Mae’n bwysig eich bod yn adolygu’ch pensiynau’n rheolaidd. Os nad ydynt ar y trywydd iawn i roi’r incwm rydych eisiau yn eich ymddeoliad, bydd eisiau i chi edrych sut i’w cynyddu. Os ydynt yn gyffredinol ar y trywydd iawn, gallwch wneud cynllun mwy clir fel gallant cyflawni’r incwm yr hoffech ei gael ar ôl ymddeol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cyfrifwch beth sydd gennych mewn pensiynau
Os nad ydych wedi adolygu cynilion eich pensiwn, mae gennym ddalen waith ddefnyddiol i’ch helpu i wneud hyn.
Darganfyddwch fwy a cheiswch y ddalen waith, yn ein canllaw Gwirio fy mhensiwn a chynnydd fy nghynilion ymddeol
Ffyrdd o wneud eich cynilion pensiwn rhoi mwy i chi
Mae amrywiaeth o bethau y gallwch eu gwneud i roi hwb i berfformiad eich pensiynau. Dyma rai dewisiadau allweddol i’w hystyried.
Cynyddu eich cynilion
Y ffordd amlycaf o hybu eich darpariaeth pensiwn yw cynilo mwy os gallwch.
Os oes gennych incwm sbâr, ei roi mewn pensiwn yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithlon o’i fuddsoddi.
Bydd unrhyw incwm ychwanegol a gyniliwch mewn pensiwn fel arfer yn elwa o ryddhad treth. Mae hyn naill ai'n golygu eich bod yn arbed ar dreth nawr neu fod rhywfaint o arian ychwanegol yn mynd i’ch pensiwn ac efallai y gallwch hawlio peth yn ôl hefyd.
A oes cynllun gweithle ar gael i chi bod eich cyflogwr yn cyfrannu ato? Os felly, gan ddibynnu ar reolau’r cynllun, os cynyddwch eich cyfraniadau efallai y bydd eich cyflogwyr yn cynyddu eu rhai hwythau hefyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio eich rhyddhad treth i gyd
Ydych chi'n drethdalwr cyfradd uwch sy’n gwneud cyfraniadau i bensiwn gweithle neu bersonol sy’n gweithredu ar sail ‘rhyddhad ar ddechrau’? Os felly, hawlir 20% rhyddhad treth cyfradd sylfaenol o’r llywodraeth ac fe’i hychwanegir i’ch pensiwn.
Bydd angen i chi hawlio unrhyw ryddhad dreth cyfradd uwch ar eich ffurflen dreth hunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan CThEF.
Mae pob cynllun pensiwn personol yn gweithredu ar sail ‘rhyddhad i ddechrau’. Ond ar gyfer rhai gweithleoedd, cewch y rhyddhad treth cyfradd uwch yn awtomatig ac nid oes rhaid gwneud unrhyw beth. Yn yr achos hwn, mae’r cynllun yn gweithredu ei ryddhad treth ar sail ‘tâl net’.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch a nad ydych yn sicr a ydych yn cael rhyddhad treth cyfradd uwch, gwiriwch â’ch darparwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a’ch pensiwn
Gallai’r rhyddhad treth ychwanegol hwn eich galluogi i elwa o gyfraniadau pensiwn mwy fyth.
Adolygwch sut y caiff eich cronfa bensiwn ei buddsoddi
Os oes gennych bensiwn personol cyfraniadau wedi'u diffini0 neu bensiwn gweithle, cewch ddewis sut y caiff eich cronfa bensiwn ei buddsoddi .
Fel rheol, bydd hyn yn golygu dewis o blith amrywiaeth o gronfeydd a gynigir gan ddarparwr eich pensiwn .
Bydd y cronfeydd hyn yn cael eu pwysoli’n wahanol rhwng yr amrywiol fathau o asedau, sy’n cynnig gwahanol lefelau o risg ac elw posibl .
Fel rheol gyffredinol, gallwch fforddio cymryd mwy o risg pan yr ydych yn ifanc a llai wrth i chi fynd yn hŷn.
Po hwyaf y caiff eich arian ei fuddsoddi, yr hawsaf fydd ymdopi â chael perfformiad y buddsoddiad yn mynd i fyny ac i lawr dros amser.
Felly os ydych chi dal 10-15 mlynedd i ffwrdd o fod eisiau dechrau cymryd arian o'ch pensiwn a bod cynilion eich pensiwn yn cael eu buddsoddi’n geidwadol, efallai yr hoffech ystyried symud o leiaf rywfaint o’ch cronfa i asedau â mwy o botensial am dwf, er enghraifft, stociau a chyfranddaliadau.
Ond cofiwch nad oes sicrwydd y cewch fwy o dwf .
Mae trosglwyddo pensiwn personol i bensiwn buddsoddi personol (SIPP) yn rhoi mwy o ddewisiadau buddsoddi i chi.
Ond mae hefyd yn golygu mwy o risgiau os nad ydych yn fuddsoddwr profiadol. A gallech wynebu costau uwch.
