Os nad ydych yn siŵr a yw ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau yn addas i’ch plentyn, gall siarad â chynghorydd ariannol annibynnol eich helpu i benderfynu.

Diogel a sicr ?

Pa mor ddiogel yw ISAs Arian Parod i Bobl Iau?

Mae'r arian a roddwch i fanciau neu gymdeithasau adeiladu awdurdodedig y DU yn cael ei warchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Bydd hyd at £85,000 fesul person mewn unrhyw gwmni awdurdodedig yn ddiogel hyd yn oed os bydd y cwmni yn methu.

Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.

Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig.

Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.

Pa mor ddiogel yw ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau?

Mae asedau'r gronfa fuddsoddi yn cael eu cadw'n ddiogel gan geidwad ar ran buddsoddwyr.

Os bydd cwmni buddsoddi awdurdodedig yn methu, sy'n golygu na all dalu hawliau yn ei erbyn, bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn talu iawndal hyd at £50,000 y pen, fesul sefydliad.

Ni allwch wneud cais am iawndal dim ond oherwydd bod gwerth eich buddsoddiad yn is na'r hyn y gwnaethoch ei dalu amdano.

Gwybodaeth y dylech ei chael

Mae ISA Stociau a Chyfranddaliadau i Bobl Iau yn gynnyrch buddsoddi. Mae rhaid i ddarparwyr cynnyrch buddsoddi roi gwybodaeth hawdd ei deall i chi am y ‘‘ffeithiau allweddol’, gan gynnwys y canlynol:

  • Beth yw’r buddsoddiad a sut mae’n gweithio
  • Y risgiau gan gynnwys y risg o golli cyfalaf a risgiau gwrthbarti;
  • Taliadau (y ffioedd a gaiff eu didynnu o’ch adenillion neu gyfalaf), a
  • P’un a fydd gennych yr hawl i ddefnyddio gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.

Trosglwyddo ISA i Bobl Iau

Gallwch drosglwyddo rhwng y ddau fath o ISA i Bobl Iau neu newid darparwr unrhyw bryd.

Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn yn ofalus fel na fyddwch yn colli statws di-dreth eich arian.

Dim ond un ISA Arian Parod i Bobl Iau ac un ISA Buddsoddi i Bobl Iau y gall plentyn ei gael ar unrhyw adeg benodol.

Os bydd pethau'n mynd o chwith

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.