Cyfrifoldebau ariannol os ydych chi’n gosod eiddo

Efallai eich bod yn landlord prynu-i-osod proffesiynol, neu efallai eich bod yn gosod eich cartref fel ‘landlord ar hap’ am eich bod wedi etifeddu eiddo neu heb werthu eiddo blaenorol. Beth bynnag yw eich sefyllfa, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau ariannol. 

Rhowch wybod i’ch benthyciwr morgais

Os oes gennych forgais preswyl, yn hytrach na phrynu i osod, mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich benthyciwr os bydd rhywun heblaw chi yn byw yno.  Mae hyn oherwydd nad yw morgeisi preswyl yn caniatáu i chi osod eich eiddo.

Gallwch gael caniatâd i osod, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi, neu godir llog ychwanegol ar ben eich cyfradd arferol.

Yn wahanol i forgeisi prynu-i-osod, mae cyfyngiadau amser ar gytundebau cydsynio i osod. Mae hyn fel arfer am gyfnod o 12 mis, neu ar yr amser sydd gennych ar ôl ar eich cyfradd tymor penodol, felly gall fod yn ddefnyddiol fel ateb dros dro. 

Os na fyddwch yn dweud wrth eich benthyciwr, gall fod canlyniadau difrifol gan y gallai gael ei ystyried yn dwyll morgais.  Mae hyn yn golygu y gallai eich benthyciwr fynnu eich bod yn ad-dalu'r morgais ar unwaith neu adfeddiannu'r eiddo.

Goblygiadau treth

Fel landlord rydych angen gwybod beth yw eich rhwymedigaethau Treth Incwm a Threth ar Enillion Cyfalaf.

Dyma trosolwg, gyda wefannau am fwy o wybodaeth mwy manwl.

Treth Incwm

Ychwanegir incwm o rent at unrhyw incwm perthnasol arall rydych yn ei ennill yn ystod y flwyddyn dreth ariannol.

Er enghraifft, incwm o gyflogaeth neu efallai log o gynilion – i gyfrifo eich atebolrwydd treth.

Mae’n rhaid ichi ddatgan yr incwm hwn ar ffurflen Hunanasesiad Treth bob blwyddyn.

Fodd bynnag, efallai y gallwch hawlio treuliau neilltuol yn erbyn eich incwm o rent a lleihau eich bil treth.

Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rywfaint neu’ch holl daliadau llog ar forgais, os oes gennych forgais prynu-i-osod.

Nid yw landlordiaid bellach yn gallu didynnu llog morgais o incwm rhent er mwyn lleihau'r dreth y maent yn ei thalu.  Nawr byddwch yn derbyn credyd treth yn seiliedig ar 20% o elfen llog eich taliadau morgais.  Gallai'r newid rheol hwn olygu y byddwch yn talu llawer mwy mewn treth nag y byddech wedi'i wneud o'r blaen. Darganfyddwch fwy ar gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd

O fis Ebrill 2020, nid oes modd i landlordiaid tynnu llog morgais o incwm rhent i leihau’r dreth maent yn ei dalu. Yn lle, mae landlordiaid nawr yn derbyn credyd treth yn seiliedig ar 20% o elfen llog eu taliadau morgais.

Lwfans incwm o eiddo

Mae’r lwfans incwm o eiddo yn golygu y gall perchnogion eiddo ennill hyd at £1,000 o incwm o rent yn ddi-dreth pob blwyddyn.

Gallai talwr treth cyfradd sylfaenol arbed hyd at £200 a thalwyr treth cyfradd uwch hyd at £400. Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar y cyd, er enghraifft gyda’ch partner, gallwch eich dau hawlio’r lwfans.

Os yw’ch incwm o rent yn £1,000 neu lai, ni fydd angen i chi ddatgan na thalu treth ar yr incwm hwn.

Os ydych chi’n ennill mwy na £1,000 mewn incwm o rent, gallwch ddidynnu’r lwfans o’ch derbynebau. Fodd bynnag, os byddwch chi’n hawlio hyn, ni fyddwch yn gallu hawlio am gostau eraill a ganiateir.

Bydd y lwfans incwm o eiddo hefyd yn berthnasol i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.

