Mae mwy i forgais na dim ond yr ad-daliadau misol. Dysgwch am y gwahanol fathau o forgeisi, faint o log y byddwch yn ei dalu, a beth fydd yn digwydd os bydd eich cyfradd yn newid. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r morgais gorau i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r gwahanol fathau o forgeisi?
- Morgais cyfradd sefydlog
- Beth yw morgais cyfradd amrywiol
- Morgais cyfradd amrywiol safonol (SVR)
- Morgais cyfradd gostyngedig
- Morgais gwrthbwyso
- Morgais arian yn ôl
- Ailforgeisio neu ‘drosglwyddo’ eich morgais
- Sut i gymharu cynnigion morgais
- Morgeisi gyda nodweddion hyblyg
- Gofynnwch y cwestiynau hyn wrth ddewis morgais
- Siaradwch â brocer neu ymgynghorydd morgeisi
- Defnyddiwch wefannau cymharu morgeisi
Beth yw’r gwahanol fathau o forgeisi?
Pan fyddwch chi’n cael benthyciad i brynu’ch cartref, codir llog arnoch chi ar yr hyn rydych chi’n ei fenthyg. Gelwir hyn yn ‘gyfradd morgais’.
Mae dau brif fath o forgeisi:
- Cyfradd sefydlog mae’r llog a godir arnoch yn aros yr un fath am nifer o flynyddoedd, rhwng 2 a 10 mlynedd yn nodweddiadol.
- Cyfradd amrywiol gall y llog rydych chi’n ei dalu newid.
I gael syniad o’r hyn y gallech ei dalu gyda’r mathau gwahanol hyn o forgeisi, defnyddiwch ein Cyfrifiannell morgeisi
Gwiriwch pa gyfradd llog morgais y gallwch ei fforddio
Mae’n syniad da gwneud yn siŵr y gallech fforddio’r ad-daliadau morgais os bydd eich cyfradd llog yn newid.
I ddarganfod beth allech chi ei fenthyg a sut y gallai hyn gyd-fynd â’ch cyllideb misol, defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais
Morgais cyfradd sefydlog
Gyda morgais cyfradd sefydlog mae’r gyfradd llog yn aros yr un fath am hyd y bargen.
Maent hefyd yn cael eu galw’n ‘pris dwy flynedd’, ‘pris pum mlynedd’, neu hyd yn oed ‘pris deng mlynedd’.
Bydd eich ad-daliadau misol yn aros yr un fath yn ystod y cyfnod hwn, ni waeth beth fydd yn digwydd yn y farchnad.
Ond pan ddaw’r cynnig i ben, mae’r gyfradd llog yn newid i gyfradd newidiol safonol (SVR) y benthyciwr oni bai eich bod yn cael bargen newydd neu’n ailforgeisi.
Mae’r SVR yn aml yn uwch felly mae’n debygol y bydd eich taliadau misol yn cynyddu.
Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd sefydlog
Manteision
-
Bydd eich taliadau misol yn aros yr un fath, gan eich helpu i gyllidebu.
-
Nid ydych yn cael eich effeithio gan gyfraddau llog cynyddol yn ystod eich tymor sefydlog.
-
Yn aml gallwch wneud taliadau morgais ychwanegol, hyd at 10% y blwyddyn heb ffi.
Anfanteision
-
Mae cynnigion cyfradd sefydlog fel arfer ychydig yn uwch na morgeisi cyfradd amrywiol.
-
Os bydd cyfraddau llog yn gostwng, ni fyddwch yn elwa.
-
Efallai bydd ffioedd os ydych am adael y bargen yn gynnar. Fel arfer rydych wedi’ch clymu i mewn ar gyfer cyfnod penodol.
Beth yw morgais cyfradd amrywiol
Cyfradd amrywiol yw un lle gall y llog a dalwch ar eich morgais bob mis fynd i fyny neu i lawr, fel arfer yn unol â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Mae hyn yn golygu rhai misoedd y byddwch yn talu mwy, a rhai misoedd y byddwch yn talu llai. Gall hyn fod yn beryglus gan y gallech ei chael hi’n anodd cyllidebu.
Mae’r mathau hyn o forgeisi yn cynnwys tracio, newidyn safonol a newidyn gostyngol.
Beth yw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar hyn o bryd?
