Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg

Darganfyddwch fwy am Bensiwn y Wladwriaeth - sut caiff ei gyfrifo, sut caiff ei dalu, sut gellir ei hawlio, a beth mae'r jargon sy'n cael ei ddefnyddio o'i gwmpas yn ei olygu.

Beth yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw'r oedran cynharaf y gallwch hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Mae eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich geni.

Mae rhai newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd. I bobl sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth nawr, bydd yn 66 oed a bydd hynny'r un peth i fenywod a dynion.

I'r rhai a anwyd ar ôl 5 Ebrill 1960, bydd cynnydd graddol yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 67, ac yn y pen draw yn 68 oed.

Peidiwch â chymysgu oedran Pensiwn y Wladwriaeth â'ch oedran ymddeol. Oed ymddeol yw'r oedran y byddwch yn ymddeol - a gall amrywio llawer yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol.

Faint a gewch?

Lefel lawn Pensiwn y Wladwriaeth yw £203.85 yr wythnos ym mlwyddyn dreth 2023/24, sy'n cynhyrchu incwm blynyddol o £10,600.20.

Efallai y bydd y swm a gewch yn is, gan fod eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae angen o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau neu gredydau arnoch i gael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth, ac o leiaf 35 mlynedd ar eich cofnod i gael y swm llawn.

Mewn rhai achosion, gallai'r swm a gewch fod yn uwch. Os yw eich Pensiwn Gwladol yn fwy na £203.85 yr wythnos, bydd gennych ‘swm gwarchodedig’ sydd fel arfer o ganlyniad i chi adeiladu hawl i gael pensiwn ychwanegol y wladwriaeth o dan yr hen system.

Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu 8.5% o fis Ebrill 2024. Y gyfradd uchaf newydd fydd £221. Am fwy o fanylion am y newidiadau sydd i ddod i Bensiwn y Wladwriaeth, gweler ein blog datganiad yr hydref.

Sut caiff ei dalu?

Mae fel arfer yn cael ei dalu bob pedair wythnos mewn ôl-ddyledion. Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy ond yn cael ei dalu cyn cymryd unrhyw dreth.

Mae hyn yn golygu, er nad yw treth yn cael ei didynnu o Bensiwn y Wladwriaeth, bydd yn defnyddio ychydig o'ch lwfans personol di-dreth.

Yn 2023/24, y lwfans personol di-dreth safonol yw £12,570. Mae hyn yn golygu, os ydych yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn, bydd gennych £12,570 - £10,600.20 = £1,969.80 o'ch lwfans personol yn weddill ar gyfer incwm trethadwy arall. Mae enghreifftiau o incwm trethadwy arall yn cynnwys cyflogaeth neu bensiwn preifat neu alwedigaethol.

A fydd yn cynyddu unwaith y caiff ei dalu?

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu ar ddechrau bob blwyddyn dreth - ar 6 Ebrill - fel arfer gan yr uchaf o:

• y cynnydd canrannol ar gyfartaledd mewn prisiau (fel y'i mesurwyd gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Medi'r flwyddyn flaenorol),

• y cynnydd ar gyfartaledd mewn cyflogau (wedi'i fesur ym mis Gorffennaf y flwyddyn flaenorol)

• 2.5%.

Yn aml, cyfeiriwyd at hwn fel “y clo triphlyg”.

Os yw'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, bydd hyn bob amser yn cael ei gynyddu yn unol â'r cynnydd ar gyfartaledd mewn prisiau (fel y'i mesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr).

Sut rydych yn gymwys amdano?

I unrhyw un sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2016, mae angen i chi gael o leiaf deng mlynedd o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'n rhaid eich bod wedi talu neu wedi cael eich credydu o leiaf 35 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i dderbyn swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae pob blwyddyn yn rhoi 1 / 35ain o'r swm llawn, er enghraifft:

  • mae ‘35 mlynedd’ yn rhoi 35/35 x £203.85 = £203.85 yr wythnos
  • mae ‘30 mlynedd’ yn rhoi 30/35 x £203.85 = £174.73 yr wythnos
  • mae ‘10 mlynedd’ yn rhoi 10/35 x £203.85 = £58.24 yr wythnos.

Bydd angen mwy na 35 mlynedd os oeddech wedi eich eithrio o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i Gredyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal y Wladwriaeth sy'n dibynnu ar brawf modd. Mae'n ychwanegu at eich incwm hyd at £201.05 yr wythnos i berson sengl neu £306.85 i gwpl, lle mae'n is na'r ffigurau hyn (cyfraddau 2023/24)

Sut gallaf wirio fy hawl?

Yn ogystal â gwirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio'ch hawl trwy gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.

Gall rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ddweud wrthych:

  • faint o Bensiwn y Wladwriaeth gallech ei gael
  • pryd gallwch ei gael
  • sut i'w gynyddu, os gallwch.

Mae'r swm y rhagwelir y byddwch yn ei gael yn tybio eich bod yn gwneud neu'n cael eich credydu â'r nifer uchaf o gredydau Yswiriant Gwladol yn y blynyddoedd hyd at eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Sut gallaf hawlio fy Mhensiwn y Wladwriaeth?

Ni chewch eich Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig - mae rhaid i chi ei hawlio.

Dylech gael llythyr heb fod yn hwyrach na deufis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych beth i'w wneud. Os na chewch lythyr, gallwch wneud hawliad o hyd.

Mae nifer o ffyrdd i hawlio:

Os ydych am newid y cyfrif banc y telir eich Pensiwn y Wladwriaeth iddo, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0453. Os ydych yn byw dramor, cysylltwch â'r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol ar +44 19 1218 7777. Mae'r ddau rif ar gael ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8.00am i 6.00pm amser y DU. 

Pan fyddaf wedi hawlio fy Mhensiwn y Wladwriaeth pryd y byddaf yn ei dderbyn?

Bydd eich taliad cyntaf fel arfer o fewn  pum wythnos ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Fel rheol, byddwch yn cael taliad llawn bob pedair wythnos ar ôl hynny.

Mae'r diwrnod y telir eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar ddau ddigid olaf eich rhif Yswiriant Gwladol.

Taliad pensiwn y wladwriaeth
Dau ddigid olaf eich rhif YG Diwrnod y telir eich pensiwn

00 i 19

dydd Llun

20 i 39

dydd Mawrth

40 i 59

dydd Mercher

60 i 79

dydd Iau

80 i 99

dydd Gwener

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.