Mae’r cyfrifon hyn yn talu llog ac yn caniatáu i chi godi arian pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch bob mis. Yn aml gallwch agor cyfrif â blaendal cychwynnol o gyn lleied â £1.
Ai cyfrif cynilo dim rhybudd yw’r cyfrif i chi?
Instant access savings accounts are for you if you have spare cash and want to:
- cael adenillon gwell na’r adenillion ar eich cyfrif cyfredol
- cynilo ar eich cyflymder eich hun
- gallu codi arian pryd bynnag y dymunwch
- peidio â cymryd risgau â’ch arian
Risg ac elw
Oeddech chi’n gwybod?
Os nad oes angen i chi allu cael gafael ar eich cynilion ar unwaith, gallech ennill mwy ag opsiynau cynilo tymor sefydlog megis bondiau cynilo neu gyfrifon cynilo rheolaidd
- Fel arfer yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon cyfredol.
- Nid yw’r gyfradd mor uchel â chyfrifon cynilo rheolaidd neu fondiau cynilo, a fyddai’n cloi eich arian.
- Ni fydd eich cynilion yn dal eu gwerth prynu yn yr hirdymor os bydd y gyfradd llog ar y cyfrif yn is na’r cynnydd mewn costau byw (chwyddiant).
Pa mor ddiogel yw eich cynilion?
Mae'r arian a roddwch i fanciau awdurdodedig y DU, cymdeithasau adeiladu neu undebau credyd yn cael ei warchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch cynilion FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae'n werth nodi bod rhai brandiau bancio yn rhan o'r un cwmni awdurdodedig.
Os oes gennych fwy na'r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae'n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian yn cael ei ddiogelu.
Sut i agor cyfrif cynilo dim rhybudd neu gyfrif cynilo lle bydd eich arian ar gael yn hawdd
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch agor cyfrif cynilo dim rhybudd â chyn lleied â £1 a chynilo faint bynnag y byddwch am ei gynilo bob mis.
Gallwch agor cyfrif dim rhybudd neu gyfrif lle bydd eich arian ar gael yn hawdd yn uniongyrchol â banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd y mwyafrif ohonynt yn gadael i chi agor cyfrif:
- ar-lein
- dros y ffôn neu
- drwy fynd i mewn i gangen.
Efallai y bydd angen i chi gael cyfrif cyfredol â’ch banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn agor cyfrif cynilo dim rhybudd. Gofynnwch iddynt cyn i chi ddechrau arni
Treth ar gynilion
Mae angen i'r rhan fwyaf o bobl dalu Treth Incwm ar y llog y maent yn ei gael, felly mae treth cyfradd sylfaenol fel arfer yn cael ei didynnu fel mater o gwrs o log cyfrif cynilo.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae gennych lwfans cynilo personol o £1,000. Mae hyn yn golygu bod eich £1,000 cyntaf o incwm o gynilion yn ddi-dreth.
Mae trethdalwyr cyfradd uwch yn cael lwfans cynilo personol llai o £500.
Os ydych yn ennill llog sy’n fwy na’ch Lwfans Cynilion Personol mewn blwyddyn dreth, efallai y bydd angen i chi hysbysu CThEF i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.
Os nad ydych yn drethdalwr, gallwch ofyn am dalu llog heb unrhyw ddidyniadau treth.
Cyfradd gychwynnol am gynilion
Yn ogystal â’ch lwfans cynilo personol, mae’r gyfradd gychwynnol am gynilion wedi’i hanelu at gefnogi cynilwyr ar yr incwm isaf.
£5,000 yw hwn am 2023/24. Mae hwn yn golygu bod hyd at £5,000 o’r llog a geir gan gynilion yn ddi-dreth. Mae hyn yn gostwng am bob £1 a enillwch dros y Lwfans Treth Incwm Personol o £12,570 ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24.
Felly os yw eich incwm trethadwy cyffredinol – incwm o gyflogaeth a llog ar eich cynilion – yn £18,570 neu lai, efallai na fydd angen i chi dalu treth ar incwm o’ch cynilion. Mae'r swm hwn yn cynnwys eich Lwfans Treth Incwm Personol blynyddol, ynghyd â'r gyfradd 0% ar gyfer £5,000 o incwm o gynilion, ynghyd â'r lwfans Cynilion Personol newydd o £1,000.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Bydd cyfrifon dim rhybudd sy'n ISA blaendal arian parod yn rhoi llog di-dreth i chi. Darllenwch ein canllaw Cyfrifon ISA a ffyrdd eraill sy'n effeithlon o ran treth i gynilo neu fuddsoddi
Os bydd pethau’n mynd o chwith
Os byddwch yn fodlon â’r gwasanaeth gan eich banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Ariannol os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol.
Dewis cyfrif cynilo
Mae gwefannau cymhariaeth yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'ch anghenion.
Mae'r gwefannau hyn yn lle da i ddechrau pan rydych yn chwilio am gyfrif cynilo:
Which?
MoneySavingExpert
MoneyFacts
Ond byddwch yn ymwybodol nad yw gwefannau cymharu i gyd yn rhoi'r un canlyniadau i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.
Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.