Mae pensiynau buddsoddi personol (SIPP) yn gweithio mewn ffordd debyg i bensiwn personol safonol. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau yn rhoi dewis llawer ehangach i chi o fuddsoddiadau - rydych yn eu rheoli'ch hun neu gyda chymorth ymgynghorydd ariannol.
Beth yw SIPP?
Mae pensiwn buddsoddi personol (SIPP) yn bensiwn ‘lapiwr’ sy’n caniatáu i chi gynilo, buddsoddi ac adeiladu cronfa o arian ar gyfer pan fyddwch yn ymddeol. Mae'n fath o bensiwn personol ac mae'n gweithio mewn ffordd debyg i bensiwn personol safonol. Y prif wahaniaeth yw, gyda SIPP, bod gennych fwy o hyblygrwydd gyda'r buddsoddiadau y gallwch eu dewis.
I gael mwy o wybodaeth am bensiynau personol, gweler ein canllaw Pensiynau personol
Sut mae SIPPs yn wahanol?
Gyda SIPP, rydych yn dewis a rheoli'ch buddsoddiadau eich hun neu'n talu ymgynghorydd ariannol awdurdodedig i'ch helpu.
Gan mai chi sy'n rheoli, gallwch wneud newidiadau ac ychwanegiadau i'ch buddsoddiadau mor aml ag y dymunwch.
Gall SIPPs gynnig opsiynau buddsoddi llawer ehangach na mathau eraill o bensiwn.
Gall yr opsiynau buddsoddi ehangach ganiatáu i chi fuddsoddi mewn ystod eang o asedau, gan gynnwys:
- cyfranddaliadau cwmnïau (y DU a thramor)
- buddsoddiadau ar y cyd - fel cwmnïau buddsoddi penagored (OEICs) ac ymddiriedolaethau uned
- ymddiriedolaethau buddsoddi
- eiddo a thir - ond nid y mwyafrif o eiddo preswyl.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr - mae gwahanol ddarparwyr SIPP yn cynnig gwahanol opsiynau buddsoddi.
Ni allwch ddefnyddio SIPP i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn eiddo preswyl. Ond efallai y byddai'n bosibl buddsoddi mewn eiddo masnachol, fel swyddfeydd.
Neu, gallwch fuddsoddi'n anuniongyrchol trwy rai buddsoddiadau ar y cyd, fel ymddiriedolaethau buddsoddi eiddo tiriog (a elwir hefyd yn REITs).
Nid yw pob darparwr SIPP yn derbyn y math hwn o fuddsoddiad ac mae cyfyngiadau ar ddefnydd personol yn berthnasol.
Oni bai bod gennych brofiad o reoli buddsoddiad, mae'n bwysig defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig i helpu i ddewis a rheoli eich buddsoddiadau SIPP.
Os ydych yn buddsoddi heb gyngor, rydych yn llai tebygol o gael eich diogelu os aiff pethau o chwith.
I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallwch fuddsoddi yn eich pensiwn, gweler ein canllaw Dewisiadau buddsoddi personol
Rheolau pensiwn SIPP
Rydych yn rheoli faint rydych yn ei gynilo a pha mor aml.
Gallech ddewis gwneud cyfraniadau rheolaidd neu dalu cyfandaliadau wrth i chi ddewis. Gall cyflogwr hefyd wneud cyfraniadau i'ch pensiwn.
Ydw i'n cael rhyddhad treth ar gyfraniadau i SIPP?
Mae cyfraniadau i SIPPs yn gymwys i gael rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu bod eich cyfraniadau yn cael hwb gan daliad gan y llywodraeth.
Mae cyfraniadau a wnewch fel aelod yn derbyn rhyddhad treth incwm cyfradd sylfaenol yn y ffynhonnell, yn ddarostyngedig i rai amodau.
Er enghraifft, os cyfrannwch gyfandaliad o £2,000 i'ch SIPP, byddwch yn cael rhyddhad treth o £500 gan y llywodraeth, felly buddsoddir cyfanswm o £2,500 yn y SIPP.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch (40%), gallwch hefyd hawlio rhyddhad treth ychwanegol o hyd at £500 trwy eich ffurflen dreth hunanasesu, a hyd at £625 ychwanegol os ydych yn drethdalwr cyfradd ychwanegol (45%).