Y gyfradd sylfaenol ar hyn o bryd yw 5%.
Morgeisi cyfradd tracio
Mae cyfraddau tracio yn dilyn cyfradd llog arall, fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ynghyd ag ychydig y cant.
Er enghraifft, os bydd y gyfradd sylfaenol yn cynyddu 0.5%, bydd eich cyfradd yn cynyddu 0.5%.
Maent fel arfer yn para am ddwy i bum mlynedd. Mae rhai benthycwyr yn cynnig tracwyr sy’n para am oes eich morgais neu nes i chi newid i cynnig arall.
Cofiwch wirio’r print mân – gwnewch yn siŵr na all eich benthyciwr godi cyfraddau pan nad yw’r gyfradd y mae eich morgais yn gysylltiedig â hi wedi newid. Mae’n brin, ond mae wedi digwydd o’r blaen.
Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd tracio
Manteision
-
Os yw’r gyfradd y mae’n tracio yn gostwng, felly hefyd bydd eich taliadau morgais.
-
Nid ydych chi fel arfer wedi’ch clymu i mewn, felly gallwch newid cytundeb neu ddarparwr yn gynnar.
-
Fel arfer mae llai o gyfyngiadau neu ddim cyfyngiadau ar wneud taliadau ychwanegol.
-
Yn aml gallwch newid yn gynnar heb ffi, ond gwiriwch gyda’ch benthyciwr bob tro.
Anfanteision
-
Os yw’r gyfradd y mae’n tracio yn cynyddu, felly hefyd bydd eich taliadau morgais.
Morgais cyfradd amrywiol safonol (SVR)
Y gyfradd amrywiol safonol (SVR) yw’r gyfradd llog y mae benthyciwr morgeisi yn ei defnyddio ar gyfer eu benthyciad morgais safonol. Gall y gyfradd newid ar unrhyw adeg.
Mae pob benthyciwr yn gosod eu SVR eu hunain, ac mae’r gyfradd fel arfer yn uwch na’u cynhyrchion morgais eraill.
Mae rhai hyd at 5% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr, felly gall hyn wneud cyfraddau amrywiol safonol yn opsiwn drud.
Os byddwch yn cael eich symud i SVR eich benthyciwr morgais, fel arfer gallwch aros arno nes i’ch morgais ddod i ben, oni bai eich bod yn trefnu cynnig newydd gyda nhw neu fenthyciwr arall.
Manteision ac anfanteision morgeisi SVR
Manteision
-
Rhyddid - gallwch adael ar unrhyw adeg.
-
Fel arfer nid oes terfyn ar wneud taliadau ychwanegol tuag at eich morgais (gordalu), hyd yn oed mewn symiau mawr.
Anfanteision
-
Gall eich cyfradd newid ar unrhyw adeg.
-
Mae’r gyfradd fel arfer yn uwch na mathau eraill o gytundebau.
Morgais cyfradd gostyngedig
Mae hwn yn ostyngiad oddi ar SVR y benthyciwr a dim ond am gyfnod penodol o amser y mae’n berthnasol, fel arfer dwy neu dair blynedd.
Mae gan fenthycwyr gwahanol gyfraddau, felly mae’n syniad da i siopa o gwmpas – nid yw gostyngiad uwch o reidrwydd yn golygu cyfradd llai.
Enghraifft o gyfradd gostyngedig
Mae gan ddau fanc gyfraddau gostyngedig:
- Mae gan Fanc A ostyngiad o 2% oddi ar SVR o 6% (felly byddwch yn talu 4%)
- Mae gan Fanc B ostyngiad o 1.5% oddi ar SVR o 5% (felly byddwch yn talu 3.5%).
Er bod y gostyngiad yn fwy ar gyfer Banc A, Banc B fydd yr opsiwn rhatach.
Manteision ac anfanteision morgeisi cyfradd gostyngedig
Manteision
-
Cost – mae’r gyfradd yn cychwyn yn rhatach, a fydd yn cadw ad-daliadau misol yn is.
-
Os yw’r benthyciwr yn torri ei SVR, byddwch yn talu llai bob mis.
Anfanteision
-
Mae’n anodd i gyllidebu gan gallai’r benthyciwr gynyddu’r gyfradd ar unrhyw adeg.
-
Os bydd cyfraddau sylfaenol Banc Lloegr yn cynyddu, mae’n debyg bydd eich cyfradd gostyngedig yn cynyddu hefyd.
