Cymorth os ydych wedi trosglwyddo o Bensiwn Dur Prydain

Mae'r dudalen hon yn cynnwys mwy o wybodaeth i gyn-aelodau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) a drosglwyddodd eu buddion o'r cynllun.

Sut gallwn helpu?

Rydym yn gwybod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ofidus i lawer o aelodau'r BSPS. Felly, roeddem am adael i'r aelodau wybod bod HelpwrArian yma i helpu.

Rydym yn helpu â'r holl faterion pensiwn sy'n ymwneud â chynlluniau gweithle, personol a rhanddeiliaid a Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn ateb cwestiynau cyffredinol, yn helpu ag ymholiadau penodol ac yn cynnig arweiniad i bobl sydd â chwynion am eu cynllun pensiwn preifat.

Gwneud cwyn am y cyngor ariannol a gawsoch ar drosglwyddo'ch pensiwn

Canfu’r rheolydd ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), fod llawer o bobl a drosglwyddodd allan o’r BSPS ers 2017 wedi derbyn cyngor ariannol anaddas. Os ydych wedi derbyn cyngor anaddas i drosglwyddo, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.

Os nad ydych yn hapus ag unrhyw agwedd ar y cyngor ariannol a gawsoch ynghylch trosglwyddo, gallwch wneud cwyn ffurfiol.

Gwiriwch a oedd y cyngor yn iawn i chi

Mae'n werth ystyried a oedd eich cyngor yn addas ai peidio yn seiliedig ar eich anghenion.

Sut i gwyno

Os credwch i chi dderbyn cyngor anaddas, y cam cyntaf yw cwyno i'r cwmni a roddodd y cyngor i chi.

Mae rhaid i gwmni ariannol rheoledig ymateb i'ch cwyn yn ysgrifenedig cyn pen wyth wythnos, gan ddweud wrthych a yw'r gŵyn wedi bod yn llwyddiannus neu pam eu bod angen mwy o amser i ymchwilio iddi. Ar y pwynt hwn os ydych yn anhapus â'r ymateb, neu os nad ydych wedi derbyn un, gallwch gyfeirio'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).

Mae defnyddio cynghorydd ariannol rheoledig yn rhoi mynediad i chi i'r FOS. Mae'r gwasanaeth hwn yn annibynnol ac yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. Gall roi iawndal lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Mae ganddynt dîm ymroddedig sy'n ystyried cwynion sy'n ymwneud â throsglwyddo allan o BSPS. 

Sut i gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Dylech gyfeirio unrhyw gwynion at bspsqueries@financial-ombudsman.org.uk fel bod y tîm yn gallu darparu cymorth wedi’i deilwra i chi.

Mae’r FOS wedi sefydlu tudalen BSPS penodol sy'n amlinellu llawer o'r manylion ynghylch y cyngor a roddir am y cynllun.

Mae'n hawd gwneud cwyn ond os byddwch angen help, gallwch ffonio FOS ar 0800 023 4567.

Os nad yw'ch cynghorydd ariannol mewn busnes mwyach, gallwch wneud cais i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol sydd hefyd yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.

Gwneud penderfyniadau ar yr arian yn eich trefniant pensiwn newydd

Os gwnaethoch drosglwyddo o'r BSPS efallai y bydd gennych gronfa o arian mewn pensiwn arall rydych yn gyfrifol am ei reoli. Efallai y bydd yn anodd i chi benderfynu beth i'w wneud â'r arian os nad ydych yn deall sut mae'ch pensiwn newydd yn gweithio, mae haenau o ffioedd neu gyda nifer o opsiynau buddsoddi neu hyd yn oed rhai anaddas.

Os ydych yn anhapus ag agwedd o’ch pensiwn newydd, gallwch:

  • gwirio'r holl ffioedd rydych yn eu talu a chost gadael y cynllun;
  • edrych ar eich opsiynau ar gyfer trosglwyddo - er enghraifft, i gynllun gweithle (Tata Steel neu gyflogwr arall) neu bensiwn personol arall;
  • os penderfynwch aros yn eich pensiwn newydd, edrychwch ar yr opsiynau buddsoddi ac ystyriwch a yw'r buddsoddiadau rydych ynddynt yn iawn i chi neu a allwch newid i opsiynau arall.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.