Pan fyddwch yn gofyn i drosglwyddo eich pensiwn i ddarparwr newydd, bydd yr hen ddarparwr yn gwneud gwiriadau cyn symud eich arian. Os ydynt yn poeni y gallai eich cynllun newydd fod yn sgam, gellir atal neu ohirio eich trosglwyddiad. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gwneir gwiriadau i'ch diogelu rhag twyll trosglwyddo pensiwn
Pan fyddwch yn gofyn i drosglwyddo arian o un darparwr pensiwn i'r llall, rhaid i'ch darparwr presennol benderfynu a ydych mewn perygl o brofi sgam pensiwn.
Mae hyn yn golygu bod angen iddynt wirio gwahanol fanylion fel arfer, gan gynnwys:
- y math o gynllun rydych yn trosglwyddo iddo
- sut mae'r cynllun newydd wedi'i awdurdodi a/neu ei reoleiddio
- manylion eich cynghorydd, os ydych wedi cael cyngor am y trosglwyddiad.
Efallai y byddwch hefyd angen prawf o ble rydych yn gweithio os ydych yn trosglwyddo i gynllun pensiwn cyflogwr, neu brawf o ble rydych yn byw os ydych yn trosglwyddo i gynllun dramor.
Os yw'ch darparwr pensiwn yn pryderu y gallai'r trosglwyddiad fod yn sgam, gallant benderfynu gwneud y canlynol:
- atal eich trosglwyddiad neu
- oedi'ch trosglwyddiad nes eich bod wedi trefnu apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn am ddim.
Byddant yn dweud wrthych am eu penderfyniad a beth sydd angen i chi ei wneud nesaf. Dylech dderbyn hyn o fewn chwe mis o wneud y cais trosglwyddo.
Mae'r gwiriadau hyn yn bwysig - collwyd dros £17 miliwn i sgamiau pensiwn yn 2023, gyda cholled gyfartalog o £47,000 y pen. Mae hyn yn seiliedig ar ddata swyddogol gan Action Fraud, gyda ffigurau'n debygol o fod hyd yn oed yn uwch gan nad yw pob sgam yn cael eu adrodd.
Mae baneri coch yn golygu bod eich trosglwyddiad yn cael ei stopio
Gall eich darparwr pensiwn atal eich trosglwyddiad os yw'n credu bod risg uchel y byddwch yn cael i eich twyllo. Gelwir y pryderon difrifol hyn yn faneri coch a gallent gynnwys:
- y cais trosglwyddo yn cael ei wneud ar ôl galwad ddiwahoddiad
- derbyn cyngor trosglwyddo gan gynghorydd heb ei reoleiddio
- cael addewid o daliad neu gymhelliant arall ar gyfer gwneud y trosglwyddiad
- peidio â chael unrhyw wybodaeth angenrheidiol gennych o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Bydd eich darparwr pensiwn yn dweud wrthych na fydd y trosglwyddiad yn mynd yn ei flaen ac yn egluro sut y gallwch gwyno os nad ydych yn cytuno â'u penderfyniad.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i gwyno am broblem gyda'ch pensiwn
Mae baneri ambr yn golygu bod eich trosglwyddiad yn cael ei ohirio nes eich bod yn cael arweiniad am ddim
Efallai y bydd eich darparwr pensiwn yn penderfynu gohirio'ch trosglwyddiad os oes risg y byddwch yn cael eich twyllo. Gelwir y pryderon hyn yn faneri ambr.
Nid oes rhaid i'ch darparwr pensiwn ddweud wrthych y rheswm, ond gallai baneri ambr gynnwys bod gan y cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo iddo:
- taliadau anarferol o uchel neu aneglur
- buddsoddiadau heb eu rheoleiddio, risg uchel neu dramor
- strwythur aneglur neu anarferol
- cynnydd anarferol o fawr mewn trosglwyddiadau yn dod o’r un cynghorydd neu'n ymwneud â nhw.
Gallwch barhau i benderfynu gwneud y trosglwyddiad, ond bydd angen i chi gael arweiniad am ddim yn gyntaf.
Gelwir hyn yn apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn HelpwrArian. Yn ystod yr apwyntiad, gall un o'n harbenigwyr pensiynau egluro'r risgiau a'r effeithiau posibl o drosglwyddo eich buddion pensiwn.
Mae'r apwyntiad hwn yn annibynnol, yn ddiduedd, am ddim i'w ddefnyddio a gefnogwyd gan y llywodraeth.
Sut i drefnu eich apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn am ddim
Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi drefnu apwyntiad a byddent yn anfon dolen atoch i'w drefnu ar-lein.
Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ddolen honno i drefnu eich apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn. Ni allwch ei drefnu mewn unrhyw ffordd arall.
Yn ystod yr apwyntiad, bydd arbenigwr pensiynau yn gofyn i chi am fanylion y trosglwyddiad a'ch amgylchiadau ariannol. Yna gallant roi i chi:
- arweiniad i'ch helpu i nodi a ydych mewn perygl o gael eich twyllo
- gwybodaeth am wiriadau ychwanegol y gallwch eu gwneud i'ch helpu i deimlo'n hyderus yn eich penderfyniadau
- crynodeb o beryglon sgamiau pensiwn.
Byddwch hefyd yn cael tystiolaeth eich bod wedi mynychu'r apwyntiad. Bydd angen i chi anfon hwn at eich darparwr pensiwn os hoffech ei bod nhw’n gwneud eich trosglwyddiad o hyd.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i adnabod sgamiau pensiwn.
Chwilio am arweiniad pensiynau cyffredinol yn lle hynny?
Os nad oes angen i chi drefnu apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn ar gyfer trosglwyddiad wedi’i oedi, gallwn eich helpu gyda chwestiynau pensiwn eraill trwy we-sgwrs, ffôn ac e-bost.
Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn gyda phensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DU, gallwch hefyd gael apwyntiad Pension Wise am ddim i ddeall y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd eich pensiwn.