Bydd llawer o gyflogwyr yn cynnig mynediad i'w gweithwyr i yswiriant bywyd tra'u bod yn gyflogedig gyda hwy. Bydd hyn fel arfer yn cael ei sefydlu ar wahân i'ch pensiwn. Fodd bynnag, sefydlwyd rhai cynlluniau pensiwn gweithle hŷn i gynnwys yswiriant bywyd. Darllenwch y canllaw hwn i ddarganfod mwy am y gwahaniaethau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw yswiriant bywyd?
Os oes gennych bensiwn gweithle sy'n cynnwys yswiriant bywyd, bydd yr yswiriant bywyd yn talu cyfandaliad neu daliadau rheolaidd i'ch dibynyddion os byddwch yn marw, gan roi cefnogaeth ariannol i'ch dibynyddion ar ôl i chi fynd.
Mae swm yr arian a delir allan yn dibynnnu ar lefel yr yswiriant rydych ci'n ei brynu.
Chi sy'n penderfynu sut y mae'n cael ei dalu allan ac a fydd yn talu taliadau penodol - fel morgais neu rent - neu os yw am adael i'ch teulu gael etifeddiaeth.
Gallai hyn gael ei ddarparu gan y cynllun pensiwn neu drwy bolisi yswiriant a brynwyd gan y cyflogwr, neu'r ddau.
Mae faint o yswiriant bywyd sy'n cael ei dalu allan yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- y math o gynllun pensiwn rydych yn perthyn iddo
- p'un a ydych yn aelod gweithredol o'r cynllun (yn dal i gyfrannu iddo neu'n gweithio i'r un cyflogwr)
- p'un a ydych wedi cyrraedd yr oedran ymddeol a ddewiswyd neu wedi dechrau cymryd eich budd-daliadau ymddeol.
Felly mae'n bwysig gwirio a deall beth sy'n berthnasol i chi a phryd y gallai hyn newid.
Cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod gweithredol o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio sy'n cynnwys yswiriant bywyd, mae swm yr yswiriant a fyddai'n cael ei dalu ar eich marwolaeth yn aml yn lluosrif o'ch cyflog pensiynadwy neu'ch enillion ar adeg eich marwolaeth.
Er enghraifft, gall eicj yswiriant ford yn ddwy neu bedair gwaith eich cyflog pensiynadwy. Telir hwn fel cyfandaliad ac fel rheol mae'n ddi-dreth os bu farw'r aelod cyn ei ben-blwydd yn 75 oed.
Efallai y bydd y cynllun yn talu buddion marwolaeth eraill, fel ad-daliad o unrhyw gyfraniadau rydych chi wedi'u talu neu bensiwn dibynnydd.
Yn y ddau achos, mae'n bwysig edrych ar y wybodaeth a roddwyd i chi gan y cynllun i ddarganfod faint fyddai'ch dibynyddion yn ei dderbyn pe byddech chi'n marw. Os nad oes gennych y wybodaeth hon, gallwch ofyn i'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr eich cynllun.
Darganfyddwch fwy am bensiynau buddion wedi’u diffinio yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu cyflog terfynol) wedi’u hesbonio
Cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel rheol gellir talu'r cronfa bensiwn rydych wedi'i adeiladu i'ch buddiolwyr.
Os ydych yn aelod gweithredol o gynllun sy'n darparu yswiriant bywyd, fel rheol telir cyfandaliad pellach os byddwch yn marw.
Mynegir y swm hwn yn aml fel lluosrif o'ch enillion pensiynadwy neu'ch cyflog ar adeg eich marwolaeth.
Unwaith eto, edrychwch ar y wybodaeth a roddwyd i chi gan y cynllun i ddarganfod faint fyddai eich dibynyddion yn ei gael pe byddech yn marw. Os nad oes gennych y wybodaeth hon, gallwch ofyn i'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr eich cynllun.