Oni bai eich bod yn deall sut mae’r gwahanol fuddsoddiadau pensiwn yn gweithio, efallai byddech am ystyried cael cyngor ariannol rheoleiddiedig cyn gwneud unrhyw newidiadau i fuddsoddiadau’ch pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Darganfyddwch fwy am eich dewisiadau cronfeydd pensiwn yn ein canllawiau:
Dewisiadau buddsoddi pensiwn – trosolwg
Pensiynau buddsoddi personol (SIPPs)
Pam dylwn gael cyngor ar ymddeoliad?
Os oes gennych bensiwn gweithle â buddion wedi’u diffinio, nid ydych yn penderfynu sut y caiff eich cronfa ei buddsoddi. Mae i fyny i'ch cyflogwr cynhyrchu’r enillion o’r buddsoddiad i dalu am yr incwm pensiwn y mae gennych hawl i’w gael.
Adolygwch y costau a ddidynnir o’ch cynilion
Bydd pob darparwr pensiynau yn codi ffi am reoli’ch cronfa a buddsoddi’ch arian.
Mewn cynlluniau gweithleoedd a phersonol â chyfraniadau wedi’u diffinio, yn aml gelwir y ffioedd hyn yn dâl rheoli blynyddol neu ffigwr tâl parhaol a chant eu dynnu’n awtomataidd o’ch cronfa.
Gallai tâl rheoli blynyddol o 1.5% y flwyddyn ddileu chwarter eich cronfa pensiwn ar ôl 35 mlynedd.
Byddai tâl blynyddol o 0.5% yn dileu degfed rhan yn unig o’ch cronfa dros yr un cyfnod.
Nid oes angen i chi boeni am hyn os ydych mewn cynllun â buddion wedi’u diffinio.
Ond os ydych mewn cynllun â chyfraniadau wedi’u diffinio, mae costau’n lleihau gwerth eich cronfa bensiwn. Yn aml mae gan bensiynau gweithle ffioedd llai ond nid yw hwnnw’n wir bob amser.
Gallech fod yn talu gwahanol fathau o gostau :
- Costau gweinyddu neu wasanaethu’r cynllun pensiwn. Mae'r rhain yn fwy tebygol o fod yn berthnasol os ydych wedi dewis pensiwn personol fel SIPP. Os ydych yn talu’r costau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deal sut mae’r ffioedd yn gweithio ac am beth rydych yn talu.
- Costau am bob un o’r cronfeydd buddsoddi o fewn eich cynllun. Y costau mwyaf amlwg yw’r gost gychwynnol a ddidynnir pan ddechreuwch fuddsoddi. Mae hyn rhwng dim a thua 6%, a thâl rheoli blynyddol parhaus - rhwng tua 0.1% a 2% y flwyddyn. Gwiriwch beth rydych yn ei dalu ac ystyried newid i gronfeydd buddsoddi â chostau is os teimlwch nad ydych yn cael gwerth am arian o’r costau uwch.
Ystyriwch gyfuno cronfeydd pensiwn gwahanol
Os oes gennych nifer o gronfeydd pensiwn gwahanol, mae manteision posibl os cyfunwch hwy’n un .
Os cyfunwch hwy:
- gallwch olrhain a rheoli’ch cynilion pensiwn yn haws
- gallech arbed arian os gallwch symud o gynllun costau uwch i gynllun costau is
- gallech gael dewis mwy o fuddsoddiadau .
Fodd bynnag, mae anfanteision posibl i hyn hefyd :
- Yn gyffredinol, mae’n syniad drwg trosglwyddo allan o gynllun â buddion wedi’u diffinio – mae’r sicrwydd o incwm ar ôl ymddeol y maent yn ei gynnig yn eich diogelu rhag risg buddsoddi. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen arnoch gymryd cyngor ariannol cyn gallwch wneud hyn.
- Yn gyffredinol, mae’n syniad drwg trosglwyddo o gynllun eich cyflogwr presennol os yw’n golygu na fyddant yn cyfrannu mwyach hynny yw os ydych yn dal i weithio i'r cyflogwr.
- Os yw unrhyw un o’ch cynlluniau pensiwn presennol yn cynnig sicrwydd cyfraddau blwydd-dal, ystyriwch y goblygiadau’n ofalus cyn trosglwyddo allan. Os ydych yn bwriadu prynu blwydd-dal gyda’ch cronfa bensiwn mae’r sicrwydd hwn yn werthfawr. Efallai bydd nodweddion gwerthfawr arall yn y cynllun, fel cyfradd gwarantedig o dyfiant neu’r opsiwn i gymryd cyfandaliad di-dreth uwch pan fyddwch yn ymddeol.
- Gwiriwch a fydd unrhyw un o’ch darparwyr pensiwn yn codi tâl arnoch am drosglwyddo arian allan o’u cynllun .
Mae’n bwysig cael cyngor ariannol cyn symud eich pensiwn, oni bai eich bod yn hyderus eich bod yn deall y costau, y buddion neu’r risgiau cysylltiedig.