Y ffyrdd gorau i dalu dyledion – Cymru a Lloegr

Darganfyddwch am y gwahanol ffyrdd i helpu i ddelio â’ch dyledion os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch biliau dydd i ddydd, benthyciadau ac ad-daliadau cerdyn credyd neu ymrwymiadau ariannol eraill (fel eich rhent neu’ch morgais). Mae’n bwysig cael cyngor am ddim ar ddyledion cyn i chi wneud penderfyniad.

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim

Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.

Bydd ymgynghorydd dyled:

  • yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
  • byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.

Cynllun Rheoli Dyled (DMP)

  • Mae’r rhain yn caniatau i chi dalu’ch dyledion yn ôl ar gyfradd y gallwch chi ei fforddio.
  • Rydych yn gwneud un taliad misol i’ch darparwr DMP.
  • Bydd eich darparwr DMP yn eich helpu i weithio allan taliad fforddiadwy a siarad â’ch credydwyr.
  • Gallai fod yn bosib os oes gennych chi ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu gardiau siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cynllun Rheoli Dyled?

Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO)

  • Mae’r rhain yn bosibl os ydych ar incwm isel gydag ychydig iawn o asedau.
  • Maent yn rhewi dyledion am flwyddyn ac yna’n ei glirio’n gyfan gwbl os na fydd eich amgylchiadau wedi newid.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Gorchymyn Gostwng Dyled?

Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)

  • Mae’n gadael i chi dalu’n ôl beth allwch chi ei fforddio, ond byddwch angen o leiaf £70 y mis yn sbâr i dalu eich credydwyr.
  • Mae’n para am gyfnod penodol (pum neu chwe mlynedd fel arfer).
  • Bydd unrhyw beth nad ydych wedi ei dalu’n ôl erbyn diwedd y cyfnod yn cael ei glirio.
  • Mae’n gytundeb cyfreithiol rhwym - golyga hyn, unwaith y byddwch wedi ei arwyddo, mae’n debygol y bydd cosbau llym am ei ganslo.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)?

Methdalu

  • Yn dileu pob dyled y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn methdaliad. Ni ellir cynnwys rhai dyledion, megis benthyciadau cronfa gymdeithasol, benthyciadau myfyrwyr, ôl-ddyledion cynhaliaeth plant neu ddyledion twyllodrus. 
  • Os oes gennych unrhyw asedau, fe'u hasesir i weld a ellir eu defnyddio i ad-dalu'ch dyledion. Fel arfer caniateir i chi gadw rhai asedau, fel offer rydych eu hangen i barhau i weithio. Gall cynghorydd dyledion egluro sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr.

Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol

Os oes gennych gyfandaliad a fyddai’n talu rhan o’ch dyledion? Yna gallech ofyn i’ch credydwyr p’un a fyddent yn derbyn rhandaliad ac yn gadael i chi ddileu’r gweddill.

Neu efallai y byddant yn caniatáu i chi wneud taliadau misol am gyfnod a gytunir ac ar ôl hyn bydd y balans yn cael ei ddileu.

Clirio’ch dyledion

  • Yn bosibl mewn sefyllfaoedd eithriadol os nad oes gennych chi incwm, cynilion nag asedau ar gael.
  • Rhaid i chi allu dangos i’ch credydwyr bod eich amgylchiadau’n annhebygol o wella yn y dyfodol - er enghraifft, os ydych chi’n ddifrifol wael.

Siaradwch â chynghorwr dyledion yn rhad ac am ddim i weld a allai’r ateb hwn fod yn addas i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.