Ni allwch ddefnyddio’r lwfans eiddo yn erbyn incwm o osod ystafell yn eich cartref eich hun ar y cyd â gostyngiad rhentu ystafell

Treth ar Enillion Cyfalaf

Os ydych chi’n gwerthu eiddo sydd ddim yn brif gartref i chi – gan gynnwys eiddo i’w osod – mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu Treth ar Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion (elw).

Gallwch osod treuliau sy’n ymwneud â chyfalaf, fel ffenestri newydd, yn erbyn enillion cyfalaf pan fydd yr eiddo yn cael ei werthu.

Gan y gallai hyn fod flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n bwysig eich bod yn cadw cofnodion a thystiolaeth o unrhyw dreuliau o’r fath.

Yna pan fyddwch chi’n gwerthu, gofynnwch i ymgynghorwr ariannol neu gyfrifydd beth y gallwch ei hawlio’n ôl.

Cofrestrwch flaendal eich tenantiaid gyda Chynllun Blaendal Tenantiaeth

Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu defnyddio i ddiogelu blaendal y tenantiaid.

Yng Nghymru a Lloegr yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi roi’r blaendaliadau mewn cynllun addas o fewn 30 niwrnod i ddyddiad cychwynnol y cytundeb tenantiaeth os ydych chi’n rhentu eich cartref ar denantiaeth byrddaliad sicr a ddechreuodd wedi 6 Ebrill 2007.

Pa ffioedd allwch chi eu codi fel landlord?

Caiff landlordiaid eu cyfyngu gyda pha ffioedd y gallant godi ar denantiaid.

Mae blaendaliadau tenantiaeth ad-daladwy wedi’u capio ar ddim mwy na phum wythnos o rent os yw cyfanswm y rhent yn llai na £50,000 y flwyddyn, neu chwe wythnos os yw cyfanswm y rhent yn fwy na £50,000 y flwyddyn.

Mae blaendaliadau cadw, a ddefnyddir i gadw eiddo, wedi’u capio ar un wythnos o rent.

Cewch barhau i godi ffioedd os yw’r tenant yn gofyn am gael terfynu’r denantiaeth yn gynnar, ar gyfer taliadau rhent hwyr ac os ydych yn pasio costau ymlaen am bethau megis cyfleustodau, y Dreth Gyngor a Thrwyddedau Teledu.

Rheolau treth ar gyfer gosod tai gwyliau

Mae’r rheolau treth ar gyfer gosod tai gwyliau’n llawn amser neu’n rhan-amser yn wahanol i’r rhai ar gyfer gosod tai yn breifat.

Eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel landlord

Mae gennych chi lawer o gyfrifoldebau i gydymffurfio â hwy fel landlord, gan gynnwys:

  • llunio cytundeb tenantiaeth cydsyniol
  • diogelwch peiriannau nwy a thrydan rydych chi’n eu cyflenwi
  • diogelwch tân y dodrefn a’r llenni a’r deunyddiau rydych chi’n eu cyflenwi
  • darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo
  • diogelu blaendal eich tenant mewn cynllun a gymeradwyir gan y llywodraeth
  • gwirio fod gan eich tenant yr hawl i rentu’ch eiddo os yw’r eiddo hwnnw yn Lloegr.
  • Dylai landlordiaid sy’n byw yn Yr Alban cyfeirio at myscot.govYn agor mewn ffenestr newydd am eu cyfrifoldebau cyfreithiol
  • Dylai landlordiaid sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon cyfeirio at nidirect.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd am eu rhwymedigaethau cyfreithiol 

Rhentu Doeth Cymru

Bwriad y cynllun cofrestru a thrwyddedu yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau:

  • asiantau
  • tenantiaid
  • landlordiaid.

Os yw landlord eisiau rheoli’r eiddo ei hun, rhaid profi ei fod yn ‘ffit ac addas’ i feddu ar drwydded.

Yna mae’n rhaid iddynt ymroi i gyflawni (a phasio) hyfforddiant cymeradwy.

Neu, byddant yn gallu penodi asiant trwyddedig i reoli’r eiddo ar eu rhan.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.