Mathau o fuddsoddiadau

Mae gan fuddsoddwyr ystod eang o gynhyrchion buddsoddi i ddewis ohonynt, pob un â'i fanteision a'i anfanteision ei hun. Yma edrychwn ar y prif fathau o fuddsoddiadau sydd ar gael a beth i'w ddisgwyl ganddynt.

Cynhyrchion buddsoddi

Gallwch fuddsoddi'n uniongyrchol mewn buddsoddiadau, fel cyfranddaliadau, ond mae ffordd fwy poblogaidd i fuddsoddi ynddynt yn anuniongyrchol trwy gronfa fuddsoddi. Dyma lle mae'ch arian yn cael ei gyfuno â buddsoddwyr eraill a'i wasgaru ar draws amrywiaeth o wahanol fuddsoddiadau, gan helpu i leihau risg. Mae llawer o wahanol ffyrdd i gael gafael ar gronfeydd buddsoddi, fel trwy Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) a phensiynau yn y gweithle.

Mae'r tabl isod yn disgrifio'n fyr y ffyrdd mwyaf poblogaidd i fuddsoddi'ch arian.

Hefyd, edrychwch ar y nodyn o dan y tabl ar sut y gallai lefel y ffioedd a godir effeithio ar unrhyw enillion posib a gewch.

Cynhyrchion buddsoddi (anuniongyrchol h.y. cynhyrchion y gellir cyrchu cronfeydd buddsoddi drwyddynt). Sut mae’n gweithio

Ffordd o ennill llog di-dreth ar eich cynilon. Dim ond un ISA Arian Parod y gallwch ei agor bob blwyddyn, ond mae'n bosibl trosglwyddo i ISA Arian Parod arall neu ISA Stociau a Chyfranddaliadau gyda darparwr arall yn ystod y flwyddyn dreth.

Ffordd ddi-dreth o fuddsoddi mewn cyfranddaliadau neu gronfeydd buddsoddi, hyd at derfyn blynyddol (£20,000 ar gyfer 2023/24 ar hyn o bryd). Mae llawer o ymddiriedolaethau uned ac OEICs (Ymddiriedolaethau uned a chwmnïau buddsoddi penagored) yn dod wedi'i becynnu ymlaen llaw fel ISAs. Fel arall, gallwch ddewis drosoch eich hun pa fuddsoddiadau ac arian i'w rhoi yn eich ISA.

Ffordd o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, â chyfraniad ‘atodol’ gan eich cyflogwr a rhyddhad treth gan y llywodraeth. Buddsoddir eich arian mewn cronfeydd cyfun.

Ffordd o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, â rhyddhad treth gan y llywodraeth. Buddsoddir eich arian mewn cronfeydd cyfun.  Gallwch ddefnyddio pensiwn personol os nad oes mynediad gennych i bensiwn gweithle. Nid ydych eisiau colli allan ar gyfraniadau eich cyflogwr. 

Pam mae ffioedd yn bwysig

Gall ffioedd a thaliadau leihau eich enillion buddsoddi, yn enwedig dros gyfnod hwy o amser. Pan fyddwch yn buddsoddi’n uniongyrchol, fel arfer bydd rhaid i chi dalu taliadau ‘delio’.

Mae'r ffioedd yn amrywio yn ôl y gronfa, cynnyrch a darparwr ac nid ydynt bob amser yn hawdd eu gweld. Efallai y bydd ffioedd hefyd am lwyfannau cronfa neu gyngor ariannol, yn dibynnu ar sut rydych yn prynu'ch cronfeydd.

Y rhif i edrych amdano mewn dogfennau cronfa fel y Ddogfen Gwybodaeth Buddsoddwyr Allweddol (KIID) yw'r Ffigur Taliadau Parhaus (OCF).

Mae'r OCF yn ystyried y tâl rheoli blynyddol (AMC) a holl gostau rhedeg y gronfa.

Camau nesaf

Unwaith y byddwch yn gwybod pa fath o fuddsoddiad, cronfa neu gynnyrch a allai fod yn addas i chi, rydych yn barod i feddwl am fuddsoddi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.