Ôl-ddyledion morgais neu broblemau wrth dalu’ch morgais

Cam 1 – Cysylltu â’ch benthyciwr

Bydd eich benthyciwr morgais yn awyddus i helpu a bydd yn egluro’ch opsiynau.

Mae rhaid iddynt wneud ymgais rhesymol i ddod i gytundeb â chi, gan gynnwys ystyried a ddylid newid sut rydych yn gwneud taliadau a phryd rydych yn eu gwneud.

Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn diffinio ôl-ddyledion o fewn contract morgais rheoledig neu gynllun prynu cartref fel diffyg sy'n cyfateb i ddau neu fwy o daliadau misol.

Beth i’w ddisgwyl gan eich benthyciwr morgais

Os ewch i ôl-ddyledion, o fewn 15 niwrnod mae rhaid i’ch benthyciwr :

  • rhoi gwybod i chi am gyfanswm eich ôl-ddyledion
  • rhestru’r holl daliadau rydych wedi’u methu enu eu talu'n rhannol
  • rhoi gwybod i chi am yr union swm sy’n weddill dan eich morgais
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd a godir oherwydd methu unrhyw daliadau (a rhoi gwybod i chi am y ffioedd tebygol yn y dyfodol os na thelir yr ôl-ddyledion).

Hefyd, mae rhaid i’ch benthyciwr beidio â chymryd camau i adfeddiannu oni bai fod pob ymdrech resymol arall i ddatrys y sefyllfa wedi methu, ac mae rhaid iddynt roi rhybudd rhesymol i chi cyn cymryd y camau hynny.

Sut i ofyn am cymorth os na allwch wnedu eich taliadau morgais misol

Mae rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais a wnewch i newid y ffordd rydych yn talu'ch morgais.

  • Cynigiwch ad-dalu'r hyn y gallwch ei fforddio wrth drafod eich opsiynau â'ch benthyciwr - mae'n well parhau i dalu rhywfaint o arian yn ôl na thalu dim a bydd yn helpu i leihau eich ôl-ddyledion.
  • Ystyriwch sut a phryd y gallwch ddychwelyd i wneud eich taliadau misol llawn.
  • Meddyliwch pryd y gallwch fforddio talu mwy i wneud taliadau sy'n fwy neu'n uwch na'ch taliad misol arferol i dalu unrhyw ôl-ddyledion.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau gallai eich benthyciwr hefyd wneud awgrymiadau ar eich rhan, er enghraifft ymestyn eich tymor morgais.

Peidiwch ag oedi - mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl.

Cam 2 – Gwirio a oes gennych yswiriant

Gall yswiriant gwarchod taliadau morgais, a elwir hefyd yn yswiriant damweiniau, salwch a diweithdra, helpu gyda’ch ad-daliadau morgais os yw’ch incwm wedi gostwng oherwydd diswyddo, damwain neu salwch.

Efallai eich bod wedi ei gymryd pan gawsoch eich morgais – edrychwch drwy waith papur eich morgais a gwiriwch ddwywaith gyda’ch benthyciwr neu’r brocer a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gymryd y morgais.

Darganfyddwch fwy gyda'n canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?

Cam 3 – Cymryd camau i leihau’ch costau

Cynlluniwch eich cyllideb

Bydd treulio peth amser yn ystyried eich arferion gwario yn eich helpu i weld a allwch arbed arian yn unrhyw le.

Er mwyn helpu i weld ble y gallwch arbed arian parod, edrychwch ar eich gwariant mewn perthynas â'r hyn sydd gennych yn dod i mewn yna rhannwch y gwariant yn eitemau hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol.

Dechreuwch gyda'n Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio

Lleihau eich gwariant ar eitemau nad ydynt yn hanfodol

Mae cyllidebu’n hollbwysig os ydych yn cael trafferth talu’ch treuliau. Dyma rai ffyrdd o dorri’n ôl.

