Sut i ddod o hyd i'r cyfrif cynilo gorau

Mae cael cyfrif cynilo fel arfer yn hawdd iawn - mae modd agor llawer ar-lein mewn ychydig funudau. Dyma sut i benderfynu pa fath sydd orau, cymharu'r cyfraddau uchaf a gwirio’n rheolaidd eich bod yn dal i gael y cytundeb gorau.

 

Cyfrifwch pa fath o gyfrif sydd orau

Bydd yr un sydd orau yn dibynnu ar beth rydych am ei wneud.

Talu arian i mewn a thynnu arian allan unrhyw bryd

Mae'r arian wrth law pan fyddwch ei angen. Os ydych yn cael rhai budd-daliadau, y cynllun Cymorth i Gynilo sydd orau gan ei fod yn rhoi bonws o 50%.

Mae'r holl log yn ddi-dreth. Gallwch gynilo hyd at £20,000 cyn 6 Ebrill.

Rydych chi'n cael eich cynnwys mewn raffl fisol yn hytrach na cael llog wedi’i dalu. Gallwch gynilo hyd at £50,000.

Efallai y bydd rhai cyfrifon banc yn talu llog ar symiau penodol, ond nid yw llawer yn gwneud hynny.

Gweithio o amgylch cyfyngiadau i sicrhau'r enillion mwyaf posibl

Mae'n rhoi bonws o 25% ar gynilion a ddefnyddir ar gyfer ymddeol neu brynu cartref cyntaf. Mae angen i chi fod rhwng 18 a 39 oed i agor un.

Mae’n gadael i chi gynilo swm misol penodol yn gyfnewid am gyfradd llog uwch. Ond efallai na fyddwch yn gallu tynny arian allan.

Mae’n gwarantu cyfradd llog am gyfnod penodol rhwng chwe mis a saith mlynedd. Ond ni allwch dynny arian allan tan y diwedd.

Os byddwch yn talu treth ar log cynilion, gall y rhain dalu mwy na'r bondiau arferol uchod. Gallwch dynny arian allan neu gau'n gynnar, fel arfer am ffi.

Cyfrifon rhybudd

I dynnu arian allan fel arfer bydd angen i chi roi rhwng 30 a 120 diwrnod o rybudd.

Gallwch gael nifer o gyfrifon cynilo, felly efallai y byddwch yn penderfynu mae agor mwy nag un math sydd orau. Er enghraifft, un ar gyfer cynilion brys y gallwch gael mynediad atynt ac un gydag arian y gallwch roi heibio am gyfradd uwch.

Os yw'ch banc yn cysylltu â chi am newid eich cyfradd llog, defnyddiwch hwn fel sbardun i siopa o gwmpas i weld a ellir cael gwell yn rhywle arall.

Cyfrifwch a fyddwch yn talu treth ar log cynilion

Mae faint o log di-dreth y gallwch ei ennill (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn dibynnu ar eich incwm blynyddol. Gweler sut mae treth ar gynilion yn gweithio am eglurhad llawn.

Mae llog yn cael ei gyfrif yn y flwyddyn dreth y gallwch gael mynediad iddo. Rhowch gynnig ar gyfrifiannell cynilo Banc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd i gyfrifo faint o log y byddech yn ei gael.

Os yw hyn yn fwy na'ch lwfans chi, chwiliwch am gyfrif cynilo di-dreth ar gyfer y gweddill.

Rhannwch eich arian os oes gennych fwy na £85,000

Mae'r £85,000 cyntaf y person, fesul grwp bancio, wedi'i ddiogelu, felly byddech yn cael eich arian yn ôl pe bai banc yn methu. Yr eithriad yw NS&I, lle mae eich holl gynilion yn cael eu diogelu.

Mae'r gwiriwr diogelwch Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd yn dangos pa fanciau sy'n cael eu cynnwys.  

Talu dyledion sy'n costio mwy nag y mae cynilion yn eu talu

Mae cynilion fel arfer yn talu cyfradd llog is na'r un rydych yn ei dalu i'w fenthyca. Felly, yn aml mae'n well i chi glirio dyled yn gyntaf. Gweler Sut i leihau benthyca ar gredyd am y wybodaeth llawn. 

Cymharwch y cyfraddau uchaf

Mae'r safleoedd canlynol i gyd yn rhestru'r cyfrifon cynilo sy'n talu uchaf:

Yna mae'n fater o agor eich cyfrif dewisol. Bydd llawer yn gadael i chi agor ar-lein mewn ychydig funudau, er bod opsiynau y gallwch agor mewn ap, dros y ffôn, drwy'r post neu mewn cangen.

Dylech bob amser wirio am unrhyw gyfyngiadau ar dynnu arian allan neu gosbau am gau'n gynnar. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon ond yn gadael i chi dynnu arian allan ar un diwrnod y flwyddyn.

Gwiriwch yn rheolaidd eich bod yn cael y gyfradd orau

Gall y gyfradd gynilo uchaf newid sawl gwaith y dydd, gyda banciau gwahanol yn cystadlu i fod y gorau. Felly, oni bai bod eich holl arian mewn bond cyfradd sefydlog, mae'n syniad da i wirio'n rheolaidd a ellir cael cyfradd well yn rhywle arall.

Os yw'ch banc yn cynyddu eich cyfradd, dylech barhau i siopa o gwmpas

Byddwch yn cael gwybod a fydd eich cyfradd llog yn cynyddu (neu'n gostwng) ymlaen llaw, fel arfer trwy e-bost neu lythyr. Defnyddiwch hwn fel sbardun i gymharu'r cyfraddau uchaf - os yw'ch banc wedi newid ei gyfradd, mae'n debygol bod eraill hefyd.

Rhaid i fanciau sicrhau eich bod ar gytundeb deg - ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid iddo fod y gorau yn y farchnad.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.