Mae’r llywodraeth wedi gosod isafswm cyfraniadau y mae rhaid i chi a/neu’ch cyflogwr eu gwneud yn eich cynllun pensiwn gweithle. Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych faint y bydd rhaid i chi ei gyfrannu. Darganfyddwch sut mae’r isafswm cyfraniad yn cael ei gyfrif o dan y gwahanol opsiynau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw isafsymiau cyfraniadau pensiwn?
Mae’r llywodraeth wedi pennu’r isafswm cyfraniadau o dan ymrestru awtomatig. Y cyfanswm isafswm cyfraniad cyfredol fydd 8% i’r mwyafrif o bobl.
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu isafswm, yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn 3%.
Os nad yw’r cyfraniad gan eich cyflogwr yn ddigonol i gwmpasu’r holl isafswm cyfraniad, bydd angen i chi wneud yn iawn am y gwahaniaeth.
Bydd y llywodraeth hefyd yn eich helpu i gynilo ar gyfer eich pensiwn trwy roi rhyddhad treth i chi ar eich cyfraniadau.
Mae’r cyfanswm isafswm cyfraniad i’ch pensiwn fel arfer yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn ‘enillion cymhwyso’.
Sut cyfrifir isafsymiau cyfraniadau
Mae’r isafswm cyfraniadau’n cynnwys arian o’ch cyflog, arian a gyfrannwyd gan eich cyflogwr a rhyddhad treth gan y llywodraeth. Os yw’r cyfanswm isafswm ar gyfer eich pensiwn yn seiliedig ar enillion cymwys, bydd y cyfraniadau’n cael eu cyfrif fel a ganlyn:
Isafswm cyfraniadau yn seiliedig ar enillion cymwys | |
---|---|
Cyflogwr |
3% |
Gweithiwr |
4% |
Rhyddhad treth o’r llywodraeth |
1% |
Cyfanswm |
8% |
Teclynnau defnyddiol
Beth yw enillion cymwys?
Mae’r rhain yn rhan o’ch enillion cyn i gyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol gael eu didynnu. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 dyma bopeth dros £6,240 a hyd at £50,270.
Mae enillion yn cynnwys:
- eich cyflog
- comisiwn
- bonysau
- goramser.
Beth yw tâl pensiynadwy?
Efallai y bydd eich cyflogwr yn dewis seilio cyfraniadau ar eich ‘tâl pensiynadwy’, yn hytrach nag enillion cymwys.
Mae hyn yn fwyaf tebygol o fod yn wir pan ddarparodd eich cyflogwr gynllun pensiwn gweithle cyn cyflwyno ymrestriad awtomatig.
Diffinnir tâl pensiynadwy gan reolau’r cynllun pensiwn. Yn nodweddiadol, cyflog sylfaenol yw tâl pensiynadwy, heb gynnwys elfennau o’ch enillion fel comisiwn, taliadau bonws a goramser.
A yw’ch cyflogwr wedi penderfynu defnyddio tâl pensiynadwy yn hytrach nag enillion cymwys? Yna mae rhaid iddynt fodloni un o dair set o ofynion amgen ar gyfer eu cynllun pensiwn er mwyn bod yn gymwys i’w defnyddio dan ymrestriad awtomatig ac i gyfrifo’r cyfanswm isafswm cyfraniadau y mae angen eu gwneud.
Bydd eich cyflogwr yn cadarnhau lefel y cyfraniadau y bydd yn eu gwneud a’r lefel sydd ei hangen arnoch cyn i chi ymrestru’n awtomatig.
Rhestrir y tair set isod.
Set Un
Cyfraniadau wedi’u cyfrifo ar eich enillion sylfaenol. Nid ydynt yn cynnwys bonws, goramser, comisiwn na lwfansau staff penodol (fel tâl shifft neu lwfans adleoli) yn y cyfrifiad.
Mae’ch cyflogwr yn cyfrannu: | Cost o’r cyfraniadau i chi: | Rhyddhad treth o’r Llywodraeth: | Cyfanswm cyfraniadau |
---|---|---|---|
4.0% |
4.0% o’ch enillion sylfaenol |
1.0% o’ch enillion sylfaenol |
9.0% o’ch enillion sylfaenol |
Set Dau
Cyfrifir cyfraniadau ar enillion sylfaenol lle mae enillion sylfaenol yn cyfrif am o leiaf 85% o gyfanswm enillion ar gyfartaledd am holl weithwyr yn y cynllun. Nid ydynt yn cynnwys bonws, goramser, comisiwn na lwfansau staff penodol (megis tâl shifft neu lwfans adleoli) yn y cyfrifiad.
Mae’ch cyflogwr yn cyfrannu: | Cost o’r cyfraniadau i chi: | Rhyddhad treth o’r Llywodraeth: | Cyfanswm cyfraniadau |
---|---|---|---|
3.0% |
4.0% o’ch enillion sylfaenol |
1.0% o’ch enillion sylfaenol |
8.0% o’ch enillion sylfaenol |
Set Tri
Mae cyfraniadau yn seiliedig ar yr holl enillion cyn treth. Byddai hyn yn cynnwys pethau fel bonws, goramser, comisiwn.
Mae’ch cyflogwr yn cyfrannu: | Cost o’r cyfraniadau i chi: | Rhyddhad treth o’r Llywodraeth: | Cyfanswm cyfraniadau |
---|---|---|---|
3.0% |
3.2% o’ch holl enillion |
0.8% o’ch holl enillion |
7.0% o’ch holl enillion |
Enghraifft
Os oes gennych enillion o gyflogaeth o £24,000 y flwyddyn, cyfrifir eich enillion cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol fel £24,000 - £6,240 = £17,760 y flwyddyn.
Os yw’ch cyflogwr yn gwneud yr isafswm cyfraniadau’n unig (fel uchod), y symiau y mae angen eu cyfrannu yn y flwyddyn dreth gyfredol yw:
Mae’ch cyflogwr yn cyfrannu: | Cost o’r cyfraniadau i chi: | Rhyddhad treth o’r Llywodraeth: | Cyfanswm cyfraniadau |
---|---|---|---|
3% |
4% |
1% |
8% |
£532.80 y flwyddyn |
£710.40 y flwyddyn |
£177.60 y flwyddyn |
£1,420.80 y flwyddyn |
£44.40 y mis |
£59.20 y mis |
£14.80 y mis |
£118.40 y mis |
Bydd y ffordd rydych yn derbyn rhyddhad treth yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn rydych ynddo a sut mae’ch cynllun yn dewis ei reoli.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, efallai y bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad treth ychwanegol. Dylai eich cynllun pensiwn ddweud wrthych am hyn.
Find out more in our guide Rhyddhad treth a’ch pensiwn
Os yw’ch cyflogwr yn cyfrannu mwy nag isafswm cyfraniad y cyflogwr, gallent ganiatáu i chi wneud cyfraniad is, cyn belled â bod cyfanswm isafswm y cyfraniadau’n cael ei dalu.
Mae’r rhyddhad treth a roddir gan y llywodraeth yn seiliedig ar swm eich cyfraniad. Felly os yw swm eich cyfraniad yn lleihau, mae swm y rhyddhad treth rydych yn elwa ohono hefyd yn lleihau.
Gallwch chi a’ch cyflogwr benderfynu cyfrannu mwy na’r isafswm. Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ar eich cyflogwr i wneud cyfraniadau ar enillion uwchlaw’r cap enillion cymwys (£50,270 y flwyddyn ym mlwyddyn dreth 2024/25), gallent ddewis gwneud hynny.