Darganfyddwch sut orau i baratoi at eich apwyntiad Pension Wise er mwyn i chi gael y budd fwyaf ohono. Dysgwch sut y bydd eich apwyntiad yn gweithio a'r wybodaeth y gallai’r ymgynghorydd ofyn i chi amdani.
Sut mae apwyntiadau Pension Wise yn gweithio
Mae tri math o apwyntiad Pension Wise. Mae pob un yn ymwneud â'r un wybodaeth ac yn darparu’r camau nesaf ar y diwedd. Dyma sut mae pob un yn gweithio.
Apwyntiadau ar-lein
Gallwch gael apwyntiad Pension Wise ar-lein ar unrhyw adeg, gyda chefnogaeth gan ein harbenigwyr pensiwn ar gael trwy sgwrs fyw rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc).
Mae apwyntiadau ar-lein fel arfer yn cymryd tua 30 munud. Gallwch hefyd arbed eich cynnydd a dod yn ôl yn nes ymlaen.
Apwyntiadau ffôn
Os ydych wedi trefnu apwyntiad dros y ffôn, bydd un o'n harbenigwyr pensiynau yn:
Ffonio’r rhif a ddarparwyd gennych, ar yr amser a'r dyddiad a ddewiswyd gennych
Darllen y gair cofiadwy a roddasoch i ni er mwyn eich bod chi'n gwybod mai ni sy'n galw.
Mae apwyntiadau fel arfer yn para hyd at 60 munud, oni bai eich bod wedi gofyn am addasiad i fynediad.
Os nad ydych ar gael ar yr amser rydych wedi’i drefnu neu os ydych chi'n gyrru, ni fyddwn yn gallu cymryd eich apwyntiad. Gallwch naill ai drefnu dyddiad ac amser newydd neu gael apwyntiad Pension Wise ar-lein.
Apwyntiadau wyneb yn wyneb
Os ydych wedi trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb, bydd arbenigwr pensiwn yn cwrdd â chi yn y lleoliad Cyngor ar Bopeth a ddewiswyd gennych ar y dyddiad a'r amser a drefnwyd.
Mae apwyntiadau fel arfer yn para hyd at 60 munud, oni bai eich bod wedi gofyn am addasiad i fynediad.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach na'r amser a drefnwyd, efallai na fyddwn yn gallu cymryd eich apwyntiad. Gallwch naill ai drefnu dyddiad ac amser newydd neu gael apwyntiad Pension Wise ar-lein.
Beth fydd eich apwyntiad yn ei gynnwys
Mae apwyntiad Pension Wise yn eich helpu i ddeall eich opsiynau ar gyfer cymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio. Bydd yn cynnwys:
pryd y gallwch chi gymryd eich arian pensiwn
y gwahanol ffyrdd y gallwch ddewis ei gymryd
sut mae'r opsiynau'n cyd-fynd â'ch cynlluniau ymddeol
sut mae treth ar incwm pensiwn yn gweithio
sut i weld ac osgoi sgamiau pensiwn.
Ar ôl eich apwyntiad, byddwch yn cael rhestr o'r camau nesaf y gallwch eu cymryd. Ni allwn argymell cynhyrchion penodol na rhoi cyngor ar yr hyn sydd orau i chi ei wneud.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
Pa wybodaeth y gellid gofyn i chi amdani
Er mwyn i ni allu deall eich cynlluniau ar gyfer ymddeol, byddwn fel arfer yn gofyn i chi am eich pensiynau a chyllid arall.
Fel arfer, byddwch yn elwa mwy o apwyntiad Pension Wise os y gwnewch chi’r canlynol cyn eich apwyntiad:
- Gofyn i bob un o'ch darparwyr pensiwn:
- faint yw gwerth eich pensiwn ar hyn o bryd
- os oes gan eich pensiwn unrhyw nodweddion arbennig, fel gwerth cronfa gwarantedig neu gyfradd blwydd-dal.
- Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth:
- ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu
- ffonio 0800 731 0175 rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Cael manylion am eich cyllid eraill, fel:
- cynilion a buddsoddiadau
- dyledion ac ad-daliadau.
- Meddyliwch am eich cynlluniau ar gyfer ymddeol, fel:
- pryd fyddech chi'n hoffi rhoi'r gorau i weithio
- pa fath o incwm pensiwn yr hoffech chi.
Gallwch ddod â gwaith papur perthnasol gyda chi os ydych wedi trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb, ond ni fydd amser i ni roi trefn arno i chi.
Sut i newid eich apwyntiad
I newid eich apwyntiad Pension Wise neu unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi inni, ffoniwch 0800 138 3944 (+44 20 3733 3495 os ydych y tu allan i'r DU).
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Gallwch hefyd:
- Drefnu dyddiad ac amser newydd neu gael apwyntiad Pension Wise ar-lein.
- Canslo eich apwyntiad presennol ar-lein neu ateb i'r neges destun cadarnhau – os gwnaethoch chi roi rhif ffôn symudol i ni a gofyn am un.
Sut i ganslo'ch apwyntiad
Gallwch ganslo eich apwyntiad Pension Wise ar-lein neu ffonio 0800 138 3944 (+44 20 3733 3495 os ydych y tu allan i'r DU).
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Os cawsoch neges destun cadarnhau, gallwch hefyd ateb drwy neges destun i'w ganslo.