Pensiynau awto-ymrestru: cyflwyniad

Beth yw ymrestru awtomatig?

Ymrestru'n awtomatig yw pan fydd gweithiwr sy'n cwrdd â gofynion penodol yn cael ei wneud yn aelod o gynllun pensiwn gweithle heb orfod gofyn am fod yn rhan ohono.

Yn y gorffennol, gweithwyr oedd yn penderfynu a oeddent am ymuno â chynllun pensiwn eu cyflogwr.

Ond ers 2012, mae cyflogwyr wedi gorfod cofrestru eu gweithwyr cymwys yn awtomatig mewn cynllun pensiwn gweithle. 

O ganlyniad, mae llawer mwy o bobl yn gallu cronni arbedion y gallant eu defnyddio i roi incwm iddynt o 55 oed ymlaen. Bydd hyn yn newid i 57 oed yn gynnar yn 2028.

Pa bryd ddechreuodd ymrestru awtomatig?

Cafodd ymrestru awtomatig ei gyflwyno mewn camau ers 2012.

Y cyflogwyr mwyaf ddechreuodd gyntaf, â chyflogwyr canolig yn dilyn ac wedyn cyflogwyr bach. Dylai pob cyflogwr, yn cynnwys cyflogwyr newydd, nawr fod yn rhan o ymrestru awtomatig.

Os nad ydych wedi’ch ymrestru mewn cynllun, neu wedi cael cynnig un, siaradwch â’ch cyflogwr i gael gwybod pam.

Pwy fydd yn cael eu cofrestru’n awtomatig?

P'un a ydych yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr eich cofrestru mewn cynllun pensiwn gweithle os ydych yn bodloni'r rheolau cofrestru awtomatig hyn:

  • rydych yn gweithio yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys morwyr sy'n byw yn y DU)
  • nad ydych yn rhan o gynllun pensiwn gweithle addas eisoes
  • rydych yn 22 mlwydd oed o leiaf, ond yn iau nac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24.

Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau cofrestru awtomatig hyn, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys os:

  • ydych ar gontract tymor byr
  • yw asiantaeth yn talu’ch cyflog, neu
  • ydych i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu fel gofalwr.

Os ydych yn ennill llai na £10,000 ond mwy na £6,240 (yn ystod blwyddyn dreth 2023/24) nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich ymrestru’n awtomatig fewn i gynllun.

Fodd bynnag, gallwch ofyn i ymuno serch hynny – ni all eich cyflogwr wrthod a bydd rhaid iddo wneud cyfraniadau ar eich rhan.

Faint bydd rhaid i mi ei gyfrannu?

Mae isafswm y bydd rhaid i chi, eich cyflogwr a’r llywodraeth ei gyfrannu (ar ffurf rhyddhad treth.)

Mae'r isafswm hyn yn gyffredinol 5% gennych chi (sy'n cynnwys rhyddhad treth) a 3% gan eich cyflogwr.

Mae’r isafswm cyfraniad yn berthnasol i unrhyw beth fyddwch yn ei ennill dros £6,240 hyd at derfyn o £50,270 (yn ystod blwyddyn dreth 2023/24). Gelwir y gyfran hon o’ch enillion yn “enillion cymwys”.

Felly pe byddech yn ennill £18,000 y flwyddyn, byddai isafswm eich cyfraniad yn ganran o £11,760 (sef y gwahaniaeth rhwng £6,240 a £18,000).

Mae rhai cyflogwyr yn talu’r cyfraniadau pensiwn i’ch enillion i gyd, nid dim ond i enillion cymwys.

Mae hyn yn dibynnu ar sut maent wedi sefydlu’r cynllun. Os nad ydych yn siŵr os ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ar enillion cymwys neu ar enillion llawn, siaradwch â’ch cyflogwr.

Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu faint o’ch enillion y bydd angen i chi ei gyfrannu.

Gallent ei fynegi naill ai fel swm o arian neu fel canran.

A fyddaf yn cael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau?

Fel rheol, byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Rhyddhad treth a’ch pensiwn.

A oes gennyf unrhyw ddewis ynghylch cael fy ymrestru?

Gallwch ddewis optio allan o gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr ar ôl i chi gael eich ymrestru.

Ond os gwnewch hynny, byddwch yn colli allan ar gyfraniad eich cyflogwr i’ch pensiwn, yn ogystal â’r cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.

Os penderfynwch optio allan, gofynnwch i’r bobl sy’n rhedeg cynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr am ffurflen optio allan.

Mae rhaid i chi wedyn ddychwelyd eich ffurflen wedi’i chwblhau i’ch cyflogwr, nid i’r bobl sy’n rhedeg y cynllun.

Os byddwch yn dewis optio allan o fewn mis o ymrestru, bydd unrhyw daliadau a wnaethoch i’ch cronfa bensiwn yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu had-dalu i chi.

