Pam ei bod yn werth i chi adolygu eich morgais yn rheolaidd

Efallai bod eich bargen morgais wedi bod yn gystadleuol pan ei chawsoch gyntaf. Ond gallai adolygu eich morgais yn rheolaidd, ac ailforgeisio pan fydd bargen well ar gael arbed llawer o arian i chi.

Pa mor aml ddylech adolygu eich morgais?

Mae'n syniad da i gadw golwg am well fargeinion morgais.

Mae rhai newydd yn dod ar y farchnad o hyd ac os nad ydych wedi eich cloi mewn bargen gyfradd sefydlog neu ddisgownt gyda thâl ad-dalu’n gynnar gall fod yn werth i chi newid eich benthycwyr (ail-forgeisio) ar unrhyw adeg.

Dylech o leiaf adolygu eich morgais:

  • pan fydd cyfraddau llog yn newid – oherwydd bydd hyn yn effeithio ar ba mor gystadleuol yw’ch cynnig presennol
  • pan fydd eich cynnig morgais presennol yn dod i ben – oherwydd gallai eich cyfradd godi, ac
  • unwaith y flwyddyn os nad ydych wedi’ch clymu i ddelio â chosbau am ad-dalu’n gynnar – i weld sut mae eich cynnig presennol yn cymharu â chynigion newydd sydd wedi dod ar y farchnad

Os na fyddwch chi’n gwneud dim byd pan fydd cyfraddau’n newid neu eich cynnig morgais yn dod i ben, gallech golli’r cyfle i gael nifer o gynigion gwell sydd ar gael ar y farchnad.

Cael eich atgoffa i adolygu’ch morgais

Trefnwch nawr i gael eich atgoffa i adolygu’ch morgais unwaith y flwyddyn – neu cyn i’ch cynnig sefydlog presennol ddod i ben. Gallech arbed cannoedd o bunnoedd i’ch hun!

Trefnwch nodyn yn eich dyddiadur i ddechrau chwilio o leiaf dri mis cyn y bydd eich cynnig sefydlog neu ddisgownt presennol yn dychwelyd i gyfradd amrywiol safonol y benthyciwr.

Faint allwch ei arbed drwy ail-forgeisio?

Dywedwch fod gennych £175,000 yn dal ar ôl i’w ad-dalu ar eich morgais, gyda chyfnod o 20 mlynedd ar ôl. Rydych ar gynnig o 5% ac yn ad-dalu £1,115 y mis.

Mae hyn yn golygu bod cytundebau mwy cystadleuol bellach ar gael i chi ac, os gwnaethoch adolygu eich morgais heddiw, efallai y gallwch newid i fargen llawer rhatach o ddim ond 3%.

Enghraifft o faint yn llai fyddech chi’n ei ad-dalu bob mis wrth symud o gynnig 5% i 3%
Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 5% Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 3% Arbedion (ar ôl unrhyw ffioedd ail-forgeisio)*

£1,115

£971

£144 y mis neu
£1,728 y flwyddyn

Defnyddiwch y dolenni isod i weld beth yw gwerth eich eiddo ac i weld faint allech ei arbed wrth ail-forgeisio i gyfradd is.

Fodd bynnag, cyn unrhyw newid dylech bob amser ymchwilio i weld pa ffioedd fydd yn rhaid ichi eu talu – gweler ‘Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio’ isod.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell morgeisi i weld faint fyddech yn ei arbed ar gynnig rhatach.

Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio

Er eich bod yn aml yn gallu lleihau eich taliadau wrth newid, cofiwch fod llawer o gostau’n gysylltiedig ag ail-forgeisio.

  • Efallai y bydd rhaid talu costau uchel am ad-dalu’n gynnar os byddwch yn gadael cyn i gyfnod cloi gwreiddiol eich morgais ddod i ben. Mae’n annhebygol y bydd costau os ydych ar gyfradd amrywiol safonol eich benthyciwr.
  • Mae’n bosibl y bydd eich benthyciwr newydd yn codi ffioedd prisio a chyfreithiol arnoch, ond bydd y rhain yn cael eu hanwybyddu’n aml os byddwch yn cwblhau’r ail-forgeisio’n llwyddiannus. Dylech bob amser holi am y ffioedd hyn wrth gymharu cynhyrchion.
  • Mae’n debygol y bydd yn rhaid talu ffi gadael pan fyddwch yn gadael eich benthyciwr presennol. Dylech gynnwys hyn yn eich costau.
  • Fel arfer, mae’n rhaid talu ffi archebu neu drefnu hefyd ar y cynnig newydd – gallwch ddewis cynnig heb ffi er mwyn osgoi ffioedd archebu neu drefnu ond mae’n bosibl y byddwch yn talu cyfradd llog uwch o ganlyniad i hynny.

Felly cofiwch ystyried cyfanswm cost unrhyw ail-forgeisio o’i gymharu â’r arbedion y byddwch yn eu gwneud, cyn mentro ac ail-forgeisio.

