Sut i ddechrau cynilo

Mae pawb yn dweud wrthym ei bod hi’n syniad da i gynilo, ond ar gyfer beth yn union yr ydych yn ei gynilo ac ymhle y dylech chi gynilo? Darganfyddwch pam ei bod hi’n syniad da i gynilo’n rheolaidd beth bynnag yw’ch oedran yn ogystal â’r dewisiadau cynilo sydd ar gael i chi.

Pam cynilo?

Mae tri phrif reswm pam y dylid cynilo’n rheolaidd:

  • Ar gyfer argyfwng: i sicrhau bod arian ar gael petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd, fel eich car yn torri i lawr. Darganfyddwch fwy am gynilion ar gyfer argyfwng.
  • I dalu am bethau moethus: gall hyn gynnwys gwyliau neu brynu car newydd, neu bethau fel tabled, cyfrifiadur neu ffôn newydd.
  • I fyw’n gyfforddus yn y dyfodol: er bod hyn yn ymddangos yn bell i ffwrdd, unwaith y byddwch yn rhoi’r gorau i weithio bydd eich incwm yn gostwng ac mae’n debyg y bydd angen i chi ddibynnu ar arian yr ydych wedi ei gynilo er mwyn parhau â’ch safon byw.

Sut i gynilo

Os fydd gennych arian dros ben ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis, nad oes ei angen ar gyfer pethau hanfodol, ceisiwch ei gynilo.

Ystyriwch gynilo unwaith y byddwch wedi talu’ch prif filiau.

Os darganfyddwch ei bod hi’n bosibl gwneud hyn, yna ceisiwch roi rhywfaint o’ch incwm misol o’r neilltu i gyfrif cynilo.

Lle i gynilo

Os ydych yn talu’ch arian i mewn i fanc neu gymdeithas adeiladu, byddant yn talu llog i chi – ystyriwch hyn fel rhyw fath o wobr am ganiatáu iddynt edrych ar ôl eich arian.

Mae gan bob banc neu gymdeithas adeiladu ystod o wahanol gynnyrch cynilo ac mae pob un ohonynt yn talu cyfraddau llog gwahanol.

Y ddau gynnyrch cynilo mwyaf poblogaidd yw Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) a chyfrifon cynilo.

ISA (Cyfrif Cynilo Unigol)

Mae’r rhain yn boblogaidd iawn gan eu bod yn ffordd ddi-dreth o gynilo neu fuddsoddi. Nid oes unrhyw Dreth Incwm na Threth ar Enillion Cyfalaf yn daladwy ar arian a gynilir mewn ISA.

Ar nifer o gynnyrch cynilo eraill byddech yn talu treth ar yr incwm a gewch.  A gallech orfod talu Treth ar Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw o fuddsoddiadau.

Gallwch gynilo £20,000 hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth bresennol ym mis Ebrill 2024.

Gallwch gynilo mewn arian parod, buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, neu gymysgedd o’r ddau.

Cyfrifon cynilo

Mae bron pob banc a chymdeithasau adeiladu’n cynnig cyfrifon cynilo sy’n talu peth llog, a bydd nodweddion ychydig yn wahanol yn perthyn i bob un.

Fel arfer nid oes trothwy wedi ei osod ar faint y gallwch gynilo yn y cyfrifon hyn bob blwyddyn.  Ac yn aml po fwyaf o arian a rowch i mewn, yr uchaf fydd y gyfradd llog a gewch.

Os ydych wedi cynilo hyd at drothwy eich ISA, efallai yr hoffech agor cyfrif cynilo ar gyfer unrhyw arian ychwanegol y gallwch ei gynilo.

Sut i ddod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau

Mae nifer o bethau i’w hystyried ar gyfer cyfrif cynilo i sicrhau ei fod yn cwrdd â’ch anghenion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • faint o log a delir
  • pa mor sydyn y cewch chi dynnu eich arian allan os bydd angen
  • yr isafswm o arian sydd yn rhaid i chi ei roi i mewn (un ai i agor y cyfrif, neu bob mis).
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.