Gelwir symud eich pensiwn yn ‘drosglwyddo’. Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio lle rydych wedi cronni pot o arian, fel rheol gallwch drosglwyddo hwn i ddarparwr pensiwn arall. Gallai hyn fod yn bensiwn gweithle cyflogwr newydd neu'n bensiwn personol rydych wedi'i sefydlu'ch hun fel pensiwn personol hunan-fuddsoddedig (SIPP).
Pryd gallaf drosglwyddo fy ngronfa pensiwn?
Fel rheol, gallwch symud pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar unrhyw adeg hyd at flwyddyn cyn i chi ddechrau cymryd arian ohono. Gallwch wirio â'ch darparwr os oes unrhyw gyfyngiadau ar eich achos penodol.
Mewn llawer o achosion, gallwch hefyd drosglwyddo hyd yn oed ar ôl i chi ddechrau cymryd arian o'r pensiwn. Ond mewn rhai achosion efallai na fydd y cynllun yn caniatáu hyn. Mae'n syniad da gwirio hyn cyn i chi ddechrau cymryd arian os ydych yn credu eich bod eisiau trosglwyddo nes ymlaen.
Os ydych yn ystyried symud pensiwn buddion wedi’u diffinio, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
A yw trosglwyddo fy mhensiwn yn syniad da?
Mae'n gwestiwn pwysig ac mae'n bwysig gwirio a ydych yn debygol o fod yn well neu'n waeth eich byd ar ôl trosglwyddo.
Bydd p'un a yw trosglwyddiad yn addas yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch amcanion unigol. Ni all y wybodaeth hon gwmpasu popeth y bydd angen i chi ystyried, ond gall eich helpu i ddechrau.
Cwestiynau i’w gofyn cyn i chi drosglwyddo
A fydd y pensiwn newydd yn ddrytach na’r pensiwn sydd gennyf eisoes?
Cyn symud eich pensiwn o un lle i'r llall dylech bob amser geisio deall beth yw'r costau ar gyfer pob un. Nid yw pob pensiwn yn codi'r un peth felly bydd angen i chi wirio'r hyn y gallai fod rhaid i chi godi amdano yn y pensiwn rydych yn ystyried ei symud. Dyma rai o'r prif daliadau i wirio amdanynt:
- unrhyw ffioedd sefydlu cychwynnol
- taliadau rheoli blynyddol am y buddsoddiadau y gallech eu dewis
- taliadau gwasanaeth/gweinyddiaeth, a elwir weithiau'n ffioedd ‘platfform’
- taliadau am drafodion penodol fel tynnu arian o'ch pensiwn
- ffioedd masnachu a godir am brynu a gwerthu rhai buddsoddiadau.
A yw'n syniad da dod â'm holl gronfeydd pensiwn at ei gilydd?
Nid oes ateb cywir nac anghywir i’r cwestiwn hwn – mae’n dibynnu pam eich bod am wneud hyn.
Mae’n well gan rai pobl gael eu holl gronfeydd pensiwn mewn un lle fel ei fod yn haws cadw golwg arnynt.
Serch hynny, mae’r costau’n bwysig iawn. Meddyliwch yn ofalus am drosglwyddo allan o gynllun sydd â ffioedd isel i gynllun sy’n codi ffioedd uwch dim ond er mwyn cadw pethau’n syml.
Wedi dweud hynny, os ydych yn nesau at eich ymddeoliad ac nid yw eich cynllun presennol yn cynnig yr opsiwn incwm ymddeol o’ch dewis, yna byddai cyfuno eich cronfeydd pensiwn i un cynllun hyblyg yn syniad da.
Os oes gennych gronfeydd pensiwn bach sy'n werth llai na £10,000, efallai y byddai'n well eu cadw lle y maent. Mae hyn oherwydd gallwch ddewis cymryd y pensiwn fel cyfandaliad cronfa bach, sydd ddim yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau pensiwn yn y dyfodol.
Fel arfer gallwch wneud hyn hyd at deirgwaith gyda phensiynau personol ac am nifer diderfyn o bensiynau gweithle/galwedigaethol.
