Sut i adnabod twyll pensiwn

Mae achosion o dwyll pensiwn yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rhyngrwyd a datblygiadau mewn cyfathrebu digidol yn golygu bod y mathau hyn o sgamiau yn dod yn fwy cyffredin ac anodd i'w hadnabod. Darganfyddwch sut i adnabod, osgoi ac adrodd am sgamiau pensiwn.

Beth yw twyll pensiwn?

Mae amryw o wahanol fathau o dwyll pensiwn ond gall pob un arwain atoch yn colli cynilion oes wedi’u dwyn mewn amrantiad.

Ers Ebrill 2015 mae gennych fwy o ddewis nag o’r blaen ynglŷn â sut i gael yr arian sydd yn eich cronfa bensiwn.

Mae twyllwyr yn gwybod hynny a byddant yn ceisio’ch denu gydag addewidion o arian parod ymlaen llaw a bargeinion ‘unwaith ac am byth’ gyda sicrwydd o elw mawr.

Cofiwch y gall sgamiau pensiwn fod ar sawl ffurf, ac fel rheol ymddengys eu bod yn gyfle buddsoddi cyfreithlon. Ond mae sgamwyr pensiwn yn glyfar ac yn gwybod yr holl driciau i'ch cael i drosglwyddo'ch cynilion.

Efallai y byddant yn ceisio’ch perswadio i droi’ch cronfa bensiwn yn arian parod – un ai’r cwbl neu ran ohoni – a rhoi’r arian hwnnw iddynt i’w fuddsoddi.

Byddwch yn wyliadwrus yn enwedig:

  • os bydd rhywun yn cysylltu â chi ar hap, neu
  •  o hysbysebion yn cynnig adolygiadau pensiwn am ddim neu gyfarfod ymgynghori heb rwymedigaeth.

Sut i adnabod twyll pensiwn

Mae rhai arwyddion amlwg a allai awgrymu twyll :

  • Cynigion heb i chi ofyn amdanynt dros y ffôn, neges destun, e-bost neu'n bersonol. Ers mis Ionawr 2019, bu gwaharddiad ar alw diwahoddiad am bensiynau. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi ynglŷn â'ch pensiwn, oni bai eich bod wedi gofyn iddynt gysylltu â chi.
  • Pan nad yw’r cwmni’n caniatáu i chi ei ffonio’n ôl.
  • Pan gewch eich gorfodi i wneud penderfyniad cyflym, eich rhoi dan bwysau i wneud hynny, neu'n cael eich annog i drosglwyddo'ch pensiwn yn gyflym ac anfon dogfennau trwy negesydd neu gael cynrychiolydd personol yn eich rhuthro. Peidiwch byth â chael eich rhuthro i benderfyniad.
  • Lle mai dim ond rhifau ffôn symudol neu gyfeiriad blwch PO yw'r manylion cyswllt sy’n cael eu rhoi i chi, neu sydd ar eu gwefan .
  • Pan fyddant yn honni y gallant eich helpu chi neu berthynas i ddatgloi pensiwn cyn 55 oed, a elwir weithiau yn ‘rhyddhad pensiwn’ neu ‘fenthyciadau pensiwn’. Dim ond mewn achosion prin iawn, fel iechyd gwael iawn, y mae hyn yn bosibl. Darllenwch fwy yn ein canllaw Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
  • Pan fyddant yn honni eu bod yn gwybod am fylchau treth neu'n addo arbedion treth ychwanegol.
  • Pan fyddant yn cynnig cyfraddau enillion uchel ar eich buddsoddiad, ond yn honni ei fod yn risg isel. Gall buddsoddiadau gynyddu yn ogystal a gostwng, felly os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir mae'n debyg ei fod.
  • Cynigion neu grybwylliadau am ‘fuddsoddiadau unwaith ac am byth’, ‘cynigion â therfyn amser’, ‘cymhellion arian parod ymlaen llaw’, ‘adolygiadau pensiwn am ddim’, ‘bylchau cyfreithiol’ neu ‘fentrau llywodraeth’.
  • Pan fyddant yn honni eu bod yn dod o sefydliadau cyfreithlon – ni fydd sefydliadau cyfreithlon byth yn cysylltu â chi heb eich caniatâd yn gyntaf.
  • Efallai na fydd fawr o enwau cyswllt, cyfeiriadau neu rifau ffôn, os o gwbl, ond gallai fod llawer o bobl neu gwmnïau hefyd yn gysylltiedig. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf tebygol nad yw'n gyfreithlon.

