Mae ein haddewid i gwsmeriaid yn dweud wrthych beth yr ydym yn ymrwymo i'w wneud wrth drefnu apwyntiad Pension Wise.
Addewid i gwsmeriaid
Trefnu eich apwyntiad
Byddwn yn:
- egluro’n glir sut i gysylltu â ni, gan gynnwys trefnu apwyntiad 60-munud am ddim
- eich helpu i ddeall sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad.
Ar ôl i chi drefnu
- anfon cadarnhad o’ch apwyntiad i chi
- dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf, ac erbyn pryd
- dweud wrthych beth i fynd i’r apwyntiad i gael y gorau allan ohono
- anfon nodiadau i’ch atgoffa o’ch apwyntiad.
Yn ystod eich apwyntiad
- rhoi’r wybodaeth gywir i chi
- egluro pethau’n glir ac osgoi jargon
- peidio argymell unrhyw gynhyrchion neu ddweud wrthych beth i’w wneud gyda’ch arian
- dweud wrthych ble i fynd i gael cymorth na allwn ni ei roi i chi
- eich helpu, yn ddiduedd, cwrtais, eich trin yn deg a chyda pharch.
Ar ôl eich apwyntiad
- anfon crynodeb ysgrifenedig o’r arweiniad a roddwyd i chi yn eich apwyntiad
- defnyddio eich adborth i wella sut rydym yn gwneud pethau.
Gwybodaeth bersonol
- diogelu eich gwybodaeth bersonol.
Cwynion
- dweud wrthych beth i’w wneud nesaf os nad ydych yn fodlon ar sut rydych wedi cael eich trin
- gwella ein gwasanaethau’n barhaus i wneud pethau’n well i chi.
Hygyrchedd
- gwneud yn siŵr y gallwch gael apwyntiad wyneb-yn-wyneb os oes gennych anabledd - er enghraifft mynediad i gadair olwyn neu Iaith Arwyddion Prydeinig os ydych chi’n fyddar
- anfon eich crynodeb mewn braille neu brint bras os ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall.
Yn gyfnewid rydym angen i chi:
- fod ar amser ar gyfer eich apwyntiad neu roi gwybod i ni os oes angen iddo newid
- trin ein staff a pharch
- rhannu gwybodaeth perthnasol gyda ni pan fyddwn yn gofyn.