Os byddwch yn cymryd fwy na'ch arian parod di-dreth o'ch pensiwn trwy incwm ymddeol hyblyg neu fel cyfandaliad, dim ond hyd at £10,000 y flwyddyn y gallwch dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau i'ch cronfeydd pensiwn yn lle'r lwfans blynyddol arferol o £60,000. Gelwir hyn yn Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA).
Felly, os ydych am allu tynnu rhywfaint o arian allan ond hefyd barhau i gynilo, efallai y byddai'n well cadw pensiynau llai lle y maent gan nad yw cymryd y gronfa gyfan fel 'lwmp swm cronfa fach' yn cychwyn yr MPAA.
Os ydych wedi cronni llawer o werth mewn pensiynau neu'n meddwl y byddwch, efallai yr hoffech gadw pensiynau llai lle y maent. Mae hyn oherwydd gellir tynnu allan cronfeydd bach (llai na £10,000) o dan reolau 'cyfandaliad fach' heb ddefnyddio'ch Lwfans Cyfandaliad o £268,275.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Lwfans Oes ar gyfer cynilion pensiwn
Beth yw'r Lwfans Blynyddol Prynu Arian?
A fyddaf yn colli unrhyw fuddion pensiwn?
Mae’n bosibl bod gan eich pensiwn cyfredol fuddion gwerthfawr y byddech yn eu colli petasech yn trosglwyddo allan ohono. Er enghraifft, buddion marwolaeth ychwanegol, cyfandaliad di-dreth uwch, neu opsiwn cyfradd blwydd-dal gwarantedig.
Mae opsiwn cyfradd blwydd-dal gwarantedig yn golygu y bydd darparwr y pensiwn yn talu incwm gwarantedig am oes i chi (a elwir hefyd yn flwydd-dal) ar gyfradd benodol. Yn aml mae hyn yn llawer uwch na’r cyfraddau sydd ar gael ar y farchnad flwydd-daliadau cyffredinol pan fyddwch yn ymddeol.
Felly mae’n bwysig meddwl am os ydych yn hapus i golli’r opsiwn hwn ac unrhyw gynlluniau buddion eraill rydych yn hoff o.
Os yw gwerth unrhyw gyfradd blwydd-dal gwarantedig, neu fuddion gwerthfawr penodol eraill, yn fwy na £30,000, efallai bydd rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoleiddiedig cyn y cewch symud y pensiwn i gynllun arall.
Mae'r rheol hon yna i'ch ddiogelu a gwneud yn siwr y byddwch ar eich ennill i roi'r gorau i'r buddion hyn.
Mae pawb yn wahanol. Dyna pam, oni bai eich bod yn siŵr eich bod yn deall goblygiadau trosglwyddo, mae'n syniad da siarad ag un o'n harbenigwyr pensiwn diduedd am ddim. Gallant egluro beth i'w ystyried a rhoi gwybodaeth i chi am y camau y gallai fod angen i chi eu cymryd i drosglwyddo.
A oes unrhyw gostau os byddaf yn symud fy mhensiwn?
Efallai y bydd rhai cynlluniau yn codi ffi, gan gynnwys tâl ymadael, pan fyddwch yn trosglwyddo allan. Dylech hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw ffioedd sefydlu a ffioedd parhaus ar y cynllun pensiwn newydd rydych yn bwriadu trosglwyddo iddo.
Os yw'ch cynllun yn cynnwys tâl ymadael yn gynnar, ni all y tâl fod yn fwy nag 1% os gofynnwch am drosglwyddo i ffwrdd ar ôl 55 oed ond cyn eich oedran ymddeol arferol o dan y cynllun.
Os gwnaethoch ymuno â phensiwn personol newydd (gan gynnwys pensiwn personol gweithle) ar ôl 31 Mawrth 2017 neu bensiwn gweithle yn seiliedig ar ymddiriedolaeth ar ôl 1 Hydref 2017, ni chaniateir i'r cynllun godi tâl arnoch am symud eich pensiwn os ydych dros oed o 55.
Mae'n bwysig gwirio â'ch darparwr cyfredol pa daliadau y gallech eu talu cyn trosglwyddo'ch pensiwn.
Pa ddewisiadau buddsoddi sydd ar gael os symudaf fy mhensiwn?