-
Efallai y bydd angen i chi dalu ffi os ydych yn gadael cyn diwedd y cyfnod gostyngedig.
Morgais gwrthbwyso
Mae morgais gwrthbwyso yn cysylltu eich morgais â chyfrif cynilo. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu llog ar ran o’ch morgais, sy’n cyfateb i faint sydd yn eich cyfrif cynilo.
Fel arfer, ni fydd eich cyfrif cynilo cysylltiedig yn ennill llog. Yn lle hynny, rydych yn talu llai o log ar eich morgais.
Enghraifft o forgais gwrthbwyso
- Mae gennych forgais gwrthbwyso o £200,000 gyda llog o 3%.
- Mae gennych hefyd £10,000 o gynilion mewn cyfrif gwrthbwyso.
Dim ond ar £190,000 y byddech chi’n talu llog. Mae eich cynilion o £10,000 yn cael eu gwrthbwyso, felly nid oes angen i chi dalu’r llog o 3% am y swm hwn.
Manteision ac anfanteision morgais gwrthbwyso
Manteision
-
Efallai y byddwch yn ad-dalu’ch morgais yn gynt na morgais safonol.
-
Gallwch ddal i dynnu’ch cynilion yn ôl os oes angen.
Anfanteision
-
Ni fyddwch yn ennill llog ar eich cynilion.
-
Mynediad cyfyngedig i gynnigion cyfradd ostyngol.
-
Gallech ennill llog gwell ar eich cynilion yn rhywle arall.
I weld a allai’r math hwn o forgais weithio i chi, defnyddiwch gyfrifiannell morgais gwrthbwyso MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Morgais cyfrif cyfredol
Mae hwn yn fath o forgais gwrthbwyso. Gyda’r cynnig yma, ni chodir llog arnoch ar y balans sydd gennych yn eich cyfrif cyfredol.
Felly, os oes gennych forgais o £150,000 a £2,000 yn eich cyfrif cyfredol, byddwch yn talu llog ar y £148,000 sy’n weddill.
Bydd swm y llog yr ydych yn ei dalu yn codi ac yn gostwng yn dibynnu ar y swm yn eich cyfrif cyfredol bob dydd.
Morgais arian yn ôl
Gyda morgais arian yn ôl, byddwch yn cael rhywfaint o arian parod pan fyddwch yn cymryd eich morgais. Gallai hyn fod naill ai:
- canran o’r hyn yr ydych yn ei fenthyg, neu
- swm penodol o arian.
Byddwch yn cael yr arian yn ôl unwaith y bydd y gwerthiant wedi’i gwblhau. Gellir defnyddio hwn i helpu gyda chostau fel dodrefn ac atgyweiriadau i’ch cartref newydd.
Mae morgeisi arian yn ôl fel arfer yn codi cyfradd llog uwch na morgeisi eraill. Cymharwch eich bargen â morgeisi eraill i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda’r gost gyffredinol.
Ailforgeisio neu ‘drosglwyddo’ eich morgais
Mae’r rhan fwyaf o forgeisi bellach yn ‘drosglwyddadwy’, sy’n golygu y gallwch fynd â nhw gyda chi pan fyddwch yn symud i gartref newydd.
Ond mae ‘trosglwyddo’ eich cynnig yn dal i gael ei drin fel gwneud cais am forgais newydd, felly bydd angen i chi fodloni gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr i gael eich cymeradwyo.
Os na fyddwch chi’n pasio’r gwiriadau, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i fenthyciwr newydd. Gallai hyn olygu talu ffi am adael eich morgais presennol yn gynnar.
Pan fyddwch yn ‘trosglwyddo’ morgais, dim ond y swm sy’n ddyledus gennych sy’n aros ar y cynnig sefydlog neu ostyngedig gyfredol. Bydd yn rhaid i chi gael cynnig morgais newydd am unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen arnoch, a gallai’r telerau fod yn wahanol i’ch hen gynnig.
Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n symud cyn i’r cynnig newydd ddod i ben, ystyriwch gynnigion gyda chosbau ad-dalu cynnar isel neu ddim o gwbl. Mae hyn yn rhoi mwy o ryddid i chi chwilio am opsiynau gwell pan fyddwch chi’n symud.
