Roedd Bondiau Plant Buddsoddiadau a Chynilion Cenedlaethol (NS&I) arfer caniatáu i chi fuddsoddi cyfandaliad ar ran plentyn o dan 16 oed. Ond nid yw'r bondiau cynilo hyn ar gael mwyach. Darganfyddwch sut roedd Bondiau Plant yn gweithio, beth i'w wneud os oes gennych un sy'n aeddfedu'n fuan a beth yw'r dewisiadau amgen.
Sut mae Bondiau Plant yn gweithio?
- Nid oedd unrhyw dreth ar y llog
- Roedd bondiau pum mlynedd a oedd yn rhoi taliad llog penodedig bob blwyddyn. (Yn flaenorol roedd Bondiau Plant yn cael eu galw yn Fondiau Bonws Plant a oedd â chyfradd llog benodedig flynyddol a thaliad bonws gwarantedig pe byddech yn cadw’r bond am y bum mlynedd llawn. Bellach nid oes taliad bonws, felly dyna’r rheswm am newid yr enw).
- Roedd taliadau llog yn sefydlog. Felly pan fyddwch yn prynu’r bondiau, byddwch yn gwybod ymlaen llaw faint y byddant yn tyfu yn ystod y tymor
- Dim ond rhieni, gwarcheidwaid, a (hen) taid/nain oed dyn gallu prynu’r bondiau hyn i unrhyw un dan 16 oed. Roedd rhiant neu warcheidwad yn cadw rheolaeth tan fod y plentyn yn troi 16 (neu’r pen-blwydd pum mlynedd cyntaf ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16).
- Roeddech yn gallu buddsoddi cyn lleied â £25 neu gymaint â £3,000 fesul dyroddiad bond mewn unedau o £25, fesul plentyn
- Pan oedd y tymor pum mlynedd wedi dod i ben, gallech naill ai gyfnewid y bondiau am arian parod neu eu hail-fuddsoddi am bum mlynedd arall ar gyfradd llog newydd. Gallech barhau i ail-fuddsoddi nes bod y plentyn yn 16 oed. Roedd bondiau’n aeddfedu’n derfynol pan ydynt yn cyrraedd y pen-blwydd pum mlynedd cyntaf ar neu ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed. Ar ôl hynny, mae’r bondiau’n peidio ag ennill llog.
- Roedd y gosb am gasglu’r arian yn gynnar yn cyfateb â 90 diwrnod o log ar y swm a gasglwyd.
Beth yw fy opsiynau os oes gennyf i fond sydd i fod i aeddfedu'n fuan?
Angen gwybod
Mae tynnu arian o fond ar adeg heblaw adeg ei adnewyddu neu aeddfedrwydd yn golygu y codir cosb arnoch sy'n cyfateb â llog o 90 diwrnod.
Gall y person sy'n gofalu am y bond barhau i adnewyddu'r bondiau presennol nes bod y plentyn yn 16 oed. Mae gennych dri opsiwn ar gyfer eich bondiau presennol pan fyddant yn aeddfedu:
- adnewyddu'r bond, gan ail-fuddsoddi gwerth y bond ynghyd â'r llog.
- tynnu rhan o'r bond, gan adael i ran ohono gael ei ail-fuddsoddi.
- tynnu'r holl fond.
Mae bondiau'n cael eu hadnewyddu a'u hail-fuddsoddi'n awtomatig oni bai eich bod yn dweud wrth NS&I fel arall.
Mae hyn yn golygu bod angen i chi benderfynu a ydych eisiau arian parod yn y bond cyfan neu ran ohono cyn dyddiad aeddfedrwydd y bond. Bydd NS&I yn ysgrifennu atoch tua 30 diwrnod cyn i'ch bond aeddfedu i egluro'ch opsiynau yn fanwl. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi dderbyn eich pecyn.
Ar ôl i’r bond gael ei adnewyddu mae cosb am dynnu hynny yn ôl ar hyn o bryd sy’n cyfateb â llog o 90 diwrnod.
Os penderfynwch adnewyddu, byddwch yn ymwybodol y gallai'r gyfradd llog fod yn uwch neu'n is na'r gyfradd llog ar eich bond presennol.