Mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn fath o gynllun pensiwn gweithle. Mae'r arian rydych chi'n ei gael pan fyddwch chi'n ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a'r nifer o flynyddoedd rydych chi wedi bod yn rhan o’r cynllun. Mae dau fath sylfaenol: cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa.
Beth yw pensiwn buddion wedi’u diffinio?
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn rhoi incwm ymddeol i chi sy’n seiliedig ar eich cyflog a sawl blwyddyn rydych chi wedi bod yn rhan o’r cynllun pensiwn.
Maent yn darparu incwm rheolaidd am oes, fel arfer mewn taliadau misol. Mae'r taliadau'n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
Sut mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn gweithio?
Mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn gynllun pensiwn gweithle. Mae eich cyflogwr yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod digon o arian i dalu eich incwm pensiwn.
Yn aml mae angen i chi gyfrannu canran o'ch cyflog, ond bydd rhai cynlluniau yn cael eu hariannu'n llawn gan eich cyflogwr.
Mae dau fath o bensiwn buddion wedi’u diffinio:
Cyfartaledd gyrfa – mae'r rhain yn seiliedig ar gyfartaledd eich cyflog o'r adeg y gwnaethoch ymuno â'r cynllun hyd nes i chi adael neu ymddeol.
Cyflog terfynol – mae'r rhain yn seiliedig ar faint rydych chi'n cael eich pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i weithio i'ch cyflogwr neu'n gadael y cynllun.
Sut ydw i'n gwybod pa fath o bensiwn sydd gennyf?
Efallai y bydd gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio os ydych wedi gweithio i gyflogwr mawr neu yn y sector cyhoeddus.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn. I ddarganfod a oes gennych gynllun cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa, gwiriwch eich gwaith papur neu gofynnwch i'ch darparwr cynllun pensiwn.
Sut mae cynlluniau pensiwn cyfartaledd gyrfa yn gweithio
Mae cynlluniau cyfartaledd gyrfa yn cyfrifo eich incwm ymddeol gan ddefnyddio ffracsiwn o'ch 'enillion pensiynadwy' ar gyfer pob blwyddyn rydych chi'n aelod o'r cynllun. Gelwir hyn yn gyfradd cronni.
Enghraifft: Pe bai'ch enillion pensiynadwy yn £30,000 dros flwyddyn a bod gennych gyfradd gronni o 1/60fed, byddech fel arfer yn ennill pensiwn sy'n talu £500 y flwyddyn ar oedran pensiwn arferol eich cynllun (£30,000 wedi'i rannu â 60).
Mae swm eich pensiwn terfynol yn cael ei gyfrifo trwy ychwanegu'r budd-daliadau pensiwn rydych chi wedi'u hennill am bob blwyddyn rydych chi'n aelod o'r cynllun. Yna ychwanegir swm ychwanegol ar gyfer chwyddiant, felly ni ddylai ei werth ostwng dros amser.
Beth sy'n cyfrif fel enillion neu dâl pensiynadwy?
Bydd angen i chi ofyn i'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn beth sy'n cyfrif fel enillion pensiynadwy, gan ei fod yn dibynnu ar y cynllun.
Er enghraifft, nid yw rhai cynlluniau yn cyfrif enillion ychwanegol megis:
goramser
comisiwn
tâl gwyliau
taliadau bonws
'buddion mewn nwyddau' – fel car cwmni neu yswiriant meddygol preifat.
Sut mae cynlluniau pensiwn cyflog terfynol yn gweithio
Mae cynlluniau cyflog terfynol yn cyfrifo eich incwm ymddeol gan ddefnyddio ffracsiwn o'r cyflog olaf a gawsoch gan eich cyflogwr. Gelwir hyn yn gyfradd cronni. Yna mae'r swm yn cael ei luosi â nifer y blynyddoedd roeddech chi'n aelod.
Enghraifft: Pe bai'ch cyflog pensiynadwy terfynol yn £30,000 a bod gennych gyfradd gronni o 1/60fed, byddech fel arfer yn ennill pensiwn blynyddol gwerth £500 am bob blwyddyn roeddech chi'n aelod (£30,000 wedi'i rannu â 60). Pe baech chi'n aelod o'r cynllun am ddeng mlynedd, byddai eich pensiwn yn talu £5,000 y flwyddyn ar oedran pensiwn arferol eich cynllun.
Ar ôl i chi adael y cynllun, mae eich pensiwn fel arfer yn cynyddu gan swm penodol bob blwyddyn – felly nid yw ei werth yn gostwng dros amser oherwydd chwyddiant. Bydd y pensiwn hefyd fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn ar ôl i chi ei dderbyn.
Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfandaliad o arian pan fyddwch yn ymddeol, yn ogystal â'ch incwm pensiwn rheolaidd. Mewn rhai cynlluniau, mae cymryd cyfandaliad yn lleihau'r incwm y byddwch chi'n ei gael yn nes ymlaen.
Gall y cyfrifiadau hyn fod yn gymhleth. Fel arfer, gallwch wirio'ch datganiadau neu ofyn i'ch cyflogwr am fanylion am sut maen nhw'n cyfrifo eich incwm pensiwn.
Cymryd pensiwn buddion wedi'u diffinio
Fel arfer, gallwch gymryd eich pensiwn buddion wedi’u diffinio pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd rhai cynlluniau yn gadael i chi ei gymryd yn gynharach ond fel arfer byddwch yn cael incwm is nag yr addawyd gan y cynllun.
Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich pensiwn cyfan fel cyfandaliad arian parod. Os gwnewch hyn, bydd hyd at 25% ohono yn ddi-dreth, a bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y gweddill.
Gallwch gymryd eich cyfandaliad o 55 oed (57 o 2028) – neu'n gynharach os oes angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael – os:
yw cyfanswm gwerth eich holl gynilion pensiwn, ac eithrio Pensiwn y Wladwriaeth, yn llai na £30,000
mae eich pensiwn buddion wedi’u diffinio yn werth llai na £10,000, waeth faint yw eich cynilion pensiwn eraill.
Beth sy'n digwydd i'm pensiwn buddion wedi’u diffinio pan fyddaf yn marw?
Mae'r rhan fwyaf o bensiynau buddion wedi’u diffinio yn parhau i dalu swm penodol i'ch priod, partner sifil neu ddibynyddion pan fyddwch yn marw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy'n digwydd i'm pensiwn pan fyddaf yn marw?
Wedi colli’ch pensiwn?
Os ydych wedi colli’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio ac na allwch ddod o hyd i'r gwaith papur, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn am ddim eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth gyswllt.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn ar GOV.UK neu weld cymorth cam wrth gam yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.
Trosglwyddo pensiwn buddion wedi'u diffinio
Gallai trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio eich gadael mewn sefyllfa waeth. Ni allwch wrthdroi trosglwyddiad ar ôl i chi ei wneud, felly meddyliwch yn ofalus am eich sefyllfa yn gyntaf.
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a'r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yn credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn elwa mwy o gadw eu pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Os ydych mewn cynllun pensiwn sector cyhoeddus 'heb ei ariannu' fel Cynllun Pensiwn Athrawon neu Gynllun Pensiwn y GIG, dim ond i gynllun buddion wedi’u diffinio arall y gallwch drosglwyddo'ch pensiwn.
Mae'n bwysig cael cyngor ariannol os hoffech drosglwyddo pensiwn buddion wedi’u diffinio. Dysgwch fwy yn ein canllaw Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi’u diffinio.