Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi fy arian?

Ystyried a ddylech gynilo neu fuddsoddi? Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu sut i gronni eich cynilion a beth mae’n golygu i fuddsoddi arian. Mae hefyd yn ymdrin â gwybodaeth sylfaenol ynghylch cynllunio eich cyllid ar gyfer cynilion byrdymor a buddsoddiadau hirdymor.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi?

Cynilo

Dyma roi arian o’r neilltu, fesul ychydig.

Fel arfer, byddwch yn cynilo i dalu am rywbeth penodol, fel gwyliau, blaendal ar dŷ, neu i dalu am unrhyw argyfyngau a allai godi (fel boeler wedi torri).

Mae cynilo fel arfer yn golygu rhoi eich arian i mewn i gynnyrch arian, fel cyfrif cynilo mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

Buddsoddi

Dyma gymryd rhan o’ch arian a cheisio gwneud iddo dyfu drwy brynu cynhyrchion rydych yn credu allai gynyddu mewn gwerth dros amser. Er enghraifft, gallech fuddsoddi mewn stociau, eiddo neu gyfranddaliadau mewn cronfa.

Er y gall yr enillion o fuddsoddi fod yn fwy na chynilo, gall gwerth buddsoddiadau ostwng yn ogystal â chynyddu.

Pwy ddylai gynilo ?

1. Sefydlu cronfa argyfwng

Dylai pawb wneud ei orau i gronni cronfa cynilo ar gyfer argyfyngau.

Y rheol gyffredinol yw cael gwerth tri mis o gostau byw wedi ei gronni mewn cyfrif cynilo sydd ar gael yn syth. Dylai hyn gynnwys rhent, bwyd, ffioedd ysgol ac unrhyw wariant arall allweddol.

Mae eich cronfa argyfwng yn golygu bod gennych ryw sicrwydd ariannol os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.

2. Parhau i gynilo

Nawr eich bod wedi sefydlu’ch cronfa argyfwng, mae’n syniad da i gynilo ychydig mwy os gallwch ei fforddio. Gosodwch nodau cynilo a rhoi digon i’r naill ochr i brynu beth fyddwch eisiau. Gallai hyn fod yn flaendal ar gyfer tŷ, priodas neu daith.

Gallech hefyd ddechrau meddwl am fuddsoddi eich arian os na fydd ei angen arnoch yn y pum mlynedd nesaf.

Pryd na ddylech gynilo ?

Yr unig bryd na ddylech gynilo neu fuddsoddi yw os oes angen arnoch gael rheolaeth o’ch dyledion. 

A ydych yn barod i fuddsoddi ?

Cyn dewis buddsoddi eich arian, cofiwch fod risg bob amser y gall eich buddsoddiadau ostwng yn ogystal â chynyddu. Mae hynny'n golygu y gallech golli arian .

Mae dewis a yw buddsoddi'n iawn i chi hefyd yn dibynnu ar:

  • faint o arian parod sydd gennych ar gael
  • beth yw eich oedran
  • beth yw eich amgylchiadau personol.

Mae angen i chi ystyried eich nodau hefyd – yn benodol os ydynt yn dymor hir, tymor byr neu dymor ganolig :

  • mae nodau tymor byr yn bethau rydych yn bwriadu eu gwneud o fewn y pum mlynedd nesaf, fel gwyliau
  • mae nodau tymor canolig yn bethau rydych yn bwriadu eu gwneud o fewn y pump i ddeng mlynedd nesaf, fel blaendal morgais
  • mae nodau tymor hwy yn rhai lle nad oes angen yr arian arnoch am ddeng mlynedd neu fwy, fel cronfa ymddeol.

Nodau tymor byr

Ar gyfer eich nodau tymor byr, y rheol gyffredinol yw cynilo i mewn i adneuon arian parod, fel cyfrifon banc.

Efallai y bydd y farchnad stoc yn cynyddu neu’n gostwng yn y tymor byr, ac os ydych buddsoddi am lai na phum mlynedd efallai y byddwch yn colli arian.

Nodau tymor canolig

Ar gyfer y tymor canolig, efallai mai adneuon arian parod yw'r ateb gorau. Ond mae'n dibynnu ar faint o risg rydych yn barod i'w chymryd â'ch arian i sicrhau mwy o enillion ar eich buddsoddiad.

Er enghraifft, os ydych yn bwriadu prynu eiddo mewn saith mlynedd a'ch bod yn gwybod y bydd angen eich holl gynilion arnoch fel blaendal ac nad ydych am fentro'ch arian, gallai fod yn fwy diogel rhoi eich arian mewn cyfrif cynilo.

Fodd bynnag, cofiwch y bydd eich cynilion yn dal i fod mewn perygl o chwyddiant.

Dyma lle mae'r llog rydych yn ei ennill ar eich cynilion yn methu â chadw i fyny â chyfradd chwyddiant felly mae pŵer prynu eich arian yn cael ei leihau.

Os yw'ch anghenion yn fwy hyblyg, efallai y byddwch yn ystyried buddsoddi'ch arian. Mae hyn ar yr amod eich bod yn barod i gymryd rhywfaint o risg â'ch cyfalaf gwreiddiol i geisio sicrhau mwy o enillion ar eich buddsoddiad nag a fyddai'n bosibl trwy gynilo ar eich pen eich hun.

Nodau tymor hwy

Ar gyfer nodau tymor hwy, efallai yr hoffech ystyried buddsoddi. Mae hyn oherwydd y gall chwyddiant effeithio'n ddifrifol ar werth cynilion arian parod yn y tymor canolig a'r tymor hir.

Mae buddsoddiadau ar y farchnad stoc yn tueddu i wneud yn well nag arian parod dros y tymor hir, gan roi cyfle i gael mwy o enillion ar unrhyw arian a fuddsoddir dros amser.

Gallwch ostwng lefel y risg rydych yn ei chymryd pan fyddwch yn buddsoddi trwy ledaenu'ch arian ar draws gwahanol fathau o fuddsoddiadau. Gelwir hyn yn arallgyfeirio.

Cael cyngor

Wrth fuddsoddi, mae'n syniad da ystyried a fyddech yn elwa o gyngor proffesiynol gan gynghorydd ariannol annibynnol rheoledig.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.