Prynu blwydd-dal: opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas

Un ffordd o ddefnyddio'ch pot pensiwn yw drwy brynu blwydd-dal. Mae hyn yn rhoi incwm ymddeol gwarantedig rheolaidd i chi am weddill eich oes neu am dymor penodol. Mae prynu blwydd-dal fel arfer yn benderfyniad di-droi’n-ôl, felly mae'n hollbwysig ystyried eich opsiynau, dewis y math cywir a chael y cynnig gorau a allwch.

Pa opsiynau gallaf ddewis ohonynt wrth brynu blwydd-dal?

Mae llawer o wahanol opsiynau wrth brynu blwydd-dal, sy'n eich galluogi i deilwra'ch incwm i weddu i'ch anghenion.

Mae'n bwysig deall beth yw'r opsiynau hyn. Mae hyn fel y byddwch yn gwybod:

  • pryd gewch eich incwm
  • faint a gewch
  • beth gallwch ei ddiogelu
  • ar gyfer pwy y gallwch ddarparu o bosibl pan fyddwch farw

 

Pan fyddwch wedi dewis pa fath o flwydd-dal byddwch yn ei brynu, mae rhai penderfyniadau y bydd rhaid i chi eu gwneud a fydd yn helpu i bersonoli'r cynnyrch i chi a sicrhau ei fod yn iawn i'ch sefyllfa.

Mae sawl opsiwn i ddewis ohonynt:

Bywyd sengl neu ar y cyd

Bydd angen i chi benderfynu a ydych am i'r blwydd-dal dalu allan i rywun ar ôl i chi farw.

Dim ond am eich oes y telir pensiwn oes sengl a bydd yn dod i ben pan fyddwch farw.

Mae'n talu lefel incwm uwch na blwydd-dal bywyd ar y cyd. Efallai y byddai'n addas i chi os nad oes gennych unrhyw ddibynyddion ariannol.

Mae blwydd-dal bywyd ar y cyd hefyd yn darparu incwm i'ch priod, partner sifil neu ddibynnydd arall ar ôl i chi farw.

Mae hyn yn darparu incwm parhaus - a fynegir fel arfer fel canran o 1-100% o'r incwm roeddech yn ei dderbyn yn union cyn eich marwolaeth.

Er enghraifft, bydd 50% neu 25% o'r incwm roeddech yn ei dderbyn yn daladwy ar ôl eich marwolaeth.

Yn aml, bydd blwydd-dal bywyd ar y cyd yn talu incwm rheolaidd is na blwydd-dal oes sengl, gan ei fod yn tybio y byddai angen i'r pensiwn dalu allan dros gyfnod hwy. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bob amser.

Efallai na fydd rhai darparwyr yn cytuno i sefydlu incwm ymddeol ar gyfer priod neu bartner os ydynt yn fwy na deng mlynedd yn iau na chi.

Efallai y bydd yn addas i chi os nad oes gan eich partner, neu rywun sy'n ddibynnol yn ariannol arnoch, lawer o incwm ei hun ar ôl i chi farw.

Os ydych mewn perthynas hirdymor, gallai'r penderfyniadau ariannol a wnewch nawr effeithio arnoch chi'ch dau am weddill eich oes.

Felly mae'n werth trafod y cwestiynau hyn â'ch priod, partner neu ddibynnydd:

  • A oes gan fy mhriod / partner / dibynnydd bensiwn?
  • A fyddant wedi gwarantu incwm eu hunain?
  • A fydd eu hincwm yn ddigon iddynt reoli'n ariannol ar ôl i mi farw?
  • Os yw iechyd fy mhriod / partner / dibynnydd yn wael, a yw'n gwneud mwy o synnwyr i gael incwm uwch yn sicr nawr?
  • Beth fydd yn digwydd os byddant farw cyn i mi wneud?

Blwydd-dal penodai

Gallwch enwebu unrhyw un i dderbyn blwydd-dal parhaus ar ôl i chi farw - er y byddai hyn yn amodol ar gytundeb y darparwr.

Maent yn wahanol i flwydd-daliadau ar y cyd. Mae hyn oherwydd nad parhad o'r blwydd-dal yw blwydd-dal penodai, ond blwydd-dal arunig â'i delerau a'i amodau ei hun.