Mae cyfraddau rhyddhad treth trigolion yr Alban ychydig yn wahanol.
Mae cyfyngiadau i faint y gallwch chi ei gyfrannu, a faint o ryddhad treth y gallwch ei gael ar hyn, mewn unrhyw flwyddyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
A allaf newid y swm yr wyf yn ei gynilo yn fy SIPP?
Ni ddylai hyn fod yn broblem fel rheol, ond gall eich darparwr roi gwybod i chi beth yw eich opsiynau.
Yn aml gallwch newid eich cyfraniadau ar-lein neu trwy lenwi ffurflen.
A allaf gynilo cyfandaliad yn fy SIPP?
Gallwch. Yn aml gallwch wneud hyn ar-lein ond efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr pensiwn os bydd angen i chi lenwi ffurflen.
A allaf gael SIPP a phensiwn gweithle?
Gallwch, gallwch gael y ddau. Os yw eich cyflogwr yn cyfateb unrhyw gyfraniadau ychwanegol rydych yn eu talu i bensiwn gweithle, mae'n well rhoi eich arian i mewn yno yn gyntaf. Mae hynny oherwydd bod y cyfraniadau cyflogwr ychwanegol yn helpu i roi hwb i'ch cynilion.
Os ydych yn ystyried sefydlu SIPP fel y gallwch wneud cyfraniadau ychwanegol y tu allan i'ch pensiwn gweithle, mae'n syniad da cymharu'r costau a'r taliadau, oherwydd gallai fod yn rhatach cyfrannu at eich pensiwn gweithle presennol.
A yw SIPP yn gynllun pensiwn cofrestredig?
Ydy, mae SIPPs wedi bod yn bensiynau cofrestredig ers 2006.
A yw cynilo i mewn i SIPP yn effeithio ar fy lwfans blynyddol?
Mae cyfraniadau SIPP yn cael eu mesur yn erbyn eich lwfans blynyddol yn yr un ffordd â phensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio eraill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn
Ffioedd a thaliadau
Mae SIPPs yn amrywio - o ‘gost isel’ gyda llai o opsiynau buddsoddi, i SIPPs ‘llawn’ gydag opsiynau buddsoddi ehangach a mwy cymhleth a strwythurau codi tâl uwch.
Gallai ffioedd gynnwys:
- taliadau sefydlu
- ffigurau taliadau parhaus ar gyfer y buddsoddiadau
- taliadau platfform neu wasanaeth (i gwmpasu gweinyddiaeth eich pensiwn)
- taliadau gweinyddu blynyddol (mae rhai darparwyr yn cyfuno'r taliadau buddsoddi a gweinyddu)
- ffioedd delio am fuddsoddi - gyda rhai ffioedd yn sefydlog ac eraill yn seiliedig ar ganran, yn dibynnu ar y darparwr.
I gael mwy o wybodaeth am ffioedd, gweler ein canllaw Ffioedd cynllun pensiwn
Cyn cymryd SIPP, mae'n bwysig edrych o gwmpas a chymharu ffioedd. Ac i sicrhau eich bod yn deall yr effaith bosibl y gallai'r taliadau ei chael ar eich buddsoddiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Siopa o gwmpas am gynhyrchion incwm pensiwn ar ôl ymddeol
Beth yw fy opsiynau ar gyfer cymryd arian o SIPP?
O 55 oed (yn codi i 57 oed yn 2028), gallwch ddewis dechrau cymryd arian o'ch cronfa bensiwn trwy un o'r opsiynau a restrir isod, neu gyfuniad ohonynt.
Bydd yr opsiwn mwyaf addas i chi yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol.
Eich prif opsiynau yw:
- Cadw eich cynilion pensiwn lle maen nhw – a’u cymryd yn nes ymlaen.
