Mae sgamiau yn dod yn fwy a fwy soffistigedig, yn enwedig pan ddaw hi at eich targedu chi ar-lein a thrwy ddyfeisiau symudol.
Beth yw sgam?
Gall sgamiau ddod ar sawl ffurf, ond mae pob un wedi’i gynllunio i gael gafael ar eich arian.
Mae nhw’n gwneud hyn trwy eich cael chi i ddatgelu’ch manylion personol, dwyn eich gwybodaeth, neu hyd yn oed eich twyllo i drosglwyddo’r arian parod yn barod.
Mae’n bwysig gwybod sut i adnabod sgam fel y gallwch ddiogelu eich hun rhag twyllwyr.
Byddwn hefyd yn dangos i chi beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael eich targedu neu wedi dioddef.
Mathau o sgamiau
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda’ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.
Gall y tactegau y mae sgamwyr a thwyllwyr yn eu defnyddio amrywio o rywun yn dod at eich drws i alwad ffôn annisgwyl.
Mae’r rhyngrwyd a datblygiadau mewn cyfathrebu digidol wedi agor ffyrdd eraill i sgamwyr eich targedu chi a dwyn gwybodaeth.
Mae’n ddigon posibl eich bod wedi dod ar draws y math mwyaf cyffredin o sgamiau.
- E-byst spam yn dweud wrthych eich bod ar fin derbyn rhywfaint o arian neu’n esgus mai’r CThEF neu’ch banc ydyn nhw
- Y neges testun yn honni bod angen taliad er mwyn anfon pecyn
- Y twyll ‘mam a dad’ ar WhatsApp, pan fo sgamwyr yn defnyddio WhatsApp i esgus fod yn aelod o’r teulu er mwyn dylanwadu ar ddioddefwyr i drosglwyddo arian.
Er y gall rai sgamiau e-bost fod yn weddol hawdd eu hadnabod a’u hosgoi, mae eraill yn llawer yn fwy soffistigedig. Mae twyllwyr yn cadw’n gyfredol gyda phethau sydd yn y newyddion, a’n defnyddio cynlluniau’r llywodraeth gall bobl fod wedi clywed amdanynt ond ddim yn gyfarwydd â er mwyn creu sgamiau newydd.
Darganfyddwch fwy am y mathau gwahanol o sgamiau, sut i’w hadnabod a beth i’w wneud os ydych chi wedi’ch targedu
Sut i adnabod sgam
Mae gwybod am beth i gadw golwg amdano pan ddaw hi at sgamiau yn un o’r ffyrdd gorau i ddiogelu’ch hun.
- Cyswllt digymell neu annisgwyl - Os ydych chi wedi derbyn unrhyw fath o gyswllt, ond yn enwedig galwad ffôn, heb rybudd, y peth gorau yw ei osgoi. Ers Ionawr 2019, mae yna waharddiad wedi bod ar alwadau digymell ynghylch pensiynau. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi am eich pensiwn oni bai’ch bod wedi gofyn iddynt wneud. Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd y llywodraeth ei fod yn cynllunio i wahardd galwadau digymell ariannol i gyd.
- Cyfeiriad e-bost - Os cewch e-bost, ehangwch y cwarel ar frig y neges a gweld yn union o bwy y daeth, gallai ddweud ei fod o Drwyddedu Teledu ond os ydych yn clicio neu’n hofran dros yr enw fe allai ddatgelu rhywbeth gwahanol. Os yw’n sgam, efallai na fydd y cyfeiriad e-bost y mae’r neges wedi dod ohono yn cyfateb ag enw’r anfonwr, wedi camsillafu, neu fod o un o’ch cysylltiadau sydd wedi’i hacio.
- Negeseuon testun - Gall sgamwyr modern wneud i’w rhifau ffôn edrych fel rhai rydych yn ymddiried ynddyn nhw, megis eich banc. Efallai y bydd y neges destun sgam hyd yn oed yn ymddangos yn yr un sgwrs â negeseuon dilys rydych chi wedi’u cael o’r blaen. Gelwir hyn yn sgamiau sy’n dangos rhif ffôn (sbŵffio). Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun rhag ofn, ac os ydych yn amau, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’r cwmni’n uniongyrchol gan ddefnyddio manylion cyswllt o’u gwefan neu gyfatebiaeth oddi wrthynt i wirio ei fod yn neges go iawn.
- Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, dyna sy’n wir fel arfer. Mae hyn yn rhywbeth y byddwch chi fel arfer yn ei ffeindio gyda sgamiau pensiwn neu fuddsoddi, ble y mae’r twyllwr yn sicrhau enillion anferth i chi, ond yn dweud wrthych ei fod yn risg isel.
- Manylion personol, codau PIN a chyfrineiriau. Mae’r rhain yn bethau na fyddai unrhyw gwmni dilys yn gofyn amdanynt.
- Penderfyniadau cyflym. Os rhoddir pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle, byddwch amheus. Nid yw sgamwyr eisiau i chi gael amser i feddwl am y peth. Nid oes ots gan unrhyw gwmni cyfreithlon sy’n eich galw os byddwch chi’n rhoi’r ffôn i lawr ac yn eu galw nôl yn nes ymlaen. Defnyddiwch y rhif ffôn sydd ar lythyrau gan y cwmni neu ar gefn eich cerdyn.
- Dylai cystadlaethau ar hap, yn enwedig os nad ydych chi’n cofio cystadlu, seinio clychau rhybudd.