Meddyliwch yn ofalus am ail-forgeisio a chloi i mewn i fargen newydd gyda thaliadau ad-dalu cynnar mawr os ydych yn ystyried symud tŷ yn y dyfodol rhagweladwy.

Mae’r rhan fwyaf o forgeisi bellach yn ‘gludadwy’, sy’n golygu y gellir eu symud i eiddo newydd. Ond, mae symud yn dal i gael ei drin fel cais newydd am forgais felly bydd angen i chi fodloni gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr a meini prawf eraill i gael eich cymeradwyo ar gyfer y morgais.

Os na fyddwch chi’n pasio’r gwiriadau, yna efallai mai’ch unig opsiwn fydd cysylltu â benthycwyr eraill, a fydd yn golygu y byddwch yn talu tâl ad-dalu’n gynnar eich benthyciwr presennol.

Yn aml gall ‘cludo’ morgais olygu mai dim ond y balans presennol sy’n weddill ar y cytundeb sefydlog neu ddisgownt presennol, felly mae angen i chi ddewis bargen arall ar gyfer unrhyw fenthyciad ychwanegol ar gyfer y symud ac mae’r fargen newydd hon yn annhebygol o gyd-fynd ag amserlen y fargen bresennol.

 Os ydych yn gwybod eich bod yn debygol o symud tŷ o fewn y cyfnod ad-dalu cynnar ar gyfer unrhyw fargen newydd, yna efallai y byddwch am ystyried bargeinion gyda thaliadau ad-dalu isel neu ddim taliadau ad-dalu cynnar sy’n rhoi mwy o ryddid i chi siopa o gwmpas ymhlith benthycwyr pan ddaw’r amser i symud.

Cyn i chi newid

Ers mis Ebrill 2014, mae darparwyr benthyciadau wedi edrych yn fwy gofalus i weld a allwch fforddio morgais oherwydd rheoliadau newydd.

Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser nag yr oeddech wedi arfer ag ef a bydd yn rhaid i chi ddarparu prawf o'ch incwm a'ch holl dreuliau.

Efallai y bydd gofyn i chi:

  • ddangos eich slipiau cyflog a chyfriflenni banc i brofi eich incwm, neu
  • eich ffurflenni treth a chyfrifon busnes wedi eu llunio gan gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig.

Bydd eich alldaliadau yn cael eu rhoi yn erbyn eich incwm i weld pa mor fforddiadwy yw eich morgais.

Byddant yn edrych ar eich:

  • biliau’r cartref 
  • ad-daliadau dyled eraill, a
  • costau byw fel teithio, gofal plant ac adloniant.

Byddant hefyd yn gwirio sut y byddech yn ymdopi â chynnydd yn y gyfradd llog neu newidiadau yn eich ffordd o fyw fel colli incwm un unigolyn i gyplau.

Mae hyn yn golygu y gallwch ei chael hi’n anodd ail-forgeisio gyda benthyciwr newydd.

Felly, cyn ichi newid, gwiriwch eich costau ail-forgeisio a chysylltwch â’ch benthyciwr presennol i weld beth y gall ei gynnig i chi

Os ydych ar forgais llogau yn unig fe welwch fod benthycwyr yn edrych yn fanwl ar eich cynllun ad-dalu i sicrhau ei fod ar y llwybr iawn i dalu’r benthyciad gwreiddiol ar ddiwedd y morgais.

Os nad ydyw, fe allwch ei chael hi’n anodd newid i forgais llogau yn unig newydd.

Bydd benthycwyr yn derbyn cynlluniau ad-dalu gwahanol fel:

  • cynilion a buddsoddiadau cyson;
  • defnyddio taliadau bonws yn y dyfodol gyda thystiolaeth; a
  • gwerthiant ased gwerthfawr yn y dyfodol gyda thystysgrif gyfredol yn nodi ei werth.

Os byddwch yn penderfynu newid i forgais newydd eich hun bydd raid i chi ymchwilio i’r farchnad a dewis cynnyrch heb unrhyw help na chyngor.

Ar ôl i chi ddewis, bydd raid i chi roi cyfarwyddiadau manwl i’r benthyciwr am:

  • gwerth eich cartref
  • y morgais yr ydych am ei gael,
  • faint yr ydych yn ei fenthyca, ac
  • am ba mor hir y bydd y morgais yn parhau.

Gelwir hyn yn weithredu yn unig felly bydd y benthyciwr yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad ydych wedi cael cyngor nac asesiad a yw’r morgais newydd yn addas i chi, a bydd raid i chi gadarnhau hynny.

Ble gallwch gymharu cynigion morgeisi

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.

Mae gwefannau poblogaidd ar gyfer cymharu morgeisi, yn cynnwys:

Cofiwch:

  • Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
  • Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
  • Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.