Gall cymryd arian o’ch pensiwn yn gynnar arwain at daliadau treth sy’n fwy na hanner gwerth yr arian a dynnwch allan.

Mae hyn yn ychwanegol at daliadau o 20% i 30% fel arfer am ymuno ag un o’r trefniadau hynny. Rhoddir gweddill eich cynilion pensiwn mewn buddsoddiadau risg uchel hefyd.

Gallai buddsoddi eich pensiwn cyfan mewn un buddsoddiad sengl fod yn risg uchel iawn, wrth i fuddsoddiadau ostwng yn ogystal â chynyddu.

Mewn gwirionedd, yn y senario gwaethaf, gallech golli'ch arian i gyd.

Os nad ydych yn gyffyrddus â lefel y risg sy'n cael ei hawgrymu, mae'n bwysig meddwl yn ofalus a yw'n iawn i chi.

Honni i fod o sefydliad a gefnogir gan y llywodraeth

Gall rhai sgamwyr awgrymu eu bod yn rhan o wasanaeth Pension Wise y llywodraeth drwy roi’r enw ‘wise’, ‘guidance’ neu ‘pension’ yn eu henw.

Mae Pension Wise yn cynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd diduedd am ddim ar eich dewisiadau pensiwn. Ni fydd Pension Wise fyth yn cysylltu â chi ar hap i gynnig adolygiad o’ch pensiwn a mae ond yn ymddangos ar ein tudalen Pension Wise.

Os cewch alwad honedig gennym ni, y llywodraeth, neu sefydliad arall a gefnogir gan y llywodraeth, rhowch y ffôn i lawr.

Unwaith y byddwch wedi trosglwyddo’ch pensiwn, neu roi cynilion eich pensiwn i dwyllwr, mae’n rhy hwyr. Mae llawer o ddioddefwyr wedi colli’r cyfan o’u cynilion pensiwn.

Sut i ddiogelu eich hun rhag twyllau buddsoddi

I osgoi cael eich dal gan dwyll pensiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau hyn:

