Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?

Petai eich banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn mynd i’r wal, byddai gennych hawl i iawndal trwy’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.  Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer cyfrifon ar y cyd ac os oes gennych arian mewn dau fanc sy’n rhan o’r un grŵp bancio.

Beth yw’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol?

Gall y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) dalu iawndal i bobl sydd ar eu colled oherwydd i fanc neu ddarparwr gwasanaethau ariannol arall fynd i’r wal.

Mae hefyd yn helpu pobl sydd ar eu colled oherwydd cyngor gwael gan ymgynghorydd ariannol sydd wedi mynd allan o fusnes ers hynny.

Beth mae’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn ei gwmpasu

Mae’r cynllun yn cwmpasu nifer o wahanol fathau o wasanaethau ariannol. Gallech dderbyn iawndal os:

  • wnaethoch golli arian mewn cyfrifon cadw gyda banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd os yw’r cwmni’n methu. Mae hyn cyhyd ag nad oedd gennych chi fwy na £85,000 gydag un sefydliad. 
  • Mae eich cwmni yswiriant yn mynd i’r wal. Gall y cynllun dalu hawliadau wedi eu diogelu a cheisio trefnu, neu helpu gyda, trosglwyddo’r busnes yswiriant i gwmni arall.  Os yw hyn yn gost effeithiol ac yn ymarferol
  • Mae eich darparwr pensiwn yn mynd i’r wal. Dim ond pensiynau sydd wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sydd wedi eu diogelu gan y cynllun. Gweler pa gynlluniau sydd wedi eu cynnwys a’r rhai nad ydynt felly ar Sefydliadau sy’n helpu os yw’ch cynllun yn newid.
  • Rydych wedi colli arian oherwydd i chi gael cyngor ariannol gwael neu bu i’ch darparwr gwasanaethau ariannol gyflawni twyll. Yn yr achos hwn, gall y cynllun eich diogelu os na all darparwr y gwasanaethau ariannol, neu mae’n debygol na all, dalu hawliadau yn ei erbyn.

Diogelwch ar gyfer balans uchel dros dro

Os oes gennych falans uchel dros dro,  mae gennych ddiogelwch dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)  hyd at £1miliwn. Mae hyn am hyd at 6 mis o’r dyddiad pan gafodd yr arian ei dalu i mewn i’r cyfrif gyntaf.

Mae sicrwydd ar gyfer balansau uchel dros dro ar gael i unigolion yn unig - nid i gwmnïau.

Os, er enghraifft, y byddwch chi’n gwerthu eich cartref ac felly bod gennych swm anarferol o uchel yn eich cyfrif, efallai y bydd yr arian wedi ei ddiogelu dros dro pe byddai’ch banc yn mynd i’r wal, hyd yn oed os yw’n fwy na’r trothwy £85,000.

Yr hyn nad yw’n cael ei gwmpasu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)

Ni fyddwch wedi’ch diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol(FSCS) os:

  • Yw’r cwmni’n parhau mewn busnes. Rhaid i chi gwyno iddynt yn gyntaf, ac yna fynd â’ch achos at yr Ombwdsmon Ariannol os nad ydych yn fodlon. Nid yw’r cynllun yn talu hawliadau yn y dyfodol yn erbyn cwmnïau sy’n dal mewn busnes.
  • Nad oedd y cwmni’n gyfrifol am eich colled. Er enghraifft, os achoswyd eich colled gan fuddsoddiad sylfaen yn mynd i’r wal.
  • Nid oedd y cwmni wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) na’r Prudential Regulation Authority. Gallwch ddarganfod a yw eich un chi wedi ei ddiogelu drwy ddefnyddio wefan Financial Services Register
  • Roedd y cwmni wedi ei leoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Rhaid i bawb sy’n derbyn adneuon gyda phencadlys yn yr AEE gofrestru i gynllun iawndal adneuon eu gwlad gartref. Mae’n ofynnol i bob gwlad Ewropeaidd gael terfyn iawndal sy’n cyfateb i €100,000.
  • Mae’ch hawliad yn ymwneud â busnes a ddigwyddodd cyn dyddiad penodol. Mae’r dyddiad hwn yn ddibynnol ar y math o hawliad. Gwiriwch ddyddiadau ar wefan FSCS
  • Busnes taliadau neu e-arian yw eich busnes. Nid yw arian a ddelir gyda busnesau taliadau ac e-arian yn cael ei ddiogelu gan FSCS.  Am fwy o wybodaeth am ddarparwyr gwasanaeth talu, gweler wefan FCA 

Os ydych yn meddwl y gwerthwyd cynnyrch anaddas i chi ac mae’r cwmni wedi mynd i’r wal, mae hyn yn gam-werthu.  Ac efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal.

Sut i hawlio

Pan fydd banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, bydd Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn talu adnau cymwys i bob adneuwr o hyd at £85,000.

Efallai y bydd yn rhaid i gwsmeriaid mathau eraill o wasanaethau ariannol gysylltu’n uniongyrchol gyda’r FSCS.

Cysylltwch â’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ynglŷn â gwneud hawliad

Faint o iawndal fyddwch chi'n ei gael?

Mae yna derfynau ar beth fydd y cynllun yn ei dalu allan.

Os oes gennych gynilion sy’n fwy na’r trothwy iawndal, bydd angen i chi fod yn arbennig o ofalus faint o arian fyddwch yn ei gadw gyda phob:

  • banc
  • undeb credyd
  • cymdeithas adeiladu.

Os mai dim ond un cyfrif sydd gennych

Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU - a awdurdodir gan y Prudential Regulation Authority - ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Terfyn diogelwch adneuon yr FSCS yw £85,000 fesul cwmni awdurdodedig.

Os oes gennych fwy nag un cyfrif gyda’r un banc neu gymdeithas adeiladu

Yr uchafswm fyddech yn ei gael yw £85,000 o hyd.  Mae hyn hyd yn oed os yw cyfanswm eich holl gyfrifon gwahanol gyda’r un banc yn dod i fwy na hyn.

Os oes gennych fwy nag un cyfrif, ond gyda banciau neu gymdeithasau adeiladu gwahanol

Bydd y lefel o ddiogelwch sydd gennych yn ddibynnol ar gyda pha fanciau a chymdeithasau adeiladu mae’ch cyfrifon ynddynt.

Bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ond yn talu ei uchafswm o £85,000 y pen ar gyfer pob ‘sefydliad awdurdodedig’ neu grŵp bancio.

Mae rhai banciau dan berchnogaeth cwmni bancio mwy mewn gwirionedd. Er enghraifft, HSBC yw perchnogion First Direct.

Felly, pe bai gennych  £80,000 gyda First Direct a £10,000 gyda HSBC, byddai gennych gyfanswm o £90,000 gyda HSBC Bank Plc. Mae hynny'n golygu na fyddai £5,000 yn dod o dan yr FSCS.

Darganfyddwch a oes banc mwy yn berchen ar eich banc chi ac yn rhannu ei ddiogelwch adneuon ar wefan Which?.

Os oes gennych gyfrif ar y cyd

Os oes gennych gyfrif ar y cyd, terfyn diogelu blaendal y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yw £170,000.

Byddwch yn ofalus o gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau rheoli hawliadau

Ni chodir tâl i wneud hawliad i’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.

Ond, bydd rhai cwmnïau yn cynnig eich helpu i hawlio gan godi ffi arnoch.

Gall hyn fod yn gymaint â chwarter eich iawndal a TAW.  Felly os cawsoch £2,000 yn ôl, gallech dalu cymaint â £600 i’r cwmni.

Darganfyddwch fwy am hawlio iawndal ar wefan Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.