  • Edrychwch ar y Debydau Uniongyrchol sy’n mynd allan o’ch cyfrif bob mis – pethau fel aelodaeth o gampfa a thanysgrifiadau i gylchgronau. Ystyriwch yn awr a ydych y cael gwerth am arian o’r holl bethau hyn. Os nad ydych, dylech eu canslo.
  • Ceisiwch restru’r eitemau llai nad ydynt yn hanfodol rydych yn eu prynu bob dydd – coffi parod o siop neu ddiodydd ar ôl y gwaith. Trefnwch hwy yn ôl eu blaenoriaeth. Dewiswch yr eitemau blaenoriaeth is yn gyntaf a’u torri allan, un ar y tro.

Lleihau eich gwariant ar eitemau hanfodol

Am bethau fel bwyd a biliau ynni - edrychwch ar beth mae cwmnïau eraill yn eu cynnig er mwyn ceisio cael cytundeb gwell.

Fodd bynnag, meddyliwch yn ofalus cyn lleihau eich yswiriant, yn enwedig yswiriant bywyd.

Gofynnwch i chi’ch hun a fyddai gwario ychydig ar y premiwm yn well na’r risg o beidio â derbyn taliad llawn petaech yn marw neu dalu miloedd o bunnoedd allan o’ch arian eich hun petai rhywbeth yn digwydd i’ch cartref.

Cam 4 – Siarad â gwasanaeth cwnsela am ddim ar ddyledion

Yn ogystal â siarad â’ch benthyciwr, mynnwch gyngor gan un o’r nifer o sefydliadau neu elusennau sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion.

Gall cynghorydd ariannol hyfforddiedig o asiantaeth annibynnol, fel Cyngor ar Bopeth neu Shelter, roi cyngor diduedd am ddim i chi.

Mae elusennau eraill ar gael hefyd a fydd yn gallu’ch helpu chi a rhoi gwybodaeth am ble i ddod o hyd i atebion.

Cam 5 – Holi i weld a allwch gael help â’ch taliadau morgais

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym pa gefnogaeth gallech fod â hawl iddo.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai eich bod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau – a/neu i gael help gan y llywodraeth tuag at eich taliadau llog.

A ydych yn poeni caiff eich cartref ei adfeddiannu?

Os ydych yn poeni y gallech golli’ch cartref oherwydd nad ydych wedi bod yn gwneud eich ad-daliadau, gall elusennau roi cymorth a chyngor i chi, ac mae digon o help ar gael mewn mannau eraill hefyd.

Ewch i wefan ShelterYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth ar adfeddiannu tai, neu ar wefan Housing RightsYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yng Ngogledd Iwerddon.

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cymorth a chyngor.

Beth yw wneud os oes rhywun yn ceisio cael meddiant o’ch cartref

Mae help ar gael o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan gredydwr sy'n ceisio cael meddiant o’ch cartref.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion.

Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn argymell atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:

  • ôl-ddyledion morgais
  • taliadau budd-daliadau lles
  • dyled.

Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â'r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.

Gallwch ddod o hyd i'ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio'r blwch 'Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai' yn, dod o hyd i gyngor cyfreithiol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gwerthu’ch cartref pan fydd popeth arall wedi methu

Os ydych yn gwybod na fydd eich sefyllfa’n newid yn yr hirdymor, ystyriwch werthu’ch cartref eich hun a rhentu neu symud i eiddo rhatach.

Os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, gofynnwch i’ch benthyciwr a gewch aros yn eich eiddo nes y byddwch wedi’i werthu a gofyn a yw’n cynnig help drwy gynllun Gwerthiant Gwirfoddol â Chymorth.

Ond gwnewch yn siŵr fod gennych le i fyw cyn symud allan. Os byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r benthyciwr a gwneud popeth yn eich gallu i’w werthu, dylai roi digon o amser i chi werthu.

Pethau i’w hosgoi

Ceisiwch gyngor ar ddyledion am ddim os ydych yn meddwl am droi i unrhyw un o’r opsiynau isod – mae’n debygol bydd datrysiad gwell a byddant yn gallu helpu.