  1. Gwrthodwch unrhyw alwadau, e-byst, negeseuon testun neu ymwelwyr digymell wrth eich drws. Nid yw cwmnïau cyfreithlon yn galw'n oer nac yn cysylltu â chi yn ddirybudd.
  2. Cyn trosglwyddo unrhyw bensiwn, gwnewch yn siŵr bod yr unigolyn neu'r cwmni rydych yn delio â hwy yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a'i fod wedi'i awdurdodi i ddarparu cyngor pensiwn. Gwiriwch gofrestr y FCA o gwmnïau rheoledig, neu restr rhybuddio’r FCA
  3. Gwiriwch statws HMRC y cwmni. Gofynnwch i'r cynllun rydych yn trosglwyddo ohono i wirio statws cofrestru HMRC y cynllun newydd, i sicrhau ei fod yn real ac wedi'i awdurdodi. Fodd bynnag, efallai y cewch eich annog i fuddsoddi mewn buddsoddiadau risg uchel heb eu rheoleiddio o fewn cynllun awdurdodedig, felly mae angen i chi fod yn ofalus iawn.
  4. A yw enw da'r cynghorydd neu'r cwmni yn dda? A fu cwynion am yr ymgynghorydd, y cwmni neu'r buddsoddiad? Chwiliwch yn drylwyr ar y we. Gwiriwch hefyd ar fforymau a chyfryngau cymdeithasol am grybwylliadau a phrofiadau personol.
  5. Ble maent wedi'u lleoli a pha mor hawdd yw cysylltu â nhw? A yw eu cyfeiriad yn Flwch Post neu'n swyddfa â gwasanaeth? A oes modd cysylltu â hwy yn eu swyddfa gofrestredig? A yw'n llinell dir bwrpasol neu dim ond rhif ffôn symudol? Os yw'n ymddangos bod unrhyw beth wedi'i guddio, byddwch yn ofalus iawn.
  6. Gwrandewch ar ddiwydrwydd dyladwy darparwr pensiwn. Efallai y bydd sgamwyr yn rhybuddio y bydd eich darparwr pensiwn cyfredol neu gyn-gyflogwr yn ceisio eich atal rhag trosglwyddo allan, gan awgrymu eu bod eisiau cadw'ch arian yn unig. Nid yw hyn yn wir, bydd rhaid i'ch darparwr wneud rhai gwiriadau diwydrwydd dyladwy trylwyr ar y cynllun rydych yn bwriadu trosglwyddo iddo. Os ydynt yn amau ​​sgam, mae rhaid iddynt geisio amddiffyn eich cronfeydd.
  7. Gwiriwch unrhyw gynnig yn erbyn y wybodaeth ar wefan Scam Smart y FCA
  8. Os ydych yn meddwl am gyfle, mynnwch gyngor ariannol annibynnol gan gwmni a reoleiddir gan y FCA. Gwiriwch gofrestr y FCA o gwmnïau rheoledig.
  9. Chwiliwch o gwmpas a chael barn ychydig o gynghorwyr ariannol. Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr ariannol rheoledig yn ein Cyfeirlyfr Cynghorwyr Ymddeoliad

Beth i’w wneud os ydych yn credu eich bod yn cael eich targedu

1. Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn ar unwaith. Efallai y byddant yn medru atal trosglwyddiad sydd heb ei gwblhau.

2. Adroddwch hynny ar wefan ScamSmart y FCA ac i Action Fraud ar 0300 123 2040. Neu adroddwch hynny ar wefan Action Fraud Bydd Action Fraud yn casglu’r wybodaeth ac yn rhoi rhif cyfeirnod heddlu i chi. Gallwch weld y statws a diweddaru manylion eich achos trwy eu system adrodd troseddau ar-lein. Yn yr Alban, rhowch wybod am sgam i Heddlu'r Alban ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 164 9060.

3. Gallwch adrodd cynghorydd ariannol rheoledig neu gynghorydd anawdurdodedig i’r FCA trwy gysylltu â’u Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0800 111 6768 neu ei adrodd ar-lein ar wefan y FCA

Beth i'w wneud os cawsoch eich twyllo a chafodd arian ei drosglwyddo beth amser yn ôl

  1. Adroddwch hynny i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 neu ar wefan Action Fraud Byddant yn casglu’r wybodaeth a rhoi rhif cyfeirnod heddlu i chi. Gallwch weld y statws a diweddaru manylion eich achos trwy ei system adrodd troseddau ar-lein.
  2. Os cawsoch eich cynghori gan gynghorydd neu gwmni a reoleiddir, gallwch wneud cwyn ffurfiol gan ddilyn y broses a esbonnir yn ein canllaw Datrys problem ariannol neu wneud cwyn.
  3. Ffoniwch ni ar 0800 015 4402 i siarad ag arbenigwr pensiynau am sut y gallech chi:

- ailadeiladu eich cronfeydd pensiwn 

- adolygu eich Pensiwn y Wladwriaeth

- cael rhagolwg i weld os gellir ei wella

- olrhain unrhyw hen bensiynau eich bod efallai wedi colli cyswllt â nhw.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.