Mae prynu cartref yn bryniant mawr – wedi’r cyfan, fel arfer bydd yn cymryd dau ddegawd i chi ei had-dalu. Mae yna lawer i'w ddeall hefyd a phethau nad ydych am eu hanghofio yn y broses brynu.
Mae’r adran hon yn edrych ar ochr ariannol prynu cartref – p’un a ydych yn brynwr tro cyntaf ai peidio – gan gynnwys y gwahanol fathau o forgeisi, costau ychwanegol y mae angen i chi eu cynnwys a’r help y gallech ei gael.
Ac os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais ac angen rhywfaint o help, neu’n edrych i ail-forgeisio neu ryddhau arian ar gyfer ymddeoliad, mae hynny gennym hefyd.