  • Cymryd benthyciad ychwanegol i dalu'ch dyledion - gall y rhain leihau eich ymrwymiadau misol, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy - ond gallant fod yn ddrud iawn dros y tymor hir ac yn aml fe'u sicrheir ar eich cartref.
  • Trosglwyddo'r allweddi yn ôl - byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am yr ad-daliadau morgais cyn i'ch cartref gael ei werthu, ac o bosibl y balans sy'n weddill os nad yw'r arian a godir trwy werthu eich cartref yn ddigon i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.
  • Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl - dyma lle rydych yn gwerthu'ch cartref i gwmni a'i rentu'n ôl oddi wrthynt. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl.

Cymorth morgais i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd

Ym mis Mehefin 2023, cytunodd benthycwyr i siarter morgais newydd sy'n darparu cymorth i gwsmeriaid morgeisi preswyl sydd wedi cael ei effeithio gan gynydd cyfraddau llog. Dyma'r rhain:

Cymorth gan eich benthyciwr

Os ydych chi'n poeni am ad-dalu morgais, ffoniwch eich benthyciwr. Gall eu staff hyfforddedig ateb eich cwestiynau a chynnig opsiynau cymorth wedi'u teilwra. Ni fydd gofyn am help yn effeithio ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai opsiynau 'goddefgarwch' yn cael eu hadlewyrchu ar eich ffeilYn agor mewn ffenestr newydd Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch benthyciwr beth allai'r effaith fod o unrhyw opsiwn penodol.

Gallai cymorth olygu ymestyn tymor eich morgais i ostwng eich taliadau misol, cynnig newid i daliadau llog yn unig, a darparu mynediad at ystod o opsiynau eraill, fel gohirio taliadau dros dro neu forgais rhan llog-rhan ad-daliad. Bydd yr opsiwn cywir yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Cefnogaeth gan y llywodraeth

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y llywodraeth os ydych yn cael trafferth gyda’ch morgais. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y DU, mae budd-daliadau'r llywodraeth ynghyd â chynlluniau fel y cynllun Achub Morgeisi, Cymorth ar gyfer Llog Morgais, neu Gymorth i Aros yng Nghymru yno i'ch helpu.

Am fwy o fanylion, darllenwch ein canllaw Help gan y Llywodraeth os na allwch dalu’ch morgais

Cytundeb cyfradd sefydlog wedi’i gloi

Byddwch yn cael cynnig cyfle i gloi cytundeb hyd at chwe mis. Byddwch yn rhydd o hyd i wneud cais am gytundeb gwell, os oes un ar gael, hyd nes y bydd eich cytundeb morgais newydd yn dechrau.

Amser i ddatrys eich sefyllfa ariannol

Ni fydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu o fewn 12 mis i'ch taliad morgais cyntaf a fethwyd.

Os ydych wedi bod yn talu eich taliadau ar amser

Gallwch newid i gytundeb morgais newydd ar ddiwedd eich cytundeb cyfradd sefydlog presennol heb wiriad fforddiadwyedd arall. Mae hyn yn cael ei ddarparu gyda'ch benthyciwr presennol ac nid yw telerau eich cytundeb morgais presennol yn newid.  

Hyblygrwydd ychwanegol i newid telerau eich morgais

Byddwch yn gallu newid i wneud ad-daliadau llog yn unig am chwe mis neu ymestyn cyfnod eich morgais, a fydd yn gostwng eich taliadau misol. Gallai hyn olygu eich bod yn talu mwy o log dros gyfnod y morgais. Ni fydd angen gwiriad fforddiadwyedd newydd gan eich benthycwyr a bydd gennych yr opsiwn i newid yn ôl i dymor gwreiddiol eich morgais o fewn y chwe mis cyntaf. Ni fydd newid yn effeithio ar eich sgôr credyd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.