Ar ôl y mis cyntaf, gallwch ddal i ddewis optio allan o’r cynllun ar unrhyw adeg. Ond bydd unrhyw daliadau a wnaed eisoes yn aros yn eich cronfa bensiwn ar gyfer eich ymddeoliad yn hytrach na chael ei ad-dalu.

Gallwch ail-ymuno’n ddiweddarach â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Yn gyfreithiol, bydd yn ofynnol i’ch cyflogwr eich ail-ymrestru ar y cynllun bob rhyw dair blynedd. Mae hyn cyn belled â’ch bod yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwyso.

A ddylwn aros i mewn neu optio allan?

I’r rhan fwyaf o bobl, mae aros ar gynllun pensiwn gweithle yn syniad da, yn enwedig gan fod rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu ato.

Mae cyfraniad eich cyflogwr i’ch pensiwn yn rhan o’ch pecyn cyflogaeth cyffredinol. Felly mae optio allan yn cyfateb i wrthod cyflog.

Mae hyn yn gwneud pensiynau gweithle yn ffordd dda o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad.

Fodd bynnag, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl na fyddai’n gwneud synnwyr aros, er enghraifft, os ydych yn delio â dyled sydd allan o reolaeth.

Beth sy'n digwydd pan fydd fy enillion neu fy oedran yn newid?

Dylai eich cyflogwr fod wedi eich asesu ar y dyddiad y cychwynnodd eu dyletswyddau ymrestru awtomatig (eu 'dyddiad llwyfannu'), neu pan wnaethoch ymuno â'r cwmni.

Os nad ydych wedi ymrestru'n awtomatig, cewch eich ailasesu ar bob cyfnod tâl pellach.

Felly mae'n bosibl efallai na fyddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig i ddechrau. Ond gallai cynnydd mewn enillion yn y dyfodol olygu eich bod wedi ymrestru'n awtomatig.

Os oeddech o dan 22 oed pan gyrhaeddodd eich cyflogwr eu dyddiad llwyfannu, byddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig pan gyrhaeddwch yr oedran hwn os ydych yn ennill dros £10,000 y flwyddyn.

Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5% - a allaf eu lleihau?

Mae p'un a yw'r opsiwn hwn ar gael yn dibynnu ar eich trefniant unigol.

Er mwyn manteisio ar yr hyblygrwydd hwn, mae angen i'ch cynllun nodi yn ei reolau y gallwch dalu cyfraniadau ar gyfradd is. Mae rhaid iddo hefyd gadarnhau beth fydd cyfradd cyfraniadau'r cyflogwr o dan yr amgylchiadau hynny.

Mewn sefyllfaoedd lle gallwch aros ar gyfradd gyfrannu is – neu leihau eich cyfraniadau ar ôl cynnydd (ac mae cyfanswm y cyfraniadau yn is nag 8%) – ni fyddwch bellach mewn cynllun cymwys.

Bydd hyn yn sbarduno'r darpariaethau ailymrestru sy'n ei gwneud yn ofynnol i'ch cyflogwr ailymrestru deiliaid swyddi cymwys yn awtomatig oddeutu bob tair blynedd os nad ydynt yn aelodau gweithredol o gynllun cymwys.

Beth os nad yw fy nghyflogwr yn cydymffurfio â'r rheolau

Mae rhaid i'ch cyflogwr gyflawni dyletswyddau cyfreithiol ymrestru'n awtomatig. Os na fyddant yn cydymffurfio, gallant wynebu camau gorfodi a dirwyon.

  • Os yw'ch cyflogwr yn hwyr yn eu dyletswyddau ymrestru awtomatig, mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn disgwyl iddynt dalu unrhyw gyfraniadau a gollwyd. Mae hyn er mwyn eich rhoi yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe byddent wedi cydymffurfio mewn pryd. Byddai hyn yn cynnwys ôl-ddyddio cyfraniadau i'r diwrnod y gwnaethoch fodloni'r meini prawf gyntaf i fynd i mewn i gynllun.
  • Wrth ôl-ddyddio cyfraniadau, mae rhaid i'ch cyflogwr dalu'r holl gyfraniadau cyflogwr heb ei dalu a rhaid i chi dalu'ch un chi. Mae hyn oni bai bod eich cyflogwr yn dewis eu talu ar eich rhan.

Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gyfrifol am bensiynau gweithle yn y DU. Gallant ymchwilio i bryderon os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y rheolau, neu rydych yn methu cyfraniadau i'ch cynllun pensiwn

Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â'ch cyflogwr yn gyntaf, os ydych yn teimlo y gallwch. Ceisiwch ddatrys y mater â hwy.

Os ydych yn dal i bryderu ar ôl siarad â hwy, mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau wasanaeth cyhuddo.

Os ydych chi'n dal yn bryderus, mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau wasanaeth chwythu'r chwiban. Ewch i wefan y rheoleiddiwrYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch nhw ar 0345 600 7060Yn agor mewn ffenestr newydd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.