Mae cost hanfodion bob dydd wedi bod yn cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O hanfodion archfarchnad i filiau misol, mae'n debygol na fydd eich arian yn ymestyn mor bell ag yr oedd.
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch biliau neu’n mynd i ddyled i’w talu, y peth gorau y gallwch ei wneud yw gweithredu nawr. Mae yna lefydd i droi atynt os oes gennych drafferthion ariannol neu os oes angen help arnoch gyda biliau ar frys. Efallai y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau ychwanegol i’ch helpu i gynyddu eich incwm, fel y Gronfa Cymorth Cartref a Chredyd Cynhwysol.
P’un a ydych chi’n poeni am arian bob dydd, y biliau y mae’n rhaid i chi eu talu, rhent cynyddol, talu costau ynni uwch neu fynd i’r afael â dyled, rydym wedi dwyn ynghyd ein teclynnau, cyfrifianellau a chanllawiau mwyaf defnyddiol i’ch helpu i gadw ar ben eich arian