Mae llawer o bobl yn canfod bod ganddynt ddiffyg wrth wirio eu cynilion pensiwn, ac yn sylweddoli nad yw eu Pensiwn y Wladwriaeth yn ddigon i gael yr ymddeoliad y maent ei eisiau. Os yw hyn yn berthnasol i chi, defnyddiwch ein cyfrifiannell i amcangyfrif faint yn ychwanegol sydd angen i chi ei gynilo. Os nad ydych yn gwybod a oes gennych ddiffyg, defnyddiwch ein dolenni i wirio.
Os nad yw'ch pensiwn yn ddigonol, faint sydd ei angen arnoch i lenwi'r bwlch?
Mae cost llenwi diffyg yn eich incwm pensiwn rhagamcanol yn dibynnu i raddau helaeth ar eich oedran.
Os nad ydych yn gwybod a oes gennych ddiffyg pensiwn i’w lenwi, gweler ein canllaw Gwirio cynnydd eich pensiwn a chynilion ymddeol
Po bellaf i ffwrdd o ymddeol ydych, po fwyaf o amser sydd gennych i roi hwb i'ch cynilion pensiwn, a'r mwyaf o amser y mae rhaid i'ch cynilion dyfu.
Cofiwch ar gyfer 2024/25 mae’r Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn yn £221.20 yr wythnos – yn dibynnu ar sawl blwyddyn o Yswiriant Gwladol sydd gennych, efallai y cewch lai.
Dyma pam mae angen i chi feddwl am yr hyn y gallwch ei wneud os nad yw'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn ddigonol. Mae gennym rai pethau y gallwch eu gwneud yn yr adrannau nesaf.
Eich prif opsiynau
Pan fyddwch wedi cyfrifo faint yn ychwanegol y mae angen i chi ei gyfrannu at eich cynilion pensiwn bob mis, mae gennych sawl opsiwn.
Rydym yn awgrymu ystyried y canlynol, yn y drefn hon:
- Os ydych yn gyflogedig, ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr yw'r ffordd orau i helpu i lenwi'ch bwlch incwm ymddeol. Mae rhaid i bob cyflogwr nawr gynnig pensiwn gweithle i weithwyr cymwys a gwneud cyfraniadau iddo.
- Os ydych eisoes yn aelod o gynllun gweithle, efallai mai rhoi hwb i'ch cyfraniadau iddo fyddai'r opsiwn mwyaf cyfleus i chi. Mae llawer o gyflogwyr yn cyfateb i'r cyfraniadau y mae eu gweithwyr yn eu talu, felly os ydych yn talu mwy, maent hefyd yn talu mwy.
- Os ydych yn hunangyflogedig neu os nad ydych yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn gweithle, gallwch sefydlu'ch cynllun pensiwn personol eich hun. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys pensiynau personol arferol (sy'n cael eu cynnig gan y rhan fwyaf o gyflenwyr) cynlluniau rhanddeiliaid (sydd â thaliadau wedi'u capio) a phensiynau personol hunan-fuddsoddedig (a all gynnig dewis buddsoddi ehangach, ond sy'n aml yn dod â thaliadau uwch). Gallwch hefyd defnyddio NEST (Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol) a gafodd ei chreu gan y llywodraeth.
Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai hoffech hefyd gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i weld faint fydd eich hawl.
Gallwch ofyn am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth mewn tair ffordd:
- Ar-lein: ar wefan GOV.UK (bydd angen i chi greu cyfrif i brofi pwy ydych a bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth).
- Drwy ffonio: 0800 731 0453.
- Trwy’r post: drwy gwblhau ffurflen BR19W (y gallwch naill ai ei gwblhau ar-lein a'i argraffu neu ei argraffu ac yna ysgrifennu â llaw). Gallwch gael y ffurflen o wefan GOV.UK . Mae’r cyfeiriad ar flaen y ffurflen.
Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol (VNICs) i gynyddu eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.
Mae'n werth siarad ag arbenigwr VNICs yng Nghanolfan Bensiwn y Dyfodol ffôn: 0800 731 0453 i drafod eich opsiynau a chost gwneud y cyfraniadau hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol a Phensiwn y Wladwriaeth
Olrhain pensiwn
Os ydych wedi newid swyddi sawl gwaith dros y blynyddoedd, efallai hoffech weld a oes gennych unrhyw hen bensiynau rydych wedi colli trywydd ohonynt.
Er mwyn eich helpu i chwilio am bensiwn gweithle coll, ac os ydych yn gwybod enw'r cyflogwr neu'r cynllun pensiwn, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn. Mae ganddynt gyfeiriadur ar-lein y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am fanylion cyswllt.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Efallai y gallwch fynd yn ôl at eich hen gyflogwr i ddod o hyd i fanylion cyswllt y cynllun pensiwn rydych yn edrych i'w olrhain.
Mae Tŷ'r Cwmnïau yn lle da i wirio am fanylion cyswllt eich hen gyflogwr os ydynt wedi symud neu newid enwau ers i chi adael cyflogaeth.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Ble i gael mwy o wybodaeth a chyngor
Os oes angen mwy o help arnoch, yn enwedig os ydych yn buddsoddi arian, gallwch siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig a fydd yn mynd trwy'ch opsiynau a'ch helpu chi i ddewis yr un gorau i chi.
Bydd rhaid i chi dalu am gyngor ariannol, ond bydd rhaid i gynghorwyr fynd trwy eu ffioedd a'u taliadau â chi cyn i chi ymrwymo. Gallwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol rheoledig yn ein Cyfeirlyfr Cynghorydd Ymddeoliad.
Mae'n werth siarad ag o leiaf dri chwmni a gofyn am eu taliadau am y math hwn o gyngor.