Symud, byw ac ymddeol dramor

A allaf gael fy mhensiwn os wyf yn byw dramor?

Gellir talu pensiynau gweithle neu breifat i chi ble bynnag rydych yn byw.

Bydd gennych hawl i unrhyw gynnydd blynyddol sydd wedi cael eu hadeiladu i mewn yn yr un modd â phetaech yn byw yn y DU.

Os ydych yn ystyried symud dramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â'ch cynllun pensiwn neu'ch darparwr cyn i chi symud.

Efallai na fydd rhai darparwyr ond yn gallu talu i mewn i gyfrif banc yn y DU.

Efallai y bydd darparwyr eraill yn talu i gyfrif banc dramor os gofynnwch iddynt. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod costau ychwanegol i'w talu.

A chofiwch y bydd eich incwm pensiwn yn cael ei dalu mewn punnoedd. Mae hyn yn golygu y bydd amrywiadau mewn cyfraddau cyfnewid yn effeithio arno pan fyddwch yn ei drosi i'ch arian lleol.

Mae angen i chi fod yn barod i'ch incwm godi a chwympo oherwydd hyn.

Os bydd cyfraddau yn mynd yn eich erbyn, gall effeithio'n ddifrifol ar faint sydd gennych i fyw arno.

A fyddaf yn talu treth ar fy mhensiwn yn y DU os byddaf yn byw neu’n symud dramor?

Os ydych yn byw dramor, mae'n debygol y cewch eich ystyried fel preswylydd nad yw'n byw yn y DU a gallech wynebu sefyllfa dreth cymhleth.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm pensiwn. Mae hyn oherwydd ei fod wedi'i ystyried yn incwm y DU. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth arno hefyd yn y wlad rydych yn byw ynddi.

Os oes ganddynt gytundeb trethiant dwblYn agor mewn ffenestr newydd gyda’r DU, gallwch hawlio rhyddhad treth yn y DU er mwyn osgoi cael eich trethu ddwywaith. Darganfyddwch fwy am dreth os ydych yn byw dramorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Gallai cyfreithiau treth dramor eich atal rhag cymryd unrhyw arian o'ch pensiwn yn ddi-dreth. Gall hyn effeithio ar ba opsiynau pensiwn sydd orau i chi.

Er enghraifft, os nad ydych wedi cymryd eich cyfandaliad arian parod di-dreth o'ch pensiwn cyn i chi symud, efallai y cewch eich trethu arno fel incwm yn y wlad rydych chi'n byw ynddi.

Os ydych chi'n ystyried symud dramor neu eisoes yn byw dramor, mae'n werth cael cyngor rheoledig trawsffiniol arbenigol ar eich pensiwn a sut mae'n cael ei drethu. Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddod o hyd i gynghorydd ymddeoliad, ond efallai y bydd angen i chi wneud ymchwil bellach i ddod o hyd i arbenigwr lleol yn eich gwlad breswyl.

Symud cyn i chi ddechrau cymryd incwm o’ch pensiwn

Os symudwch dramor cyn i chi ddechrau cymryd unrhyw incwm pensiwn, mae gennych ddau opsiwn:

  • Stopio talu i mewn i'ch pensiwn a chymryd eich arian yn ddiweddarach - o 55 oed ar y cynharaf (mae hwn yn debygol o newid i 57 yn 2028).
  • Parhau i dalu i'ch pensiwn. Ond byddwch yn ymwybodol y gallai swm y rhyddhad treth ar eich cyfraniadau fod yn gyfyngedig.

Mae'n bwysig gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar eich pensiwn os nad ydynt yn cael eu darparu'n awtomatig.

Pan fyddwch yn penderfynu dechrau cymryd arian o'ch pensiwn, yn gyffredinol mae gennych yr un opsiynau ag y byddai gennych petaech yn byw yn y DU.

Os nad yw’ch darparwr pensiwn yn cynnig yr opsiwn talu rydych ei eisiau

Ni fydd rhai darparwyr pensiwn yn caniatáu i breswylydd tramor sefydlu polisi newydd. Gallai hyn gyfyngu ar eich gallu i siopa o gwmpas.

Trosglwyddo pensiynau wrth symud dramor

Efallai y bydd yn bosibl trosglwyddo'ch pensiynau yn y DU i drefniant pensiwn dramor os yw'r cynllun pensiwn yn Gynllun Pensiwn Tramor Cydnabyddedig (QROPS).

I fod yn gymwys fel QROPS, rhaid cwrdd â rhai amodau.

Mae'n bwysig cael cyngor ariannol rheoledig gan arbenigwr ar bensiynau a throsglwyddiadau tramor cyn penderfynu.

A allaf gynilo i mewn i gynllun pensiwn y DU os wyf yn byw dramor?

Gallwch fyw dramor a chynilo i mewn i gynllun pensiwn y DU. Ond mae terfynau i'r rhyddhad treth y gallwch ei hawlio ar eich cyfraniadau

Mae byw dramor, neu weithio i gyflogwr sydd wedi'i leoli dramor, yn golygu y gallai rhyddhad treth ar gyfraniadau fod yn gyfyngedig - neu ddim ar gael o gwbl.

A ydych yn gymwys am ryddhad treth?

Mae rhyddhad treth ar eich cyfraniadau wedi'i gyfyngu i b’un bynnag o'r symiau hyn sy'n uwch:

  • eich enillion perthnasol yn y DU y gellir codi treth incwm y DU arnynt am y flwyddyn dreth honno; neu
  • y swm sylfaenol o £3,600 lle darperir rhyddhad yn y ffynhonnell.

