Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig mewn pensiwn gweithle gan eich cyflogwr. Mae gennych yr hawl i ymuno hyd at 74 oed (gan ddibynnu ar eich enillion) – ond o 75 oed ymlaen mae buddion treth cynilion pensiwn yn dod i ben.
Sut i ddarganfod eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK
Os ydych rhwng oedran Pensiwn y Wladwriaeth a 74 oed
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr.
Fodd bynnag, cyhyd â’ch bod yn ennill £6,240 neu fwy y flwyddyn (blwyddyn dreth 2024/25), mae gennych yr hawl i ymuno â’r cynllun.
Os ydych yn ymuno, byddwch yn gymwys ar gyfer y lefel isaf o gyfraniadau cyflogwr.
Os ydych yn ennill llai na £6,240 (blwyddyn dreth 2024/25) ni chewch eich ymrestru’n awtomatig. Ond mae rhaid i’ch cyflogwr roi mynediad i bensiwn i chi gynilo iddo os gofynnwch iddynt. Mae rhaid iddynt hefyd wneud trefniadau i chi ymuno. Ond nid oes angen iddynt gyfrannu iddo.
Os ydych yn 75 neu hŷn
Nid yw ymrestru awtomatig yn berthnasol i weithwyr 75 oed neu hŷn. Mae’r buddion treth o gynilo mewn cynllun pensiwn yn dod i ben yn 75 oed.