Os ydych yn denant tŷ cyngor neu gymdeithas dai, efallai y gallech brynu’ch cartref am bris is na phetai ar y farchnad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Hawl i Brynu
Mae'r cynllun hwn yn helpu tenantiaid cyngor a chymdeithasau tai cymwys yn Lloegr i brynu eu cartref.
Uchafswm y disgownt hawl i brynu yw:
- £127,900 yn Llundain
- £96,000 ar gyfer gweddill Lloegr
- £24,000 yng Ngogledd Iwerddon.
Os gwerthwch cyn pen pum mlynedd byddwch yn gorfod talu swm llawn eich gostyngiad yn ôl hefyd, neu ran ohono, ynghyd â chyfran o unrhyw elw.
A gaf ymgeisio?
Cewch, os:
- buoch yn denant y cyngor neu’r sector cyhoeddus ers tair blynedd
- bydd y cartref y dymunwch ei brynu yn cael ei ddefnyddio fel eich prif gartref
- nad ydych yn rhannu ystafelloedd gyda phobl eraill – h.y. mae’r eiddo’n hunangynhwysol
- mai’r cyngor, cymdeithas dai, ymddiriedolaeth GIG yw eich landlord, neu unrhyw landlord sector cyhoeddus arall.
Hefyd:
- Gallwch wneud cais am Hawl i Brynu gyda rhywun arall sy’n rhannu’r denantiaeth gyda chi; neu gyda hyd at dri aelod o’ch teulu os buoch yn byw gyda’ch gilydd ers o leiaf y 12 mis diwethaf.
- Os gwerthodd y cyngor eich cartref i landlord sector cyhoeddus arall tra yr oeddech yn byw yno, gall yr hawl fod gennych o hyd i’w brynu dan ‘Hawl i Brynu a Gadwyd’Yn agor mewn ffenestr newydd.
Pryd nad oes gennych Hawl i Brynu?
- os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu fod gennych dyledion mawr
- os yw eich cartref wedi ei gadw er defnydd yr henoed a’r anabl
- pan fydd prinder tai.
Sut wyf yn cychwyn ar y broses?
Gofynnwch i’ch landlord am ffurflen Hawl i Brynu. Unwaith y byddwch wedi ei phostio, mae'n rhaid i’ch landlord ateb cyn pen pedair wythnos.
Os mai na fydd yr ateb mae'n rhaid iddo roi rheswm, ac os mai ie fydd yr ateb bydd yn anfon cynnig atoch.
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Asiantwyr Hawl i BrynuYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor diduedd ac am ddim neu i helpu gyda'r broses ymgeisio.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar wefan Own Your HomeYn agor mewn ffenestr newydd
Faint fydd yn costio i brynu’r eiddo?
Bydd eich landlord yn cyhoeddi ei bris ac yn egluro’r gostyngiad.
Os credwch nad yw’r pris yn un teg gallwch ofyn am bris gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol gan Gyllid a Thollau EMYn agor mewn ffenestr newydd
- Bydd cynnig y landlord yn cynnwys disgrifiad o’r eiddo ac unrhyw dir, manylion unrhyw broblemau strwythurol ac amcangyfrif o’r ffi wasanaethu (os o gwbl) am y pum mlynedd gyntaf.
- Mae rhaid i’r landlord ddweud wrthych os oes cyfyngiad ynglŷn â phwy y gallwch werthu’ch cartref iddynt ymhen amser. Gallai hyn ei gwneud yn fwy anodd cael morgais.
- Mae gennych 12 wythnos i benderfynu i symud ymlaen neu beidio.
A gaf newid fy meddwl?
Cewch, gallwch dynnu’n ôl o’r gwerthiant ar unrhyw adeg a pharhau i rentu.
Codi’r arian
Mae’r rhan fwyaf o brynwyr angen morgais i dalu am eu cartref.
Gallwch ymgeisio am forgais yn uniongyrchol o’ch banc neu gymdeithas adeiladu, a bydd y darparwr yn gwirio a allwch fforddio’r ad-daliadau.
Faint allwch fforddio ei fenthyca?
Cyn symud ymlaen, gwnewch yn siŵr fod gennych ddigon o arian i dalu am unrhyw ffioedd a chostau eraill y bydd angen i chi eu talu yn ystod y broses o brynu eich cartref.
Hawl i Gaffael (Lloegr)
Cynigir y cynllun Hawl i Gaffael yn Lloegr ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai nad ydynt yn gymwys ar gyfer Hawl i Brynu.
- Mae rhaid eich bod wedi bod yn denant ers tair blynedd o leiaf ac yn bwriadu prynu’ch eiddo i’w ddefnyddio fel eich prif gartref.
- Ni chewch ymuno â’r cynllun os ydych dan fygythiad o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu fod gennych ddyledion mawr.
- Os yw’r eiddo ar fin cael ei ddymchwel, neu yn cael ei ddarparu ar gyfer yr henoed, pobl anabl neu bobl sydd mewn swyddi neilltuol, ni fydd y tenant yn gymwys.
- Mae’r gostyngiadau yn is na’r hyn a gynigir dan Hawl i Brynu ac yn amrywio o £9,000 i £16,000 fel arfer.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae’n rhaid bod eich landlord yn gymdeithas dai neu ar y gofrestr o ddarparwyr tai cymdeithasol
Mae'n rhaid bod arian cyhoeddus wedi ei ddefnyddio i ariannu adeiladu’ch cartref neu wedi ei drosglwyddo o gyngor lleol ers 1 Ebrill 1997.
Rhagor o wybodaeth
Cynlluniau gwerthu tai yng Ngogledd Iwerddon
Unwaith y byddwch wedi bod yn denant am bum mlynedd efallai y byddwch yn gallu prynu eich cartref. Mae swm y disgownt y byddwch yn ei gael yn cynyddu yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi byw yn yr eiddo. Ni ellir prynu rhai mathau o eiddo oherwydd prinder eiddo ac mae ei angen am stoc tai cymdeithasol.
Uchafswm y disgownt sydd ar gael i denantiaid Yr Awdurdod Gweithredol Tai neu gymdeithasau tai sy'n gwneud cais i brynu eu cartref yw £24,000. Bydd eich gostyngiad yn 20% os ydych wedi byw yn y tŷ am 5 mlynedd. Byddwch yn cael gostyngiad ychwanegol o 2% am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm disgownt o 60% o'r prisiad neu £24,000 (pa bynnag un yw'r lleiaf).