Beth i’w wneud os nad ydy fy nghyflogwr yn talu fy nghyfraniadau pensiwn neu’n eu talu’n hwyr

Mae'ch cyflogwr fel arfer yn gyfrifol am ddidynnu cyfraniadau o'ch cyflog, a thalu'r rhain, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau maent yn eu gwneud, i'ch pensiwn. Mae rheolau i sicrhau bod eich cyflogwr yn gwneud hyn, ac o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Pryd dylai fynghyflogwr dalu fy nghyfraniadau pensiwn?

Eich cyfraniadau

Mae rhaid i’ch cyflogwr basio’ch cyfraniadau i’ch cynllun neu’ch darparwr erbyn 22ain diwrnod y mis (19eg os talwch â siec) ar ôl iddynt gael eu didynnu o’ch cyflog.

Nid yw hyn bob amser yn wir os ydych yn defnyddio aberthu cyflog i gynilo ar gyfer eich pensiwn. Dyma pryd rydych yn cytuno i gyfnewid rhan o’ch cyflog am gyfraniadau ychwanegol a dalwyd gan eich cyflogwr.

Os ydych wedi'ch ymrestru'n awtomatig mewn pensiwn gweithle, mae rheolau ar gyfer y didyniad cyntaf o gyfraniadau.

Cyfraniadau’ch cyflogwr

Mae cyflogwyr yn talu eu cyfraniadau i'ch cynllun pensiwn ar ddyddiad y cytunwyd arno gyda darparwr y cynllun neu'r ymddiriedolwyr.

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr cynllun buddion wedi’u diffinio llunio a chynnal amserlen o gyfraniadau.

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio sefydlu a chynnal amserlen talu.

Mae'r amserlenni hyn yn cofnodi'r cyfraniadau y mae'r cyflogwr yn eu talu i'r cynllun, a phryd y maent yn eu talu.

Pensiynau personol neu randdeiliaid

A yw'ch cyflogwr yn talu cyfraniadau i'ch pensiwn rhanddeiliaid neu bersonol? Yna mae'n rhaid iddynt dalu'r rhain erbyn dyddiad penodol y cytunwyd arno gyda'r darparwr.

Beth os yw taliad yn llai na'r disgwyl, neu'n hwyr, ac nad yw'r sefyllfa wedi'i datrys cyn pen 90 diwrnod? Yna mae'n rhaid i'ch darparwr pensiwn roi gwybod am hyn i'r Rheoleiddwr Pensiynau. Yna mae'n rhaid iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Beth gallaf ei wneud os nad yw fy nghyflogwr yn talu fy nghyfraniadau pensiwn yn gywir?

Os nad yw’ch cyflogwr yn talu eich cyfraniadau ar amser, neu ddim o gwbl, eich cam cyntaf yw  cysylltu â’ch cyflogwr. Rydych am ddarganfod pam nad yw’ch cyfraniadau wedi’u talu, a phryd gallwch ddisgwyl i hwn cael ei gywiro. Rhowch eich cais yn ysgrifenedig, gall hwn fod yn llythyr neu’n e-bost, a chadwch gopi o’ch holl ohebiaeth.

Bydd hwn yn eich helpu i gael mwy o wybodaeth am bam nad yw’r taliadau wedi’u gwneud a fydd yn eich helpu pan rydych yn penderfynu ar eich camau nesaf. Os nad yw’ch ymholiad yn cael ei ddatrys gan eich cyflogwr mae tri gwasanaeth gall eich helpu.

1.     Cysylltwch â ni

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 011 3797 neu ddefnyddiwch ein gwesgwrs. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i ddeall eich hawliau.

Gallem hefyd rhoi cefnogaeth a chyngor i chi ar a ddylech roi gwybod am eich ymholiad i’r Rheoleiddwr Pensiynau a/neu wneud cwyn i’r Ombwdsmon Pensiynau.

