Pensiynau cyfranddeiliaid

Math o bensiwn unigol yw pensiwn cyfranddeiliaid. Mae rhai cyflogwyr yn eu cynnig, ond gallwch gychwyn un eich hun.

Nodweddion pensiwn cyfranddeiliaid

Mae gan bensiynau cyfranddeiliaid:

  • isafswm cyfraniadau isel a hyblyg
  • costau wedi’u cyfyngu
  • strategaeth fuddsoddi ddiofyn, a all fod yn ddefnyddiol os nad ydych am wneud penderfyniadau buddsoddi.

Mathau eraill o bensiwn unigol efallai yr hoffech eu hystyried yw:

  • pensiynau personol
  • pensiynau personol hunan-fuddsoddedig (SIPP)

Sut y mae pensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio

Safonau gofynnol

Mae rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid fodloni safonau gofynnol a bennir gan y Llywodraeth.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • terfyn cyfreithiol ar daliadau – 1.5% y flwyddyn o werth eich pot pensiwn yn ystod y deng mlynedd gyntaf, yna 1% y flwyddyn (ond os yw cyflogwr yn defnyddio pensiwn cyfranddeiliaid i gyflawni ei ddyletswyddau cofrestru awtomatig bydd cap arwystl o 0.75%).
  • trosglwyddiadau di-dâl
  • gallu stopio neu ail-gychwyn cyfraniadau ar unrhyw adeg, heb gosb
  • isafswm cyfraniadau isel o ddim mwy na £20
  • cronfa fuddsoddi wedi’i phennu – caiff eich arian ei fuddsoddi yn y gronfa hon os nad ydych am ddewis

Rhyddhad treth ar gyfraniadau

Bydd eich darparwr pensiwn yn gwneud cais am ryddhad treth ar y gyfradd sylfaenol a'i ychwanegu at eich pot pensiwn.

Os ydych yn drethdalwr uwch, bydd angen i chi wneud cais am ryddhad ychwanegol trwy eich ffurflen dreth.

Gall helpu i feddwl am bensiynau fel dau gam.

Cam 1 – tra byddwch yn gweithio

Fel arfer caiff eich cyfraniadau eu buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, ynghyd â buddsoddiadau eraill. Y nod yw cynyddu’r gronfa yn ystod y blynyddoedd cyn i chi ymddeol.

Gallwch ddewis o amrywiaeth o gronfeydd i fuddsoddi ynddynt fel rheol.

Ond cofiwch y gall gwerth buddsoddiadau godi neu ostwng.

Mae llawer o gronfeydd buddsoddi diofyn yn cynnwys ‘lifestyling’. ‘Lifestyling’ yw pan fydd eich cronfeydd yn cael eu symud – fel arfer yn awtomatig – i fuddsoddiadau risg is wrth i chi agosáu at ymddeol. Y nod yw sicrhau nad ydych yn colli arian.

Os ydych yn ansicr, siaradwch ag ymghynghorydd ariannol rheoledig a all eich cynghori a yw gosod bywyd yn rhywbeth rydych am ei ystyried ai peidio, o ystyried eich amgylchiadau personol.

Cam 2 – Pan fyddwch yn ymddeol

Pan fyddwch yn ymddeol, bydd maint eich pot pensiwn yn dibynnu ar:  

  • am ba mor hir rydych yn cynilo
  • faint rydych yn ei dalu i'ch pot pensiwn
  • pa mor dda y mae eich buddsoddiadau’n perfformio
  • faint, os unrhyw beth, y mae eich cyflogwr yn ei dalu i mewn
  • pa daliadau a gymerwyd o'ch pot gan eich darparwr pensiwn.  

Nid oes rhaid i chi stopio gweithio i gymryd arian o'ch pensiwn rhanddeiliaid. Ond fel arfer mae rhaid i chi fod yn 55 oed o leiaf (57 o 2028).

Pan ddechreuwch gymryd arian, gellir tynnu hyd at 25% o'r pot pensiwn rydych wedi'i gronni yn ôl fel cyfandaliad di-dreth untro. Gellir wedyn defnyddio'r gweddill i ddarparu incwm trethadwy neu un cyfandaliad trethadwy neu fwy (neu'r ddau).

Mae'n bwysig deall eich opsiynau.

Sefydlu pensiwn cyfranddeiliaid

Os cynigir pensiwn cyfranddeiliaid gan eich cyflogwr, byddant wedi dewis darparwr y pensiwn.  Efallai y byddant yn trefnu i gyfraniadau gael eu talu o’ch cyflog hefyd.

Efallai y bydd y cyflogwyr yn cyfrannu at y cynllun.

Os ydynt yn defnyddio'r pensiwn cyfranddeiliaid i gyflawni eu dyletswyddau cofrestru awtomatig, mae rhaid iddynt gyfrannu.

Gallwch sefydlu pensiwn cyfranddeiliaid dros eich hun hefyd

Newid swydd

Os byddwch yn newid swydd, dylech wirio pryd fydd eich cyflogwr newydd yn eich ymrestru i gynllun pensiwn gweithle.

Gallwch barhau i gyfrannu at bensiwn cyfranddeiliaid sy’n bodoli eisoes. Ond efallai y bydd yn well i chi ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr - yn enwedig os bydd y cyflogwr yn cyfrannu.

Cymharwch y buddion sydd ar gael trwy gynllun eich cyflogwr gyda’ch pensiwn cyfranddeiliaid.

Os byddwch yn penderfynu stopio cyfrannu at bensiwn cyfranddeiliaid, gallwch adael y gronfa pensiwn i barhau i gynyddu. Ni ddylai fod unrhyw daliadau ychwanegol am wneud hyn.  

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.