Blwydd-dal olynydd

Mae blwydd-dal olynol yn fath o flwydd-dal y gellir ei dalu ar ôl marwolaeth eich buddiolwr cychwynnol.

Prynir blwydd-dal olynydd o arian a adewir o fewn trefniant incwm ymddeol hyblyg etifeddol (tynnu i lawr pensiwn).

Gellir ei brynu ar ôl marwolaeth eich buddiolwr neu olynydd gwreiddiol.

Incwm sy'n aros yr un fath neu'n cynyddu

Un o'r prif ddewisiadau y mae rhaid i chi eu gwneud yw p'un ai i ddewis incwm sy'n aros yr un fath bob blwyddyn (yn aros yn sefydlog) neu un sy'n cynyddu bob blwyddyn.

Sefydlog / gwastadol

Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael yr un taliadau pensiwn bob blwyddyn am weddill eich oes.

Byddwch yn cael incwm uwch i ddechrau, ond bydd ei bŵer prynu yn gostwng dros amser.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu prynu llai â'ch incwm dros amser wrth i brisiau pethau fel bwyd ac ynni godi.

Cynyddol

Er mwyn helpu i amddiffyn eich incwm rhag prisiau cynyddol, gallwch ddewis incwm ymddeol cynyddol. Weithiau gelwir hyn yn flwydd-dal cynyddol.

Gydag incwm cynyddol, mae gennych ddau ddewis:

  • Incwm sy'n codi bob blwyddyn ar gyfradd benodol - 3% neu 5% fel arfer.
  • Incwm sydd wedi'i addasu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant - mynegai cysylltiedig

Gyda mynegai yn gysylltiedig, os bydd prisiau'n gostwng, byddai'ch incwm ymddeol hefyd yn gostwng. Ond yn gyffredinol, p'un a yw'ch incwm yn cynyddu neu'n gostwng, bydd ei bŵer prynu yn aros yr un peth.

Fodd bynnag, bydd rhai darparwyr yn capio cynnydd chwyddiant - i 3%, er enghraifft - a dim ond caniatáu i'ch incwm gynyddu 3% hyd yn oed os yw chwyddiant yn uwch.

Bydd eich incwm cychwynnol yn is, ond bydd yn cynyddu dros amser. Mae hyn yn caniatáu i chi gynnal pŵer prynu eich arian.

Cynyddol neu wastadol?

Gydag incwm ymddeol cynyddol, os dewiswch gyfradd gynyddu flynyddol uchel bydd eich incwm cychwynnol lawer yn is nag y byddech yn ei gael o incwm ymddeol gwastadol

Er y gallai incwm gwastadol ymddangos yn demtasiwn oherwydd ei fod yn talu mwy i ddechrau, mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw ar eu hincwm ymddeol am o leiaf 20 mlynedd. Ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae chwyddiant wedi achosi i brisiau godi 3-4% y flwyddyn ar gyfartaledd. 

Cyfnod gwarant

Os byddwch farw yn fuan ar ôl cymryd blwydd-dal, ni fydd wedi talu llawer.

Mae cyfnod gwarant yn fath o ddiogelwch sy'n sicrhau bod eich incwm yn parhau i dalu am isafswm tymor, hyd yn oed os byddwch farw o fewn y tymor hwnnw.

Os ydych yn prynu gwarant deng mlynedd er enghraifft, ac yn marw ar ôl saith mlynedd – bydd taliadau'n parhau am dair blynedd arall neu gellir talu cyfandaliad.

Os byddwch farw ar ôl y cyfnod gwarant rydych wedi'i ddewis, bydd yr incwm yn dod i ben – oni bai eich bod wedi sefydlu cyd-fywyd neu flwydd-dal penodai.

Mae darparwyr fel arfer yn cyfyngu gwarantau i uchafswm o 30 mlynedd.

Bydd yr effaith ar eich cyfradd blwydd-dal yn amrywio yn dibynnu ar eich oedran, rhyw, hyd y warant ac a ydych yn sefydlu cyd-fywyd neu flwydd-dal penodai.

Diogelu gwerth

Mae hwn yn fath arall o amddiffyniad a all ddarparu cyfandaliad i'ch buddiolwr os byddwch farw cyn i chi gael yn ôl, fel incwm, y swm llawn a ddefnyddiwyd i brynu'ch blwydd-dal.