Mae cyfanswm y rhyddhad treth y gallwch elwa ohono hefyd wedi'i gyfyngu gan y Lwfans Blynyddol. Eich lwfans blynyddol yw'r uchafswm y gallwch ei gynilo yn eich cronfeydd pensiwn mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) cyn y bydd rhaid i chi dalu treth.

I gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau, mae rhaid eich bod wedi bod yn unigolyn perthnasol yn y DU am y flwyddyn dreth honno. Rydych yn unigolyn perthnasol yn y DU os:

  • oes gennych enillion perthnasol y DU y gellir codi treth incwm y DU arnynt am y flwyddyn dreth honno
  • ydych yn preswylio yn y DU, neu
  • oeddech yn preswylio yn y DU yn un o'r pum mlynedd dreth flaenorol ac, ar yr adeg roeddech yn preswylio, daethoch yn aelod o gynllun pensiwn cofrestredig yn y DU, neu
  • ydych yn un o Weision y Goron – yn briod/partner sifil i un o Weision y Goron – ac mae gennych enillion sy'n ddarostyngedig i dreth y DU.

Beth sy’n digwydd i’m Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddaf yn symud dramor?

Hawlio a derbyn Pensiwn y Wladwriaeth tra’n dramor

Gallwch hawlio a derbyn Pensiwn y Wladwriaeth y DU wrth fyw dramor.

Ond mae Credyd Pensiwn yn stopio pan fyddwch yn symud dramor yn barhaol. Mae hwn yn fudd-dal prawf modd, a all ychwanegu at eich incwm wythnosol.

Pan symudwch, mae angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol. Mae eu manylion cyswllt ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn dod o Ogledd Iwerddon, mae angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon. Mae eu manylion cyswllt ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Mae angen i chi hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EM (HMRC) i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth. Mae eu manylion cyswllt ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gellir talu'ch Pensiwn y Wladwriaeth i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU, neu i gyfrif tramor yn yr arian lleol.

Byddwch angen y rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau cod adnabod banc (BIC) os oes gennych gyfrif tramor.

Fe'ch telir yn yr arian lleol. Gallai hynny olygu y gall y swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.

Yn union fel yn y DU, gallwch ddewis gohirio neu stopio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth am amser a chael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Os symudwch i wlad Ardal Economaidd Ewropeaidd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021, efallai y bydd eich hawl i rai budd-daliadau DU newid. Am y newyddion diweddaraf, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Cynnydd a threth Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch dramor

Os ydych yn byw dramor, mae'n debygol y cewch eich ystyried fel preswylydd nad yw'n byw yn y DU. Mae hyn yn golygu nad ydych fel arfer yn talu treth y DU ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Ond efallai y byddwch yn talu treth yn y wlad rydych yn byw. 

Os ydych yn byw yn y DU, mae Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn codi bob blwyddyn. Ond os byddwch yn symud dramor, bydd gennych ond hawl i’r codiad blynyddol os ydych yn byw yn:

  • Gibraltar neu'r Swistir
  • Gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU.

Os symudwch i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021, gall eich hawl i rai budd-daliadau yn y DU newid. Am y wybodaeth ddiweddaraf, gwelwch wefan GOV.UK.Yn agor mewn ffenestr newydd

Os symudwch yn ôl i'r DU, byddwch yn derbyn cynnydd blynyddol.

Adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth y DU o dramor

Ni fyddwch yn adeiladu hawl i Bensiwn y Wladwriaeth y DU os ydych yn byw a’n gweithio tramor ac yn talu mewn i system nawdd cymdeithasol gwlad arall. Ond gall cyfraniadau nawdd cymdeithasol perthnasol a gafodd ei wneud mewn gwlad EU cyfri tua chwrdd â’r amodau cymhwyster am Bensiwn y Wladwriaeth DU os ydych yn cyfrannu i system nawdd cymdeithasol:

  • gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Y Swistir
  • gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU

Enghraifft

  • Wnaethoch chi weithio yn y DU am 5 mlynedd i adeiladu 5 mlynedd o flynyddoedd cymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol erbyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
  • Wnaethoch chi hefyd gweithio mewn gwlad EEA am 20 mlynedd a wnaethoch dalu cyfraniadau i nawdd cymdeithasol y wlad.
  • Byddwch yn cwrdd lleiafswm y nifer o flynyddoedd gymwys a byddwch yn gymwys i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth Newydd o ganlyniad i’r amser wnaethoch weithio dramor. Ond bydd y swm rydych yn derbyn o dan Bensiwn y Wladwriaeth newydd yn seiliedig ar y 5 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwnaethoch yn y DU.

Os symudwch i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021, gall eich hawl i rai budd-daliadau yn y DU newidYn agor mewn ffenestr newydd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, gwelwch wefan GOV.UK

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth o'r wlad rydych yn byw ynddi os ydych yn talu i mewn i'w chynllun pensiwn y wladwriaeth.

Dychwelyd i’r DU

Os dychwelwch i'r DU, mae angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol. Mae eu manylion cyswllt ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn dod o Ogledd Iwerddon, mae angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon. Mae eu manylion cyswllt ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Mae angen i chi hefyd gysylltu â HMRC i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth. Mae eu manylion cyswllt ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Llinell gymorth Preswylio HMRC yw 0300 200 3300 yn y DU. Neu ffoniwch +44 135 535 9022 o'r tu allan i'r DU.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn roi gwybod i’ch gweithle neu ddarparwyr pensiwn personol.

Os nad yw'ch Pensiwn y Wladwriaeth wedi bod yn codi tra'ch bod dramor a'ch bod yn aros yn y DU am fwy na chwe mis, bydd yn cael ei gynyddu i'r gyfradd gyfredol. Yna bydd yn dechrau cynyddu eto bob blwyddyn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.