Darganfyddwch fwy am ailforgeisio
Sut i gymharu cynnigion morgais
Wrth gymharu morgeisi sefydlog, amrywiol neu dracio gwiriwch yr holl ffigurau a ddaw gyda’r cynnig i wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi.
Cofiwch gadw llygad am gostau gweinyddol yn ogystal ag unrhyw gosbau gadael yn gynnar.
Cymharwch fwy na’r gyfradd yn unig
Cymharwch y Gyfradd Tâl Ganrannol Flynyddol (APRC) bob amser i weld pa gynnig sydd orau.
Mae’r APRC yn dweud wrthych beth yw cyfanswm cost blynyddol eich morgais, gan gynnwys yr holl ffioedd a thaliadau, gan dybio eich bod yn cadw’r morgais am ei dymor llawn.
Rhaid i fenthycwyr ddatgan yr APRC ar gynnig morgais, ac mae hefyd i’w weld ar wefannau cymharu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu cynnigion i ddod o hyd i un sy’n cyd-fynd â’ch cyllideb.
Er enghraifft, os ydych yn talu ffi ymlaen llaw, efallai y cewch gyfradd llog is, ond efallai na fydd yn arbed arian i chi yn gyffredinol. Os dewiswch forgais heb ffi, efallai y byddwch yn wynebu cyfradd uwch.
Morgeisi gyda nodweddion hyblyg
Mae rhai morgeisi confensiynol yn cynnig nodweddion hyblyg:
Yr opsiwn i ordalu
Mae llawer o forgeisi yn caniatáu i chi dalu mwy na’ch taliad misol arferol fel y gallwch leihau eich dyled yn gyflymach.
Gwiriwch a oes cyfyngiad ar faint y gallwch chi ei ordalu bob blwyddyn. Mae’n aml yn 10% o’r morgais.
Gallai ad-dalu’ch morgais cyn diwedd ei dymor ymddangos yn syniad gwych, ond efallai y codir ffi ad-dalu’n gynnar arnoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio telerau eich cytundeb morgais.
Yr opsiwn i gymryd gwyliau talu
Gyda rhai morgeisi efallai y byddwch yn cael cymryd gwyliau talu. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau am gyfnod cyfyngedig.
Darllenwch fwy mewn Canllaw i wyliau talu morgais
Tandalu
Os ydych wedi gordalu yn y gorffennol, efallai y bydd benthyciwr yn caniatáu i chi dalu llai na’ch ad-daliad misol arferol os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid.
Os byddwch yn tandalu, bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu’ch morgais a byddwch yn talu mwy o log dros gyfnod y benthyciad.
Gofynnwch y cwestiynau hyn wrth ddewis morgais
- Ydych chi eisiau taliadau misol sefydlog, neu a ydych am gael budd os bydd cyfraddau llog yn gostwng?
- Ydych chi am ychwanegu rhai neu i gyd o’ch ffioedd morgais at eich morgais?
- Pa mor hir yw’r cyfnod sefydlog?
- Ydych chi eisiau’r hyblygrwydd i ordalu, tandalu neu gymryd seibiannau talu?
- Ydych chi eisiau gallu symud benthycwyr, neu ailforgeisio, pan fyddwch chi eisiau?
- Allwch chi fforddio eich ad-daliadau os yw’r llog yn cynyddu dros cyfradd benodol?
- Ydych chi eisiau defnyddio’ch cynilion i helpu i dalu’ch morgais yn gynt?
Siaradwch â brocer neu ymgynghorydd morgeisi
Gall ymgynghorwyr morgeisi annibynnol chwilio’r farchnad ar eich rhan ac argymell y fargen orau.
Darganfyddwch y bobl iawn i siarad â nhw am gartrefi a morgeisi yn ein canllaw Prynu a gwerthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol.
Defnyddiwch wefannau cymharu morgeisi
Gall gwefannau cymharu eich helpu i ymchwilio i ba fargeinion sydd ar gael, a’ch helpu i weld y math o gynnyrch a nodweddion y mae benthycwyr yn eu cynnig.
Chwiliwch ar-lein neu rhowch gynnig ar y gwefannau hyn i ddechrau:
- MoneyfactsOpens in a new window
- MoneySavingExpertOpens in a new window
- MoneySuperMarketOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd
Ni fyddant i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un cyn penderfynu.