- Defnyddio eich cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig am oes, a elwir hefyd yn flwydd-dal oes. Neu gallwch brynu incwm am gyfnod penodol, a elwir hefyd yn blwydd-dal cyfnod penodol. Mae'r incwm o'r naill neu'r llall yn drethadwy, ond fel rheol gallwch ddewis cymryd hyd at 25% o'ch cronfa fel cyfandaliad di-dreth unwaith ac am byth ar y dechrau.
- Defnyddio eich cronfa bensiwn i roi incwm ymddeol hyblyg i chi. Gelwir hyn hefyd yn tynnu pensiwn i lawr. Gallwch gymryd y swm y caniateir i chi ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth - hyd at 25% fel rheol. Yna gallwch ddefnyddio'r gweddill i roi incwm trethadwy rheolaidd i chi.
- Cymryd nifer o gyfandaliadau. Fel arfer, bydd y 25% cyntaf o bob tynnu arian allan o'ch cronfa yn ddi-dreth. Mae'r gweddill yn drethadwy.
- Cymryd eich cronfa bensiwn ar yr un pryd. Fel arfer, bydd y 25% cyntaf yn ddi-dreth ac mae'r gweddill yn drethadwy.
- Cymysgu eich opsiynau - dewiswch unrhyw gyfuniad o'r uchod, drwy ddefnyddio gwahanol rannau o'ch cronfa neu gronfeydd ar wahân.
Mae terfyn oes ar y cyfanswm y gellir ei dynnu’n ddi-dreth, a elwir yn ‘lwfans cyfandaliad’ (LSA). Ar gyfer 2024/25 mae hyn wedi’i osod ar £268,275 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Gall y rheolau fod yn gymhleth, felly efallai y byddwch am siarad â chynghorydd ariannol rheoledig os ydych yn meddwl y gallai hyn effeithio arnoch chi.
Darganfyddwch fwy o fanylion am eich holl opsiynau yn ein canllaw Opsiynau ar gyfer defnyddio'ch cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Ydy SIPPs yn iawn i chi?
Gall unrhyw un o dan 75 oed yn y DU ddechrau SIPP, ac nid oes terfynau oedran ar gyfer trosglwyddo cronfeydd pensiwn eraill i un.
Fodd bynnag, mae SIPPS yn gyffredinol yn fwy addas os ydych yn deall marchnadoedd ariannol ac yn barod i dreulio amser yn ymchwilio ac yn rheoli eich buddsoddiadau. Neu’n gallu fforddio talu ymgynghorydd ariannol i wneud hyn ar eich rhan.
Os oes gennych fynediad at bensiwn gweithle, mae fel arfer yn gwneud synnwyr ariannol i roi eich arian i mewn i hynny yn gyntaf, yn enwedig gan fod eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu.
Cofiwch y gall buddsoddiadau ostwng yn ogystal â chodi. Felly os ydych am reoli SIPP eich hun, mae angen i chi hefyd fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb am eich penderfyniadau os aiff pethau o chwith.
Os nad yw hyn yn swnio fel chi, neu os oes gennych unrhyw amheuaeth, siaradwch ag ymgynghorydd ariannol rheoledig a fydd yn gallu cynghori a yw SIPPs yn addas.
Gallant hefyd eich helpu i ddewis un a rheoli cronfeydd SIPP.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Pan fyddwch yn penderfynu bod pensiwn yn iawn i chi, gallwch:
- mynd yn uniongyrchol at y cwmnïau sy'n eu gwerthu, cymharu eu cynhyrchion a phenderfynu eich hun o ran p’un i'w ddewis. Byddwch yn ymwybodol, os gwnewch y penderfyniad anghywir a bod y cynnyrch a ddewiswch yn anaddas, rydych yn llai tebygol o allu cwyno. Gwiriwch y Gofrestr o Wasanaethau Ariannol (Agor mewn ffenestr newydd) (Opens in a new window) i sicrhau bod y cwmni wedi'i gofrestru ac yn ddiogel.
- defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig a fydd yn cymharu cynhyrchion ar y farchnad ac yn gwneud argymhelliad yn bersonol i chi.