Beth yw Gorchymyn Gweinyddu?

Darganfyddwch fwy am sut mae Gorchymyn Gweinyddu yn gweithio ac ar gyfer pa ddyledion allwch chi ei ddefnyddio. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion. 

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim

Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.

Bydd ymgynghorydd dyled:

  • yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
  • byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.

Sut mae Gorchymyn Gweinyddu yn gweithio

Mae Gorchymyn Gweinyddu yn gytundeb ffurfiol, rhwymol gyfreithiol rhyngoch chi a'ch credydwyr i ad-dalu'ch dyledion dros gyfnod o amser.

Gallwch wneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn Gweinyddu os:

  • mae gennych un Dyfarniad Llys Sirol neu Un Dyfarniad Uchel Lys yn eich herbyn o leiaf
  • rydych yn dymuno atal y bobl y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr) rhag gweithredu ymhellach yn eich erbyn.

Bydd barnwr yn penderfynu pa un ai i gymeradwyo Gorchymyn Gweinyddu neu beidio. Yn ddibynnol ar y sefyllfa, efallai y bydd y barnwr yn gofyn i chi fynychu gwrandawiad llys

Os cytunir ar y Gorchymyn, bydd eich holl ddyledion yn cael eu trin gyda’i gilydd.

Cytunwch i wneud taliadau misol rheolaidd i’r llys am y swm llawn sy’n ddyledus i’ch holl gredydwyr.

Yna mae’r llys yn rhannu’r arian ymysg y credydwyr hynny.

Gwaherddir eich credydwyr rhag cysylltu â chi heb ganiatâd y llys.

Bydd y llys yn cynnwys ffioedd ar gyfer pob ad-daliad, ond ni all hyn fod yn fwy na 10% o'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych.

A gaf i ymgeisio am Orchymyn Gweinyddu?

Efallai y gallech wneud cais i’r Llys Sirol am Orchymyn Gweinyddu:

  • os oes gennych chi ddwy ddyled o leiaf
  • os oes arnoch chi lai na chyfanswm o £5,000
  • mae gennych un Dyfarniad Llys Sirol neu Un Dyfarniad Uchel Lys yn eich herbyn o leiaf
  • os allwch chi fforddio gwneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion – gall hyn fod cyn lleied ag £1 fesul dyled.

Beth yw Gorchymyn Cyfansawdd?

Os yw’n annhebygol y byddwch yn gallu talu’r ddyled yn llawn dros gyfnod rhesymol, gall y llys gytuno i warantu Gorchymyn Cyfansawdd.

Mae’r Gorchymyn hwn yn caniatáu i chi dalu rhan o’r hyn sy’n ddyledus gennych yn ôl, ac fe gaiff y gweddill ei ddileu. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.