Felly pe byddech yn talu £50,000 ac yn derbyn £30,000 mewn incwm yn ôl erbyn i chi farw, byddai £20,000 yn cael ei dalu i'ch buddiolwr.

Gallwch ddewis faint o'ch pris prynu gwreiddiol rydych yn ei amddiffyn.

Bydd amddiffyn swm uwch fel arfer yn golygu eich bod yn cael incwm ychydig yn is.

Sut mae blwydd-dal yn cael ei dalu?

Fel rheol, gallwch ddewis cael eich incwm yn fisol, bob chwarter, bob hanner blwyddyn neu'n flynyddol.

Mae'r incwm a delir trwy flwydd-dal yn cael ei drethu fel incwm. Bydd y darparwr blwydd-dal fel arfer yn didynnu treth, gan ddefnyddio'ch cod treth, cyn talu'r incwm net i chi.

Efallai y gallwch gael taliadau:

  • ymlaen llaw - wedi'i dalu ar ddechrau'r cyfnod talu, neu
  • ôl-ddyledion - wedi'u talu ar ddiwedd y cyfnod talu.

Gellir gwneud taliadau â neu heb ‘gyfran’

Os dewiswch ‘â chyfran’ pan fyddwch farw, telir cyfran o’r taliad incwm nesaf sy’n ddyledus yn seiliedig ar nifer y dyddiau ers y taliad incwm diwethaf a dyddiad eich marwolaeth.

Os ydych wedi dewis cyfnod gwarant ac incwm parhaus i ddibynnydd - a byddwch farw o fewn y cyfnod gwarant - gallwch ddewis ‘â gorgyffwrdd’.

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau incwm sy'n weddill a thaliadau incwm y dibynnydd yn cael eu talu.

Os dewiswch ‘heb orgyffwrdd’, ni fydd incwm y dibynnydd yn cychwyn nes bod y taliadau incwm sy’n weddill dros y cyfnod gwarant wedi gorffen.

Efallai y gallwch gyfuno rhai o'r opsiynau hyn. Er enghraifft, incwm ar y cyd sy'n cynyddu yn unol â chwyddiant. Mae eich dewisiadau yn effeithio ar faint o incwm y gallwch ei gael.

Gall ble rydych yn disgwyl byw pan fyddwch yn ymddeol a'ch iechyd ar adeg sefydlu'r blwydd-dal hefyd effeithio ar faint o incwm rydych yn ei gael.

Ble gallaf brynu blwydd-dal?

Wrth i chi agosáu at eich oedran ymddeol, bydd eich darparwr pensiwn yn anfon gwybodaeth atoch am werth eich pot pensiwn a'r opsiynau sydd ar gael i chi gymryd arian o'ch pensiwn.

Gall rhai darparwyr pensiwn gynnig incwm i chi yn uniongyrchol. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi gymryd blwydd-dal a gynigir gan eich darparwr pensiwn presennol.

Rydych yn rhydd i edrych o gwmpas a phrynu'ch blwydd-dal gan unrhyw ddarparwr - ac efallai y byddwch yn dod o hyd i gynnig gwell trwy wneud hynny.

Siopa o gwmpas i gael y blwydd-dal gorau a'r cyfraddau gorau

Cofiwch mai dim ond unwaith y byddwch yn gorfod prynu blwydd-dal ac na allwch newid eich meddwl. Felly mae rhaid iddo fod y penderfyniad iawn i chi.

Gall yr incwm y gallwch ei gael – a elwir hefyd yn gyfradd blwydd-dal – a'r taliadau y byddwch yn eu talu i sefydlu'r blwydd-dal, amrywio'n sylweddol. A gallai olygu eich bod yn colli allan ar filoedd o bunnoedd dros eich oes

Defnyddiwch ein teclyn cymharu blwydd-dal am ddim

Gallwch ddefnyddio ein teclyn cymharu i chwilio’r farchnad i’ch helpu i weld faint o incwm gallwch ei gael o incwm gwarantedig gydol-oes, neu gyfnod sefydlog. 

Wrth siopa o gwmpas, mae'n bwysig cadw llygad am sgamiau pensiwn.

Darganfyddwch fwy

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.