Pan fyddwch yn ymddeol, yn ogystal â meddwl am ar beth fyddwch yn byw, mae’n syniad da i sicrhau y bydd darpariaeth ar gyfer eich dibynyddion, fel eich partner neu blant. Mae sawl ffordd o wneud hyn. Darganfyddwch beth yw’r opsiynau a’r sefyllfa dreth o bob un.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Cynllun pensiwn sy'n talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’. Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn gweithle sector cyhoeddus neu hŷn y mae'r rhain ar gael bellach.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio fel arfer yn darparu incwm pensiwn i bartner, neu ddibynnydd ariannol arall, ar ôl i chi farw. Bydd yr incwm hwn yn cael ei drethu fel enillion.
Yn ogystal ag incwm, weithiau gellir talu cyfandaliad hefyd. Mae hyn yn aml os byddwch yn marw o fewn cyfnod penodol o amser o'r adeg y gwnaethoch ddechrau derbyn yr incwm. Gelwir hyn yn cyfandaliad amddiffyn pensiwn. Byddai hyn yn cael ei dalu yn ddi-dreth os byddwch farw cyn 75 oed, fel arall bydd y person(au) sy'n ei dderbyn yn cael eu trethu.
Mae'n werth gwirio gyda gweinyddwyr y cynllun pensiwn, gan y bydd y swm a phwy y mae wedi talu iddo yn dibynnu ar reolau'r cynllun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau ar ôl marwolaeth
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae'r math hwn o gynllun pensiwn yn cronni cronfa bensiwn i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych a/neu'ch cyflogwr yn ei gyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.
Fe'u gelwir hefyd yn gynlluniau ‘prynu arian’, ac maent yn cynnwys pensiynau gweithle a phersonol.
Os oes gennych gronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd rhaid i chi benderfynu sut rydych am dynnu arian o'ch cronfa bensiwn.
Mae sawl ffordd wahanol y gallwch sicrhau bod darpariaeth ar gyfer aelodau'r teulu. Bydd y ffordd rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar sut rydych yn penderfynu defnyddio'ch pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Dyma grynodeb o'r opsiynau yn ogystal â'r sefyllfa dreth:
Ffyrdd o ddefnyddio eich pensiwn | Gadael eich pensiwn ble y mae | Prynu incwm gwarantedig (blwydd-dal) | Sefydlu incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn) | Cymryd arian allan fel lwmp swm |
---|---|---|---|---|
Opsiynau ar gyfer eich pensiwn pan fyddwch farw |
Gallwch adael unrhyw arian sydd ar ôl yn eich pensiwn i'ch teulu, buddiolwyr neu elusennau.Gallant ei gymryd fel lwmp swm neu fel incwm, yn dibynnu ar eu hanghenion. |
Gallwch ddewis cynnwys incwm gwarantedig ar gyfer partner neu ddibynnydd ar ôl i chi farw. Gelwir hyn yn flwydd-dal bywyd ar y cyd.Gallwch ddewis cyfnod o amser y mae'r incwm wedi'i warantu amdano. Os byddwch farw yn ystod yr amser hwn, bydd y person rydych wedi'i enwebu yn derbyn eich incwm ymddeol tan ddiwedd y cyfnod hwnnw. Gelwir hyn yn gyfnod gwarantedig.Gallwch gynnwys math o amddiffyniad sy'n sicrhau bod lwmp swm yn cael ei ddychwelyd i'ch buddiolwyr os byddwch farw cyn i chi ei dderbynyn ôl, fel incwm y swm llawn a ddefnyddir i brynu'ch blwydd-dal. Gelwir hyn yn amddiffyniad gwerth. Gweler ein canllaw blwydd-daliadau ar gyfer eich holl opsiynau |
Gallwch adael unrhyw arian nad ydych yn ei dynnu'n allan i'ch teulu, buddiolwyr neu elusennau. Gallant ei gymryd fel lwmp swm neu fel incwm, yn dibynnu ar eu hanghenion. |
Gellir gadael unrhyw arian sydd ar ôl yn eich cronfa bensiwn i'ch teulu, buddiolwyr neu elusennau. Gallant ei gymryd fel lwmp swm neu fel incwm, yn dibynnu ar eu hanghenion. |
Sefyllfa dreth cyn 75 oed |
Os byddwch farw cyn 75 oed, gall eich buddiolwyr dderbyn yr arian yn ddi-dreth. * |
Os byddwch farw cyn 75 oed, gall eich buddiolwyr dderbyn yr arian yn ddi-dreth. * |
Os byddwch farw cyn 75 oed, gall eich buddiolwyr dderbyn yr arian yn ddi-dreth. * |
Os byddwch farw cyn 75 oed, gall eich buddiolwyr dderbyn yr arian yn ddi-dreth. * |
Sefyllfa dreth ar ôl 75 oed |
Os byddwch farw ar ôl i chi gyrraedd 75, efallai y bydd rhaid i’ch buddiolwyr dalu treth ar yr arian. |
Os byddwch farw ar ôl i chi gyrraedd 75, efallai y bydd rhaid i’ch buddiolwyr dalu treth ar yr arian. |
Os byddwch farw ar ôl i chi gyrraedd 75, efallai y bydd rhaid i’ch buddiolwyr dalu treth ar yr arian. |
Os byddwch farw ar ôl i chi gyrraedd 75, efallai y bydd rhaid i’ch buddiolwyr dalu treth ar yr arian. |
* O 6 Ebrill 2024, gall eich buddiolwyr dderbyn yr arian yn ddi-dreth hyd at y lwfans cyfandaliad a budd-dal marwolaeth (LSBDA), ond gellir codi unrhyw swm dros ben ar eu cyfradd dreth ymylol.
Mae angen talu’r arian hefyd o fewn dwy flynedd i’ch marwolaeth, neu ei symud i drefniant talu arall fel incwm neu gyfandaliadau yn y dyfodol.
Mae unrhyw arian a gymerwyd eisoes o'ch cronfeydd pensiwn, ac nas gwariwyd, yn rhan o'ch ystâd (arian ac eiddo).
Mae Treth Etifeddiant yn daladwy os yw gwerth eich ystâd yn fwy na'r trothwy Treth Etifeddiant. Y gyfradd safonol yw 40% - weithiau gall y trothwy fod yn uwch