Efallai’ch bod eisoes wedi penderfynu eich bod angen cynnyrch cynilo neu fenthyca, ond beth dylech ei ystyried wrth ddewis pa un sydd orau i chi? Byddwn yn dangos i chi beth dylech fod yn chwilio amdano i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cynnyrch addas i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gwylio’r gyfradd llog
P’un a ydych yn chwilio am gynnyrch cynilo (ISAs a chyfrifon cynilo) neu gynnyrch benthyca (benthyciadau a chardiau credyd), mae’r gyfradd llog yn bwysig.
I’w gwneud yn haws i gymharu cynnyrch yn erbyn ei gilydd, mae dau derm sy’n dangos cyfanswm y llog i chi am un flwyddyn:
- Cyfradd Flynyddol Gyfatebol (AER) – dyma gyfanswm y llog fyddwch yn ei dderbyn ar eich cynilion mewn un flwyddyn. Dangosir hyn fel canran, po fwyaf yw’r AER, y mwyaf o log fyddwch yn ei dderbyn.
- Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) – mae hyn yn dangos cyfanswm y llog (gan gynnwys unrhyw daliadau neu ffioedd rheoli) y byddwch yn talu ar eich benthyca mewn un flwyddyn. Dangosir hyn fel canran, po fwyaf yw’r APR, y mwyaf y byddwch yn ei dalu am eich benthyciad.
Pan fyddwch yn chwilio am gynnyrch cynilion neu fenthyca, chwiliwch am yr AER neu APR i helpu eu cymharu
Talu dyled ddrud cyn cymryd mwy
Os oes gennych ddyled eisoes, mae'n bwysig ystyried ei ad-dalu cyn tynnu mwy neu ddewis rhoi unrhyw arian sydd gennych mewn cynilion.
Darganfyddwch fwy ynghylch a ddylid talu dyled neu roi arian mewn cynilion yn ein canllaw A ddylech gynilo, neu dalu dyledion benthyg a chardiau?
Peidiwch mond â dewis y gyfradd llog orau
Er bod y gyfradd llog yn bwysig iawn, ni ddylai fod yr unig beth rydych yn edrych amdano.
Efallai na fydd y cynnyrch â'r gyfradd llog orau bob amser yr un gorau i chi.
Beth i’w wirio | Disgrifiad |
---|---|
Balans agoriadol |
Faint fyddwch ei angen i agor cyfrif. Gall hyn amrywio o £0 i dros £1,000. |
Taliadau cyson |
Mae rhai cyfrifon cynilo yn gofyn i chi dalu swm penodol i mewn bob mis. Gydag eraill, gallwch roi un cyfandaliad i mewn a’i adael am faint o amser ag y mynnwch. |
Cyfnod rhybudd – pa mor fuan gallwch gael mynediad at eich arian |
Mae nifer o gyfrifon cynilo yn cynnig mynediad i chi ar unwaith, sy’n golygu y gallwch gael gafael ar eich arian pryd bynnag y mynnwch. Mae rhai yn cynnig cyfraddau llog uwch os byddwch yn rhoi rhybudd o 30 niwrnod neu hyd yn oed 90 niwrnod cyn cael eich arian. |
Nifer o alldyniadau – sawl gwaith y gallwch dynnu arian allan bob blwyddyn |
Mae rhai cyfrifon cynilo yn cyfyngu sawl gwaith gallwch dynnu arian allan bob blwyddyn. Fel arfer, y cyfrifon â’r nifer isaf o alldyniadau mewn blwyddyn yw’r rhai â’r gyfradd llog uchaf. |
Sut i gael mynediad at y cyfrif |
Mae’n werth edrych a allwch gael mynediad at eich cyfrif ar-lein, dros y ffôn, yn y gangen neu hyd yn oed trwy’r post. Os ydych yn hoffi bancio ar-lein, efallai y byddwch eisiau bancio yn defnyddio ap ar eich ffôn, neu negeseuon testun sy’n rhoi’ch balans i chi. |
Rhoddion am ddim |
Mae rhai banciau neu gymdeithasau adeiladu yn cynnig rhoddion deniadol am ddim am agor cyfrifon cynilo â hwy. Byddwch yn siŵr eich bod yn agor y cyfrif am mai dyma’r un sy’n bodloni’ch anghenion orau, nid dim ond oherwydd y rhoddion. |
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cipolwg ar gynilion arian parod
Beth i’w wirio | Disgrifiad |
---|---|
A oes arnoch wir angen benthyca? |
Y peth cyntaf y dylech ei wneud bob tro yw gwirio a ydych wir angen benthyg. Mae benthyg yn ymroddiad ariannol drud a mawr, felly peidiwch â benthyg oni bai’ch bod wir angen gwneud hynny. |
Y tymor – am ba hyd ydych yn benthyg yr arian |
Po fwyaf yw’r cyfnod hwn, po fwyaf y byddwch yn ei dalu’n ôl. |
A yw’r benthyciad yn warantedig neu’n anwarantedig? |
Mae benthyciad gwarantedig fel arfer wedi ei osod yn erbyn eich cartref neu gar. Mae hyn yn golygu os nad ydych yn gwneud y taliadau, mae perygl y bydd eich car yn cael ei adfeddiannu. |
Cosbau ad-dalu’n gynnar |
Mae rhai cynnyrch benthyca yn codi ffi gosb arnoch os ydych yn talu’r ddyled yn gynnar. Darganfyddwch a yw’n berthnasol i chi a faint fyddai hyn. |