Mae pensiynau'n cynnig llawer o wahanol opsiynau buddsoddi. Mae rhai yn cynnig nifer fach o opsiynau buddsoddi, tra bod eraill yn cynnig nifer fawr. A bydd rhai yn cynnig opsiynau buddsoddi mwy arbenigol, fel yr opsiwn i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cyfranddaliadau neu eiddo.
Meddyliwch a oes angen mwy o ddewis buddsoddi arnoch neu a ydych yn chwilio am rywfaint o gefnogaeth gyda dewis buddsoddiadau.
Gall cael llawer o ddewis buddsoddi fod yn wych, ond gall hefyd wneud y cynnyrch yn ddrytach ac yn fwy anodd i wneud y dewisiadau hynny.
Os ydych mewn pensiwn gweithle neu bensiwn rhanddeiliaid, bydd rhaid i hyn gynnig un neu nifer o gronfeydd buddsoddiadau y bydd eich arian yn cael eu buddsoddi ynddynt os nad ydych yn gyffyrddus yn gwneud dewis i chi'ch hun.
Os ydych am sefydlu pensiwn newydd, gallwch wirio a ydynt yn cynnig unrhyw opsiynau neu gefnogaeth barod i leihau'ch dewisiadau.
A oes angen cyngor ariannol arnoch?
Peidiwch ag anghofio
Pan fyddwch wedi trosglwyddo'ch pensiwn, ni allwch newid eich meddwl fel rheol, heblaw am o bosib trosglwyddo eto. Felly mae'n bwysig gwneud y penderfyniad iawn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn gallu symud eich pensiwn i gynllun pensiwn arall heb fod angen i chi gael cyngor.
Ond gall rhai o'r penderfyniadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud fod yn gymhleth a byddem yn argymell eich bod yn ystyried cael cyngor rheoledig.
Os oes gennych yr hyn a elwir yn ‘fuddion diogel’, yn enwedig os oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig a bod gwerth y buddion hyn yn fwy na £30,000, bydd rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig cyn y gallwch drosglwyddo.
Mae'r rheol hon i'ch ddiogelu i sicrhau bod rhoi'r gorau i'r buddion hyn er eich budd gorau. Mae hyn oherwydd y byddent yn cael eu colli pe byddech yn symud eich pensiwn.
Bydd ymgynghorydd yn adolygu buddion ac anfanteision trosglwyddo, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch cynlluniau ariannol cyffredinol. Byddant yn gwneud argymhelliad ynghylch yr hyn y maent yn ei ystyried er eich budd gorau.
Os ydynt yn argymell trosglwyddo'ch pensiwn, byddant yn ystyried yr opsiynau i chi drosglwyddo iddynt, gan gynnwys adolygu unrhyw bensiynau gweithle sydd gennych eisoes.
Gallent argymell trosglwyddo i bensiwn sy'n bodoli eisoes os yw hyn yn diwallu'ch anghenion neu'n argymell cynnyrch newydd.
Os cewch gyngor ariannol rheoledig, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn cymryd cyfrifoldeb am y cyngor. Felly os dilynwch yr argymhelliad a wnânt a bod hyn yn anghywir i chi, efallai y gallwch gwyno a chael iawndal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Gofynnwch i'ch hun a oes gennych chi ddigon o wybodaeth a phrofiad o fuddsoddi i wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar faint o incwm sydd gennych ar ôl ymddeol, heb yr angen am gynghorydd.
Sut i symud eich pensiwn
Y cam cyntaf yw darganfod eich gwerth trosglwyddo, sef y swm sydd gennych yn eich gronfa bensiwn.
Gallwch gael hyn trwy ofyn i weinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn.
Yna bydd gweinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn yn darparu:
- dogfen sy'n nodi'ch gwerth trosglwyddiad
- manylion unrhyw fuddion ychwanegol rydych wedi'u cronni o dan y cynllun
- unrhyw daliadau ymadael a allai fod yn berthnasol
- gwybodaeth y bydd ei hangen ar eich cynllun newydd os penderfynwch fwrw ymlaen â'r trosglwyddiad.
Efallai y bydd ffurflenni ychwanegol hefyd wedi'u cynnwys i ddechrau'r broses drosglwyddo.
