Beth yw Pension Wise?
Mae Pension Wise yn wasanaeth gan y llywodraeth sy'n cynnig arweiniad diduedd am ddim dros y ffôn. Mae'n amlinellu'r opsiynau i bobl sydd â phensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio.
Am yr apwyntiad

Yn ystod apwyntiad Pensiwn Wise, bydd arbenigwr yn trafod eich opsiynau gyda chi ar gyfer cymryd eich arian pensiwn.
Bydd eich apwyntiad yn parhau am 45 i 60 munud.
Bydd eich arbenigwr yn:
- egluro eich opsiynau pensiwn
- egluro sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu
- rhoi’r camau nesaf i chi eu cymryd.
Cyn i chi drefnu
Gallwch gael arweiniad am ddim gan Pension Wise os:
- rydych yn 50 oed neu drosodd, a
- mae gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio wedi’i leoli yn y DU – dim pensiwn cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa.
Mae atebion i’r cwestiynau isod i gyd ar ein gwefan:
Os nad yw apwyntiad ffôn yn addas, gallwch edrych i mewn i’ch opsiynau pensiwn.