Faint o rent gallwch ei fforddio?

Mae rhentu yn gyfrifoldeb ariannol sylweddol, ac mae'n bwysig eich bod yn deall bod hyn yn mynd y tu hwnt i'ch taliadau rhent yn unig. Mae llawer o gostau eraill y mae rhaid i chi feddwl amdanynt. 

Amcangyfrifwch gost eich rhent ynghyd â biliau

Mae rhentu cartref yn golygu mwy na dim ond gallu talu'ch rhent.

Efallai y bydd llawer o filiau eraill y gallai fod disgwyl i chi eu talu fel tenant.

Efallai bod eich landlord yn talu am rai o'r rhain yn uniongyrchol ac yn codi tâl arnoch trwy'r rhent. Felly, mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall pa filiau rydych yn gyfrifol am eu talu.

Treth Gyngor, cyfleustodau a thaliadau gwasanaeth

  • Biliau dŵr (sydd fel arfer yn cael eu talu’n fisol)
  • Taliadau gwasanaeth (mewn rhai tai – sy’n cael eu talu’n fisol neu'n flynyddol)
  • Treth Gyngor (sydd fel arfer yn cael ei thalu’n fisol - Cymru, Lloegr a'r Alban) neu fil ardrethi (Gogledd Iwerddon)
  • Biliau nwy a thrydan (naill ai trwy fesurydd rhagdalu, neu’n fisol trwy ddebyd Uniongyrchol)

Gofynnwch i'r asiantaeth, landlord neu denant blaenorol roi amcangyfrifon i chi o'r biliau hyn pan edrychwch o gwmpas yr eiddo.

Costau misol eraill sy'n effeithio ar faint o rent gallwch fforddio

Cofiwch y mae'n debyg y bydd gennych filiau misol ychwanegol i'w talu, fel:

  • trwydded deledu (sy’n cael ei dalu’n fisol neu'n flynyddol – ewch i tvlicensing.co.uk i ddarganfod faint mae hyn yn ei gostio)
  • gellir talu bil ffôn llinell dir (ynghyd ag unrhyw daliadau cysylltu - bob chwarter neu bob mis)
  • yswiriant cynnwys (sy’n cael ei dalu’n fisol neu'n flynyddol)
  • tanysgrifiadau teledu digidol neu deledu lloeren (sy’n cael eu talu bob mis)
  • bil band eang (yn cael ei dalu bob mis neu bob chwarter)

Lluniwch gyllideb o'ch holl gostau

Ceisiwch wneud amcangyfrif realistig o'r hyn y byddwch yn ei wario bob mis ar dreuliau eraill o ddydd i ddydd fel:

  • ffôn symudol
  • bwyd/dillad
  • yswiriant teithio/car
  • gofal/cynhaliaeth plant
  • campfa/hobïau/nosweithiau allan
  • benthyciadau neu ad-daliadau cardiau credyd.

Os oes unrhyw amheuaeth, gor-amcangyfrif yn hytrach na thanamcangyfrif.

Nid ydych am fentro mynd i ddyled ar ôl ychydig fisoedd oherwydd eich bod wedi anghofio ystyried un o'ch taliadau misol rheolaidd.

Ar ôl i chi gael amcangyfrifon ar gyfer pob un o'r eitemau hyn, gallwch lunio cyllideb fel gallwch gyfrifo faint o rent gallwch ei fforddio.

Bydd hyn yn dangos i chi faint yn union o arian sydd gennych i ddod bob mis a faint sydd gennych allan mewn treuliau.

Yna bydd gennych dawelwch meddwl bydd gennych ddigon o arian i fyw arno, unwaith y byddwch wedi talu'ch rhent.

Cofiwch rannu cost flynyddol – fel talu am y Nadolig neu wyliau haf – â 12, felly mae'r gost wedi'i rhannu'n gyfartal ar draws y flwyddyn.

Peidiwch ag anghofio'r costau ymlaen llaw

Cyn i chi lofnodi'r cytundeb tenantiaeth, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu fforddio talu costau symud i'r eiddo.

Blaendal rhent

Mae'n debyg mai'ch blaendal fydd y gost fwyaf os ydych yn rhentu lle newydd, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr arian hwn cyn i chi ymrwymo'ch hun. Os oes gennych denantiaeth breifat ac wedi talu blaendal i’ch landlord (neu asiant), yn gyfreithiol mae’n rhaid ei fod yn cael ei amddiffyn mewn cynllun sydd wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth.

Mae blaendaliadau tenantiaeth ad-daladwy yn cael eu capio ar ddim mwy na phum wythnos o rent os yw’r rhent yn llai na £50,000 y flwyddyn, a chwe wythnos o rent os yw’r rhent yn fwy na £50,000 y flwyddyn.

Bydd yr arian hwn yn cael ei ddal mewn cynllun amddiffyn blaendal ac, os nad oes unrhyw ddifrod, dylech ei gael yn ôl pan fyddwch yn symud allan.

Os nad oes gennych yr arian ar gyfer blaendal, gofynnwch i'ch cyngor lleol ddarganfod a oes cynlluniau blaendal rhent, bond neu warant rhent yn eich ardal i'ch helpu.

Ond cofiwch na fydd pob landlord ac asiant gosod yn derbyn blaendaliadau ar y ffurf hon – bydd angen i chi ofyn.

Ffioedd asiantaeth

Ni chaniateir i asiantau gosod yn Lloegr godi ffioedd gweinyddol am bethau fel gwirio tystlythyrau, neu adnewyddu tenantiaeth am denantiaid byrddaliadol a lletywyr yn byw gyda landlord preifat.

Mae ffioedd gosod eisoes wedi'u gwahardd yn yr Alban, ond maent yn gyfreithiol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Er enghraifft, mae'r taliadau am wirio tystlythyrau yn amrywio o £10 i £275, tra bod y taliadau am adnewyddu tenantiaeth yn amrywio o £12 i £200.

Gellir dal i godi ffioedd am daliadau rhent hwyr, terfynu eich tenantiaeth yn gynnar neu drosglwyddo eich tenantiaeth.

Ffioedd symud neu storio

Sicrhewch amcangyfrifon lleol ar gyfer y rhain.

Mae'n debyg y gallech arbed arian i'ch hun trwy logi fan a gwneud y gwaith eich hun, os ydych yn fodlon gwneud.

Dodrefn

Os ydych yn symud i le heb ddodrefn, peidiwch ag anghofio cyllidebu ar gyfer cost dodrefn meddal fel llenni.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.