Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr

Mae’n bwysig i chi feddwl yn ofalus am gyhoeddi eich bod yn fethdalwr. Darganfyddwch fwy am beth mae hyn yn ei olygu ac yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am ddim am p’un ai methdaliad yw’r ffordd orau i glirio eich dyledion. Mae’r wybodaeth yma ar eich cyfer os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr yn unig.

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim

Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.

Bydd ymgynghorydd dyled:

  • yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
  • byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.

Beth yw methdaliad?

  • Yn dileu pob dyled y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn methdaliad. Ni ellir cynnwys rhai dyledion, megis benthyciadau cronfa gymdeithasol, benthyciadau myfyrwyr, ôl-ddyledion cynhaliaeth plant neu ddyledion twyllodrus. 
  • Os oes gennych unrhyw asedau, fe'u hasesir i weld a ellir eu defnyddio i ad-dalu'ch dyledion. Fel arfer caniateir i chi gadw rhai asedau, fel offer rydych eu hangen i barhau i weithio. Gall cynghorydd dyledion egluro sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Sut i wneud cais am fethdaliad

Os ydych yn gwneud cais i fynd yn fethdalwr, rhaid i chi gwblhau cais ar-lein a chreu cyfrif ar-lein.

Bydd angen i chi roi gwybodaeth am eich:

  • dyledion
  • cyflogaeth/incwm
  • pensiwn
  • cyfrifon banc
  • asedau
  • gwariant.

Gan gynnwys unrhyw lythyrau a gawsoch gan feilïod neu asiantwyr gorfodi.

Adolygir eich cais gan ddyfarnwr swyddogol sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Ansolfedd. Byddant yn penderfynu a ddylech gael eich cyhoeddi’n fethdalwr.

Fel arfer cewch benderfyniad cyn pen 28 diwrnod ers cyflwyno’ch cais.

Mae yna lawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai nad methdaliad yw'r ateb gorau i chi. Gallwch ddarganfod mwy am sut i wneud cais i fynd yn fethdalwr ar-lein yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Faint mae’n ei gostio i fynd yn fethdalwr?

Mae'n costio £680 i wneud cais am fethdaliad a bydd angen i chi dalu hyn cyn i chi gyflwyno eich cais.

Os na allwch chi fforddio talu’r ffi efallai y gallwch dalu mewn rhandaliadau.

I ddarganfod mwy am hyn, cysylltwch â’r llinell ymholi ar ansolfedd.

PPI a methdaliad yng Nghymru a Lloegr

Os byddwch yn mynd yn fethdalwr, bydd unrhyw hawliad llwyddiannus am gam-werthu PPI yn cael ei dalu i’ch ystâd methdaliad, ac nid i chi. Peidiwch â gwneud unrhyw hawliadau eich hun gan y gallech gael eich hun ar eich colled os byddwch chi’n talu unrhyw ffioedd neu gomisiwn i gwmni hawlio. 

Darganfyddwch fwy am Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) ar ôl methdaliad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi fynd yn fethdalwr?

Ar ôl i chi fynd yn fethdalwr, bydd Derbynnydd Swyddogol yn cael ei benodi cyn pen pythefnos ar ôl derbyn eich gorchymyn methdaliad.

Byddant yn asesu eich:

  • incwm,
  • asedau, a
  • gwariant.

Er mwyn penderfynu ar y modd y gellir defnyddio’r rhain i dalu’ch dyledion.

Efallai y bydd angen i chi hefyd fynychu cyfweliad â’r derbynnydd swyddogol.

Rhaid i’ch credydwyr wneud cais ffurfiol i’r ymddiriedolwr am yr arian sy’n ddyledus iddynt.

Ni allwch wneud taliadau uniongyrchol iddynt, ac ni allant ofyn i chi am daliadau.

Ar ôl cyfnod o amser (blwyddyn fel arfer), mae’r rhan fwyaf o’ch dyledion yn cael eu dileu a gallwch gychwyn o’r cychwyn.

Hyd nes i chi gael eich rhyddhau o fod yn fethdalwr byddwch yn parhau dan gyfyngiadau’r methdaliad.

Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu ymgeisio am gredyd o £500 neu ragor heb ddweud wrth y benthyciwr am y methdaliad.

Bydd unrhyw gredyd a gewch yn debygol o fod yn ddrud nawr ac yn y dyfodol.

Mae methdaliad yn effeithio ar eich statws credyd a bydd asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw’r manylion ar ffeil am chwe blynedd o leiaf.

Ar gyfer pwy mae methdalu yn addas?

Os nad oes gennych ffordd wirioneddol o dalu’ch dyledion a gyda ond ydychdig o asedau, yna gallai methdalu fod yn opsiwn addas.

Os ydych yn berchennog cartref mae’n werth edrych ar opsiynau eraill gan fod methdaliad yn rhoi eich cartref mewn perygl o gael ei werthu os nad oes digon o ecwiti ynddo.

Os ydych yn denant, gall eich landlord ymgeisio i’ch taflu allan yn gyfreithiol os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent.

Mae’n bwysig iawn nad ydych yn cymryd y penderfyniad i fynd yn fethdalwr ar eich pen eich hun. Siaradwch â chynghorwr dyledion yn rhad ac am ddim yn gyntaf.

A allaf gael fy ngwneud yn fethdalwr?

Yr isafswm o ddyled pryd y gall unigolyn sydd ag arian yn ddyledus iddynt eich gorfodi i fod yn fethdalwr yw £5,000.

Mae’r broses o gael eich gwneud yn fethdalwr yn wahanol.

Fodd bynnag, anaml iawn y bydd darparwyr benthyciadau ar y stryd fawr yn defnyddio’r opsiwn hwn gan ddewis yn hytrach i gydweithio â chi i ganfod ffordd arall o glirio’ch dyledion.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd os bydd rhywun yn ceisio'ch gwneud yn fethdalwr drwy ymweld â GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.