- Mae gwallau sillafu neu ramadeg gwael ar e-byst ac mewn negeseuon testun yn arwyddion eraill o sgam.
Gallwch ddarganfod rhestr fwy cynhwysfawr o’r arwyddion rhybudd ar gyfer mathau penodol o sgamiau ar y dudalen hon
Sut i ddiogelu eich hun yn erbyn sgamiau
Y cam nesaf i osgoi sgamiau yw gwybod sut i ddiogelu’ch hun, ar-lein ac all-lein:
- Dylech osgoi unrhyw gyswllt annisgwyl. Peidiwch ag ateb galwadau ffôn, llythyrau neu e-byst os ydyn nhw’n edrych yn anghyfarwydd. Os ydych chi’n gwsmer i’r cwmni, defnyddiwch y manylion cyswllt a roddwyd i chi mewn gwaith papur swyddogol neu ar eu gwefan i wirio a yw’r person sy’n dod atoch chi yn gyfreithlon.
- Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol. Gellir ei defnyddio i ddwyn eich hunaniaeth a chael mynediad at eich cyfrifon. Yn benodol, ni ddylech fyth rannu’ch PIN neu gyfrinair llawn ag unrhyw un. Bydd eich banc yn gofyn i chi ddefnyddio darllenydd cerdyn neu’n gofyn am ychydig o ddigidau o'ch cyfrinair os bydd ei angen arno.
- Cadwch eich systemau gweithredu a meddalwedd gwarchod rhag firws yn gyfredol. Peidiwch ag anwybyddu diweddariadau gan y gall y rhain yn aml gynnwys cynnwys i’ch diogelu yn erbyn mathau newydd o sgamiau, firysau a meddalwedd ‘ransomware’. Mae’r un peth yn wir am ddyfeisiau symudol hefyd.
- Sicrhewch fod gan bob cyfrif gyfrinair cryf. Peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer nifer o gyfrifon a newidiwch hwy’n rheolaidd.
- Peidiwch â gwneud unrhyw daliadau hyd nes y byddwch chi’n siŵr bod y cwmni yr ydych chi’n delio ag ef yn ddilys. Gwiriwch gyda’r cwmni yn uniongyrchol cyn gwneud unrhyw daliadau.
- Peidiwch byth â throsglwyddo arian i ‘gyfrifif daliad’. Mae hwn yn sgam cyffredin. Bydd rhywun yn eich galw yn esgus bod o dîm twyll eich banc ac yn gofyn i chi drosglwyddo'ch arian i gyfrif diogel i’w ddiogelu. Ond, os gwnewch hynny, dim ond anfon cynilion i’r sgamiwr a wnewch.
- Os ydych chi’n ansicr am gwmni gwasanaethau ariannol, gwiriwch cofrestr FCA o gwmnïau wedi’u rheoleiddio. Os nad ydynt ar y rhestr, peidiwch â gwneud unrhyw beth gyda hwy. Gwiriwch rybuddion y FCA am gwmnïau sydd wedi’i glonio hefydYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych chi’n ansicr am unrhyw fath arall o gwmni, gallwch edrych amdanynt ar Tŷ’r Cwmnïau i weld eu cefndir, neu i chwilio am adolygiadau ar-lein.
- Defnyddiwch gysylltiadau Wi-Fi diogel a saff ac osgoi Wi-Fi cyhoeddus. Mae’ch cyswllt 3G neu 4G safonol fel arfer yn fwy diogel nac un mewn siop goffi neu fwyty.
- Sicrhewch fod unrhyw wefannau yr ydych chi’n eu defnyddio yn ddiogel. Gwiriwch i weld a yw cyfeiriad y we yn dechrau gyda HTTPS, nid dim ond HTTP..
- Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth blocio galwadau fel y Telephone Preference Service Efallai na fydd hyn yn atal pob galwad sgâm gan eu bod yn gweithredu y tu hwnt i ganllawiau cyfreithiol, ond bydd yn atal galwyr digroeso. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw alwadau amheus neu annisgwyl yr ydych chi’n eu derbyn mwy na thebyg yn sicr gan bobl nad ydych chi eisiau delio â hwy.
Beth i’w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef o dwyll, mae pethau y mae angen i chi ei wneud.
- Cysylltwch â’ch banc neu’ch darparwr cerdyn yn syth os ydych wedi colli arian, fel y gallant ddechrau ceisio’i adfer.
- Stopiwch anfon arian ar unwaith. Os yw’r taliad wedi’i sefydlu fel Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’ch banc i roi stop ar hyn ar unwaith.
- Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-lein ar Action Fraud, neu wefan Scam Smart yr FCA
Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i ‘Police Scotland’ ar 101 neu ‘Advice Direct Scotland’ ar 0808 800 9060. - Byddwch yn ymwybodol o sgamiau dilynol. Weithiau ar ôl adrodd am dwyll fe allech chi gael eich targedu eto gan dwyllwr sy’n dweud y gall gael eich arian yn ôl.
- Bob mis, gwiriwch eich adroddiad credyd am geisiadau neu weithgaredd nad ydych yn eu hadnabod. Gallech hefyd ystyried talu am Gofrestriad Diogelu CifasYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn dweud wrth fenthycwyr eich bod wedi dioddef twyll, felly byddant yn gwneud gwiriadau ychwanegol i sicrhau bod unrhyw gais newydd am gredyd yn ddilys.