A ydych yn poeni am fethu â thalu'ch bil dŵr neu fynd i ôl-ddyledion? Er na all eich cyflenwr ddiffodd eich dŵr os byddwch yn methu taliadau, gallant ddefnyddio achos llys i orfodi ad-daliad. Fodd bynnag, mae help ar gael i chi.
Cefnogaeth i dalu'ch bil dŵr
Os ydych yn cael trafferth talu'ch bil, mae pecynnau cymorth y gall eich cwmni dŵr eu cynnig i chi.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a gallai gynnwys:
- seibiannau talu neu wyliau talu
- cynlluniau arbennig, fel tariffau cymdeithasol
- addasu eich cynllun talu i ymdopi â gostyngiad yng nghyllid y cartref
- cynnig cyngor ar fudd-daliadau a rheoli dyledion, yn enwedig os nad ydych wedi cael trafferthion ariannol o'r blaen
- atal ceisiadau llys newydd ar filiau heb eu talu a chamau gorfodi yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws cyfredol.
- darganfod a ydych yn gymwys i gael grantiau elusennol.
I ddarganfod pa help y gallech ei gael, cysylltwch â'ch cwmni dŵr cyn gynted ag y gallwch - a chyn i chi fethu taliad. Bydd eu manylion cyswllt a mwy o wybodaeth ar eu gwefan ac ar eich bil.
Cymorth ychwanegol yn ystod argyfwng coronafeirws
Mae gan bob cwmni dŵr ei gynllun ei hun i'ch helpu yn ystod y pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau tariff cymdeithasol, gostyngiadau a seibiannau talu.
Os na allwch adael y tŷ gan eich bod yn hunan-ynysu, bydd cwmnïau dŵr yn cynnig ffyrdd eraill i chi dalu'ch bil.
Ni ddylai asiantaethau gorfodi (beilïaid neu siryfion) ymweld â chi i gasglu unrhyw ôl-ddyledion biliau dŵr yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Fodd bynnag, siaradwch â'ch cyflenwr bob amser cyn gynted ag y gwyddoch fod problem. Bydd hyn yn atal unrhyw daliadau a gollir rhag dod yn ddyledion difrifol yn y dyfodol.
Os ydych wedi methu taliadau ar eich bil dŵr
Mae'n bwysig talu – a pheidio ag anwybyddu – eich bil dŵr.
Ni all eich cwmni dŵr ddiffodd eich cyflenwad dŵr, ond byddant yn cymryd camau os byddwch yn methu taliadau.
Nid yw hi byth yn rhy hwyr i gysylltu â'ch cyflenwr a gofyn am gefnogaeth. Os na wnewch unrhyw beth, mae amryw camau y gallai eich cyflenwr eu cymryd:
- Efallai y byddant yn gofyn i chi gysylltu trwy ysgrifennu atoch neu ffonio.
- Byddant yn anfon rhybudd atgoffa atoch, yn eich hysbysu am yr ôl-ddyledion.
- Os anwybyddwch y nodyn atgoffa, byddant yn anfon rhybudd terfynol (fel arfer yn rhoi saith diwrnod i chi dalu).
- Os na all eich cyflenwr gysylltu â chi, byddant yn trosglwyddo'r ddyled i asiantaeth casglu dyledion.
- Efallai y byddant yn ceisio Dyfarniad Llys Sirol (CCJ), sy'n rhoi sawl opsiwn iddynt orfodi ad-daliad o'ch dyled.
- Pan fydd gan eich cyflenwr CCJ, gallant anfon beili neu siryf (asiant gorfodi) i'ch cartref i atafaelu nwyddau sy'n hafal i werth y ddyled, ynghyd â ffioedd sy'n cael eu hychwanegu at eich dyled.
- Nid yw dyledion dŵr yn cael eu rheoleiddio gan y Ddeddf Credyd Defnyddiwr. Mae hyn yn golygu, os ydych yn derbyn CCJ dros £600, gall eich cyflenwr anfon swyddogion gorfodi'r Uchel Lys yn lle beilïaid cyffredin.
- Gall cwmnïau dŵr hefyd wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a didynnu taliadau wythnosol o rai o'ch budd-daliadau.
- Os ydych yn gofalu am dri neu fwy o blant, neu os oes rheswm meddygol pam eich bod chi'n defnyddio mwy o ddŵr na'r cyfartaledd, mae help ychwanegol ar gael.
Darganfyddwch sut i gael help ag ôl-ddyledion dŵr o gronfa ymddiriedolaeth dŵr ar wefan National Debtline
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Help i dalu'ch bil os oes gennych fesurydd dŵr
Os oes gennych fesurydd dŵr a'ch bod ar fudd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun WaterSure. Os ydych yn rhan o'r cynllun, mae'ch bil wedi'i gapio ar y bil mesurydd cyfartalog ar gyfer ardal eich cwmni dŵr.
Mae gan Gymru gynllun tebyg o'r enw WaterSure Cymru.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych wedi methu mwy nag un taliad neu os ydych yn jyglo dyledion eraill, mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn iawn. Mae hyn oherwydd bod rhai yn fwy brys ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.