Mae'n rhaid i bob cyflogwr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn gweithle. Mae'n rhaid iddynt gyfrannu ato hefyd. Yn aml, bydd cyflogwyr yn defnyddio ‘master trust’ - a elwir weithiau yn ‘gynllun pensiwn aml-gyflogwr’
Beth yw cynllun pensiwn ‘master trust’?
Mae rhai cyflogwyr yn cynnig eu cynllun pensiwn gweithle eu hunain sydd ar gael i'r cyflogwr hwnnw yn unig a'i weithwyr.
Mae cynllun pensiwn ‘master trust’ yn darparu pensiwn gweithle y gellir ei ddefnyddio gan lawer o gyflogwyr a'u gweithwyr. Dyma pam maent hefyd yn cael eu galw'n gynlluniau pensiwn aml-gyflogwr.
Mae yna lawer o gynlluniau ‘master trust’ fawr ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys NEST, sef y pensiwn gweithle ‘master trust’ a sefydlwyd gan y llywodraeth.
Yn NEST, cewch ragor o wybodaeth am gynllun prif ymddiriedolaeth pensiwn gweithleYn agor mewn ffenestr newydd
Am restr o'r holl gynlluniau pensiwn 'master trust' ewch i'r Rheoleiddiwr Pensiynau
Nodweddion cynllun pensiwn ‘master trust’
Mae'r mwyafrif o ‘master trusts’ a ddefnyddir am ymrestru awtomatig yn gynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio. Ac meant yn gweithio mewn ffordd debyg i bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio eraill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Rydych yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau i'r cynllun pensiwn, sy'n gymhorthdal gan y llywodraeth i roi hwb i'ch cynilion. Hefyd, rydych yn cael budd cyfraniadau'ch cyflogwr.
Buddsoddir yr arian rydych chi a'ch cyflogwr yn ei gyfrannu i'ch pensiwn. A phan fyddwch yn ymddeol, gallwch dynnu'r arian allan mewn unrhyw ffordd rydych ei eisiau.
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o'ch cronfa’n ddi-dreth - ac rydych yn talu treth ar y gweddill.
Bydd gan wahanol gynlluniau ffioedd gwahanol a gwahanol ddewisiadau buddsoddi. Efallai y bydd rhai hefyd yn cyfyngu ar bwy all ymuno a faint y gellir ei dalu i mewn bob blwyddyn.
Eich cyflogwr sy'n penderfynu pa bensiwn ‘master trust’ y mae am ei ddefnyddio.
Os ydych yn gyflogai a'ch bod am ddarganfod mwy am eich pensiwn gweithle, p'un a yw'n ‘master trust’ ai peidio, mae'n well siarad â'ch cyflogwr.
Os ydych yn gyflogwr sydd am sefydlu pensiwn gweithle newydd, neu newid i gynllun arall, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig. Byddant yn eich helpu i ddewis. Gall ymgynghorwyr ariannol hefyd gynnig cyngor ariannol rheoledig, trwy'r gweithle, i weithwyr.
Sut mae pensiwn ‘master trust’ yn cael eu rheoli?
Mae pob cynllun pensiwn gweithle yn cael ei lywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr - ac nid yw ‘master trust’ yn wahanol.
Mae gan yr ymddiriedolwyr nifer o ddyletswyddau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg er budd ei aelodau. Er enghraifft, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau'r cynllun.
Rhaid bod gan y ‘master trust’ o leiaf dri ymddiriedolwr - er bod gan y mwyafrif fwy. Ac mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd fod yn annibynnol o’r gweinyddwr, yn ogystal â'r cyflogwyr sy'n defnyddio'r cynllun.
Hefyd, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio â Chod Ymarfer y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn awdurdodi ac yn goruchwylio ‘master trusts’. Mae’r cod ymarfer yn seiliedig ar wahanol elfennau sy’n cyfrannu at ‘ganlyniadau da i aelodau’. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
- amddiffyn arian aelodau
- gweinyddu'r cynllun yn effeithiol ac yn effeithlon
- a gwerth am arian i aelodau.