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, pe bai hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Amserau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (llinell gymorth), 9am i 5pm (gwesgwrs). Ar gau ar wyliau banc.

2.     Y Rheoleiddwr Pensiynau

O fewn cynllun gwaith sydd o dan ofal ymddiriedolwyr, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr rhoi gwybod am y diffyg taliad i’r Rheoleiddwr Pensiynau.

Mae’r Rheoleiddwr Pensiynau yn rheoleiddio darparwyr a chyflogwyr cynlluniau pensiwn, mae’n gweithio i sicrhau bod cyflogwyr yn cwrdd â’u cyfrifoldebau cofrestru awtomatig ac yn talu’r cyfraniadau pensiwn cywir i’r cynllun ar ran eu gweithwyr. Gall gosbi cyflogwyr os ydynt yn methu.

Yn y ddau achos, gallwch chi neu’r ymddiriedolwyr roi gwybod am y diffyg taliad pan fydd y cyfranwyr yn 90 diwrnod yn hwyr. Wedyn mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr eich diweddaru.

Gallwch roi gwybod am eich cyflogwr gan ddefnyddio gwasanaeth chwythu chwiban Y Rheoleiddwr Pensiynau.

Efallai wnaiff Y Rheoleiddwr Pensiynau codi dirwy os nad yw’r cyfraniadau cywir yn cael eu talu ar amser.

Mewn achos efadu twyllodrus i dalu cyfraniadau i’r cynllun, mae hwn yn drosedd. Gall hwn arwain at ddirwy neu ddedfryd o garchar.

3.     Yr Ombwdsmon Pensiynau

Mae’r Ombwdsmon Pensiynau yn sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan y gyfraith i ddelio â chwynion pensiynau. Maent yn edrych ar y ffeithiau heb gymryd ochr ac mae’r gwasanaeth am ddim.

Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd mae’ch cyflogwr a/neu’ch cynllun pensiwn gwaith wedi delio â’ch sefyllfa.

Gall yr Ombwdsmon Pensiynau archwilio heb ots am werth y cyfraniadau sydd heb eu talu.

Gall help fod yn anffurfiol trwy ei Wasanaeth Datrysiad Cynnar neu yn fwy ffurfiol trwy ei wasanaeth Dyfarniad.

Mae gan yr Ombwdsmon Pensiynau'r pŵer i gyfeirio cyflogwyr i dalu unrhyw gyfraniadau sy’n weddill i’ch cynllun a gall unrhyw ddatrysiad gynnwys gwneud yn iawn am fuddsoddiadau neu log coll yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Gall yr Ombwdsmon Pensiynau hefyd creu gwobr am unrhyw drallod ac anghyfleustra rydych wedi ei brofi.

Darganfyddwch fwy ar Yr Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd

Beth os bydd eich cyflogwr yn mynd yn fethdalwr?

Beth os bydd eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr – ond na wnaethant dalu cyfraniadau'r cwmni a'r gweithiwr am amser cyn ansolfedd? Yna gall hawlio amdanynt o'r Gronfa Yswiriant Gwladol.

Mae'r taliadau hyn yn cael eu hawlio yn gyffredinol gan eich gweinyddwr pensiwn neu Dderbynnydd Swyddogol mewn achosion o ymddatodiad, trwy'r Gwasanaeth Taliadau Diswyddo.  

Gallant hawlio am gyfraniadau cyflogwr a chyflogai coll a oedd fod cael eu talu yn y 12 mis yn arwain at y dyddiad ansolfedd.

Ar gyfer cyfraniadau sydd y tu allan i'r terfyn amser hwn o 12 mis, byddech chi – ac aelodau eraill y cynllun – yn dod yn gredydwyr i'r cyflogwr ansolfent.

Os ydych yn aelod o gynllun buddion wedi’u diffinio, a'ch cyflogwr yn mynd yn fethdalwr, gall y Gronfa Diogelu Pensiwn dalu cyfran o'ch pensiwn, darganfyddwch fwy yn ein canllaw.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.