Byddwch yn ymwybodol bod y gwerth trosglwyddo fel arfer yn newid gan y bydd gwerth y buddsoddiadau a ddelir yn eich pensiwn yn newid yn rheolaidd.
I ddechrau'r broses drosglwyddo, bydd angen i chi wneud cais i'r cynllun pensiwn rydych am drosglwyddo iddo. Mae gan rai darparwyr broses drosglwyddo ar-lein, ond efallai y bydd eraill angen i chi lenwi a dychwelyd ffurflen gais o hyd.
Pan fyddwch wedi cyflwyno'r cais i'r darparwr, byddant fel arfer yn cysylltu â'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr cynllun presennol i drefnu'r trosglwyddiad.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd eich darparwr neu weinyddwr cynllun presennol angen i chi anfon ffurflenni atynt hefyd. Felly gall helpu i wirio â hwy yr hyn y gallai fod ei angen arnynt cyn i chi ddechrau'r trosglwyddiad. Bydd hyn yn helpu i osgoi oedi diangen.
Os penderfynwch drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, bydd rhaid i weinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn symud eich pensiwn i'r cynllun newydd cyn pen chwe mis o ddechrau'r broses drosglwyddo, gan dybio bod yr holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd a bod y ddogfennaeth mewn lle.
Pan fyddwch wedi trosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, fel arfer byddwch wedi ildio popeth o dan yr hen gynllun. Bydd rhai cynlluniau yn caniatáu i chi drosglwyddo dim ond rhan o'ch pensiwn. Bydd angen i chi wirio gyda'ch darparwr i weld a ydynt yn cynnig yr opsiwn hwn.
Os cewch gyngor ariannol, bydd eich ymgynghorydd fel arfer yn gofalu am hyn i gyd i chi. Er y gallai fod rhaid i chi lenwi rhai ffurflenni o hyd.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau pensiwn
Efallai y bydd eich pensiwn yn un o'ch asedau mwyaf gwerthfawr. Ac i lawer mae'n cynnig sicrwydd ariannol trwy gydol eich ymddeoliad ac am weddill eich oes.
Ond, fel unrhyw beth gwerthfawr, gall eich pensiwn ddod yn darged ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, sgamiau neu fuddsoddiadau amhriodol a risg uchel.
Gall sgamiau pensiwn fod ar sawl ffurf ac fel rheol mae'n ymddangos bod y mwyafrif yn gyfle buddsoddi dilys. Ond mae sgamwyr pensiwn yn glyfar ac yn gwybod yr holl driciau i'ch cael i drosglwyddo'ch cynilion.
Maent yn targedu unrhyw un, gan bwyso arnoch i drosglwyddo'ch cynilion pensiwn, yn aml i un buddsoddiad.
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi'n annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i'ch pot cyn 55 oed, mae'n debygol o fod yn sgam pensiwn.
Gallech golli'ch holl arian ac wynebu tâl treth o hyd at 55% o'r swm a gymerwyd neu a drosglwyddwyd, ynghyd â thaliadau pellach gan eich darparwr.
Efallai y bydd y buddsoddiadau dramor, lle nad oes gennych unrhyw ddiogelwch i ddefnyddwyr. Ac efallai y byddant yn addo cyfradd enillion warantedig uchel i chi (7-8% neu'n uwch yn nodweddiadol).
Mae'r rhain yn aml yn fuddsoddiadau ffug mewn cynhyrchion moethus, eiddo, datblygiadau gwestai, datrysiadau amgylcheddol neu storio a pharcio, nad ydynt yn aml yn bodoli neu sydd â risg uchel iawn gydag enillion isel.
Cofiwch, pan fyddwch wedi trosglwyddo'ch pensiwn i sgam, mae'n aml yn rhy hwyr. Efallai y byddwch hefyd yn wynebu tâl treth gan CThEM.
Mae'r llywodraeth bellach wedi gwahardd galw diwahoddiad am bensiynau. Mae'n bwysig anwybyddu unrhyw un sy'n dod atoch yn ddirybudd ynghylch eich hawliau pensiwn neu faterion pensiwn. Mae'n fwyaf tebygol o fod yn sgam.