Gall cynilo am flaendal deimlo fel y rhan fwyaf anodd o brynu cartref. Tra bydd cael blaendal mawr yn rhoi’r cyfle gorau i chi i gael cynnig morgais da â cyfradd llog isel, mae dewisiadau ar gael i bobl â blaendal is a help gan y llywodraeth i’ch cael ar yr ysgol tai.
Beth yw eich dewisiadau blaendal morgais?
Mae’r prynwr tro cyntaf cyfartalog yn gosod blaendal o 20% ar eu cartref cyntaf, a allai olygu dod o hyd i’r swm brawychus o £50,000 (ar eiddo gwerth £250,000) neu ragor.
Efallai byddwch yn ei chael yn anodd i godi cymaint o arian â hyn ar eich pen eich hunan ac mae rhai dewisiadau ar gael i chi.
Mae morgeisi ar gael hefyd sy’n gofyn am flaendal is o dua 5% neu 10%. Bydd rhaid i chi siopio o gwmpas i ddod o hyd i’r cynigion hyn a dylech gofio bod y rhain yn debygol o gostio’n fwy i chi mewn llog dros hyd y morgais a gallant gael cyfradd uwch o log.
Bydd yn eich helpu i weithio allan maint y blaendal morgais y bydd ei angen arnoch os byddwch yn gwirio prisiau tai yn yr ardal lle rydych chi am brynu.
- Edrychwch am dai am werth yn eich cod post dewisol ar RightmoveYn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch gyfrifiannell mynegai prisiau tai Nationwide
Mae yna hefyd ychydig o gynlluniau gan y llywodraeth i helpu prynwyr tro cyntaf i fynd ar yr ysgol eiddo.
Mae’r rhain yn cynnwys yr ISA Gydol Oes, Cymorth i Brynu yng Nghymru, Hawl i Brynu a Rhanberchnogaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr tai tro cyntaf a pherchnogion tai presennol
Faint bydd rhaid i chi ei gynilo?
Unwaith y gwyddoch faint o flaendal y bydd arnoch ei angen, gwnewch gynllun i gyrraedd y nod hwn.
Mae cynilo’n rheolaidd yn fwy effeithiol na dibynnu ar symiau un-tro afreolaidd.
Mae faint o amser y bydd yn ei gymryd yn dibynnu ar faint allwch fforddio ei gynilo bob mis. Byddwch yn realistig am faint y gallwch ei fforddio. Mae’n gallu helpu os ydych yn sefydlu archeb sefydlog i mewn i gynilion ar gyfer y diwrnod ar ôl i chi gael eich talu.
Er enghraifft, os ydych am brynu ymhen tair blynedd a bydd arnoch angen £10,000: bydd angen ichi gynilo oddeutu £265 y mis.
Ond, os ydych yn teimlo’n esmwyth yn cynilo £150 y mis yn unig, byddwch yn cyrraedd eich nod cynilo ymhen ychydig mwy na phum mlynedd yn lle tair.
Efallai bod hyn yn ymddangos fel amser hir i aros, ond mae’n well na cheisio cynilo gormod a rhoi’r ffidl yn y to’n gyfan gwbl.
Dechrau cynilo am flaendal
Unwaith eich bod yn gwybod faint mae rhaid i chi ei gynilo, bydd rhaid i chi feddwl ble byddwch yn ei gynilo.
Efallai fod gennych eisoes gyfrif banc sy’n gadael i chi sefydlu potyn ar wahân ar gyfer eich nodau ariannol, neu gyfrif cynilo arall y gallwch ddefnyddio ar gyfer yr arian hwn.
Os ydych yn mynd i fod yn cynilo am amser maith, dylech feddwl am faint o log gallwch ei hennill ar yr arian hwn.
Gallai cyfrif cynilo dim rhybudd ymddangos yn gyfleus. Ond yn aml maent yn talu cyfradd is o log, ac os na fyddwch eisiau’r arian am ychydig flynyddoedd, nid oes rhaid i chi gael at yr arian yn syth. Felly efallai byddwch am edrych ar gyfrif cynilo tymor hwy sy’n talu mwy o log i chi.
Gallai agor ISA Gydol Oes (LISA) os ydych yn brynwr tro cyntaf o dan 40 oed roi hwb o 25% ar eich cynilion. Er enghraifft, os ydych yn rhoi £1,000 yn eich ISA Gydol Oes, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £250.
Darllenwch fwy am sut maent yn gweithio yn ein canllaw ISAs gydol oes
Gall sefydlu archeb sefydlog rheolaidd i drosglwyddo arian yn awtomatig i’ch cyfrif cynilo eich helpu i gynilo’n gyflymach byth.
Darganfyddwch fwy am Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Gwefannau cymharu prisiau
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.
Mae gwefannau poblogaidd er mwyn cymharu cyfrifon cynilo yn cynnwys:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch a nodweddion sydd angen arnoch cyn prynu neu newid cyfrifon.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Cael y gorau o wefannau cymharu
Rheoli eich cyfrifon cynilo
Adolygwch eich cyfrif cynilo o leiaf unwaith y flwyddyn i wirio eich bod yn cael y gyfradd llog gorau. Os ydych yn defnyddio ISA Gydol Oes, cofiwch achub cyfle’r Lwfans £4,000 cyn diwedd y flwyddyn dreth (5ed Ebrill) i gael uchafswm y bonws 25%.
Os yw eich incwm yn codi, gwelwch a allwch ychwanegu’r arian ychwanegol i’ch archeb sefydlog bob mis, bydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod yn gynt.
Beth i’w wneud nesaf
- Agorwch gyfrif cynilo os nad oes gennych un eisoes – ewch ar-lein neu drefnwch gyfarfod yn eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Gwiriwch a allwch leihau’r blaendal sydd ei angen arnoch, er enghraifft, trwy gynllun Cymorth i Brynu neu gefnogaeth y teulu.
- Trefnwch daliad rheolaidd i mewn i’ch cyfrif cynilo bob mis. Defnyddiwch y templed hwn y gellir ei lawrlwytho i anfon cyfarwyddyd archeb sefydlog i’ch banc (DOCX, 17KB).